Mae’n gwestiwn a ofynnir i ni yn aml, ond mae’r ateb bob amser yn hawdd. Ydi, mae’n bendant werth ymweld â Llandudno! Yn adnabyddus fel ‘Brenhines Cyrchfannau Cymru’, mae’r dref arfordirol hardd hon ar arfordir gogledd Cymru’n cyfuno naws Fictoraidd oesol a chanol tref brysur, gyda dau draeth hyfryd a golygfeydd naturiol dramatig.
Mae digon o bethau i’w gweld a’u gwneud i ymwelwyr; mae gan Landudno rywbeth i’w gynnig i bobl o bob oed, chwaeth a chyllideb. Cewch ddarganfod y dref yn eich amser eich hun gan gerdded ar hyd y promenâd neu deithio ar y dramffordd i gopa’r Gogarth. Efallai y bydd yn well gan y rhai anturus yn eich plith brofi’r wefr ar gwch octan uchel ym Mae Llandudno. Bydd haneswyr wrth eu boddau’n archwilio mwyngloddiau copr cynhanesyddol y Gogarth neu chwilio am y Gwningen Wen ar hyd Llwybr Alys. Bydd pawb yn dotio at y golygfeydd godidog ar hyd yr arfordir. Mae’n rhaid i chi brofi Llandudno er mwyn gwerthfawrogi’r lleoliad gwirioneddol unigryw hwn.
Am beth mae Llandudno’n adnabyddus?
Mae Llandudno’n un o drefi arfordirol mwyaf poblogaidd y DU, mae’n enwog am y promenâd Fictoraidd mawreddog, gwestai glan môr lliwgar a’r pier traddodiadol. Mae’r dref wedi’i lleoli rhwng dau bentir calchfaen - y Gogarth a Thrwyn y Fuwch - sy’n ychwanegu at ei hunigrywiaeth a’i golygfeydd godidog o’r arfordir.
Mae hefyd yn adnabyddus am:
- Y Gogarth; pentir calchfaen mawreddog uwchben y dref;
- Pier hiraf Cymru, sy’n ymestyn allan i Fae Llandudno;
- Atyniadau hanesyddol gan gynnwys Tramffordd y Gogarth a Mwyngloddiau Copr;
- Dau draeth hollol wahanol; bywiogrwydd Traeth y Gogledd a thawelwch Penmorfa.
Y 5 prif beth i’w gwneud yn Llandudno
1. Teithio ar y dramffordd i gopa’r Gogarth
Mae llawer o ffyrdd i gyrraedd copa’r Gogarth, tirwedd naturiol mwyaf eiconig Llandudno. Gallwch yrru, cerdded neu feicio, ond os hoffech chi gael profiad mwy cofiadwy, byddem yn argymell teithio ar y dramffordd. Tramffordd y Gogarth yw’r unig dramffordd sy’n cael ei thynnu gan geblau ar ffordd gyhoeddus yn y DU. Mae’r gwasanaeth wedi bod yn weithredol ers 1902 ac yn teithio dros filltir o Church Walks yn y gwaelod i gopa’r Gogarth!
2. Cerdded ar hyd Pier Llandudno
Mae cerdded ar hyd pier hiraf Cymru, sy’n ymddangos ar filoedd o gardiau post a lluniau Instagram, yn un o brofiadau gorau Llandudno. Mae’r pier yn cynnig golygfeydd arfordirol, atyniadau traddodiadol, arcedau adloniant, caffis amrywiol a digon o hwyl i’r teulu cyfan. Dyma gartref yr Olwyn Fawr eiconig hefyd sy’n treulio tymor yr haf ar y pier - ffordd wych i weld y dref unigryw hon o’r awyr.
3. Archwilio Mwyngloddiau Copr y Gogarth
Mwyngloddiwyd haenau copr cyfoethog y Gogarth am dros 1,000 o flynyddoedd, ac yn y cyfnod hwn, adeiladwyd dros 5 milltir o dwneli. Rhoddwyd gorau i fwyngloddio yn y 1800au, a bu’r safle’n wag wedyn nes y cafodd ei ailddarganfod gan archeolegwyr yn y 1980au. Ers hynny, mae dros 30,000 o arteffactau wedi cael eu canfod, ac mae gwaith yn parhau i ddysgu mwy am hanes y safle pwysig hwn. Mae’r mwyngloddiau ar agor i’r cyhoedd erbyn hyn. Gallwch ddysgu am fywyd yn yr Oes Efydd a dilyn olion traed ein cyndeidiau o dan y ddaear - os ydych chi’n ddigon dewr!
4. Mwynhau traethau Llandudno
Mae dau draeth yn Llandudno, a byddem yn eich annog i ymweld â’r ddau. Ceir prysurdeb a chyffro yn Nhraeth y Gogledd gyda’r promenâd a’r Pier Fictoraidd, ond mae Traeth Penmorfa’n cynnig profiad mwy hamddenol, gyda thywod diddiwedd a machlud haul hyfryd. Mae’r ddau draeth yn cynnig profiadau hollol wahanol yn dibynnu ar eich dewisiadau personol.
5. Dilyn Llwybr Alys
Beth am ddarganfod y safleoedd a ysbrydolodd y llyfr hynod boblogaidd gan Lewis Carroll, Alice’s Adventures In Wonderland, trwy ddilyn map Llwybr Alys. Mae’r llwybr tref rhyngweithiol hwn yn gwahodd anturwyr o bob oed i ddilyn olion traed Carroll a darganfod y 12 o gerfluniau hudol o amgylch Llandudno.
Gellir prynu Map Llwybr Alys am £3.50 gan y Gwasanaeth Canolfan Groeso yn Venue Cymru.
Pryd ydi’r amser gorau i ymweld â Llandudno?
Y newyddion da ydi, gellir ymweld â Llandudno trwy gydol y flwyddyn! Pa bynnag dymor y byddwch yn dewis ymweld, rydych yn siŵr o gael profiadau hyfryd ac unigryw.
- Gwanwyn: amser gwych i gerdded yr arfordir, gwylio bywyd gwyllt a mwynhau atyniadau lleol poblogaidd cyn tymor prysur yr haf.
- Haf: os ydych chi’n mwynhau dyddiau braf ar y traeth, bwyta yn yr awyr agored a gwyliau cofiadwy i’r teulu, dewch i Landudno yn yr haf.
- Hydref: perffaith ar gyfer teithiau cerdded hir heb fod yn rhy boeth, llai o dorfeydd a nosweithiau clyd dros swper.
- Gaeaf: cyfle gwych i fwynhau gweithgareddau’r gaeaf yn Llandudno a phrofi holl hud yr adeg hon o’r flwyddyn.
Llefydd Eraill i Ymweld â Nhw yn yr Ardal
Un o fanteision mwyaf Llandudno yw ei lleoliad yn sir Conwy. Mae’r cludiant cyhoeddus a’r rhwydwaith ffyrdd yn wych yn Llandudno er mwyn i ymwelwyr fedru teithio o un lle i’r llall yn rhwydd a mwynhau popeth sydd gan sir Conwy i’w gynnig.
Mae modd cyrraedd nifer o gyrchfannau poblogaidd eraill yn ddigon rhwydd o Landudno:
Conwy
Mae tref ganoloesol Conwy’n Safle Treftadaeth Byd UNESCO gyda chastell a muriau mewn cyflwr da, nifer o siopau annibynnol a llefydd i fwyta, yn ogystal â harbwr gweithredol hyfryd.
Parc Cenedlaethol Eryri
Llandudno yw’r lleoliad perffaith i fynd i grwydro ym Mharc Cenedlaethol Eryri ac mae’r llwybrau mynydd, ffyrdd prydferth, safleoedd hanesyddol ac anturiaethau awyr agored i gyd o fewn cyrraedd.
Bae Colwyn a Llandrillo-yn-Rhos
Methu cael digon o draethau sir Conwy? Ymwelwch â Bae Colwyn a Llandrillo-yn-Rhos i brofi dau drysor arfordirol arall! Mae gwaith ailddatblygu gwerth miliynau o bunnoedd wedi’i gwblhau yn yr ardal yn ddiweddar i gynnig amwynderau o’r radd flaenaf.
Trwyn y Fuwch
Mae Llandudno wedi’i lleoli rhwng y Gogarth a Thrwyn y Fuwch, dau bentir calchfaen mawr a ffurfiwyd yn yr Oes Iâ ddiwethaf. Er bod atyniadau’r Gogarth yn hynod boblogaidd, mae’n bendant werth ymweld â Thrwyn y Fuwch, sydd â chasgliad o lwybrau cerdded arfordirol, bywyd gwyllt a golygfeydd godidog o’r môr.
A ellir ymweld â Llandudno am y diwrnod?
Gellir, mae nifer o bobl yn mwynhau ymweld â Llandudno am y diwrnod. Gallwch grwydro’r promenâd, y pier, y Gogarth a chanol y dref mewn un diwrnod, fodd bynnag, mae aros dros nos yn rhoi mwy o amser i chi ddarganfod atyniadau lleol eraill, megis Conwy ac Eryri.
Pam fod Llandudno’n wahanol i drefi arfordirol eraill?
Mae cymeriad Fictoraidd Llandudno, sy’n parhau i fod mewn cyflwr rhyfeddol, y lleoliad dramatig rhwng dau bentir, y cyfuniad o atyniadau glan môr a mynediad rhwydd i’r mynyddoedd, safleoedd treftadaeth a llwybrau arfordirol yn gwneud i Landudno sefyll allan.
A oes modd ymweld â Llandudno trwy gydol y flwyddyn?
Oes. Mae atyniadau ac amseroedd agor yn amrywio o un tymor i’r llall, ond mae’r dref yn parhau i fod yn gyrchfan poblogaidd trwy gydol y flwyddyn yn sgil y golygfeydd godidog, y siopau, bwytai a’r llwybrau arfordirol.
A yw Llandudno’n addas ar gyfer teuluoedd ac ymwelwyr ag anghenion mynediad?
Ydi. Mae’r promenâd a chanol y dref yn gymharol fflat ac yn hawdd eu dilyn, mae nifer o’r atyniadau’n addas i deuluoedd, ac mae’r dref y cynnig amrywiaeth o gyfleusterau ac opsiynau llety hygyrch. Mae rhannau o’r Gogarth yn serth, ond gellir cael mynediad at sawl rhan â char, tramffordd neu gar cebl. Dylai ymwelwyr wirio manylion hygyrchedd atyniadau penodol cyn teithio.
Pethau i'w gwneud yn Llandudno
Tramffordd y Gogarth
- Victoria Station
Tramffordd y Gogarth yn Llandudno ydi’r unig dramffordd a gaiff ei thynnu gan gebl ar ffordd…
Traeth Pen Morfa Llandudno
- West Shore
Os ydych yn chwilio am brofiad arfordirol mwy heddychlon, mae Penmorfa Llandudno yn cynnig…
Canolfan Ymwelwyr Parc Gwledig y Gogarth
- Great Orme
Gyda modelau, arddangosfeydd rhyngweithiol a ffilmiau cyffrous, bydd y teulu cyfan yn mwynhau…
Pier Llandudno
- North Parade
Does dim llawer o bethau’n dweud ‘gwyliau glan môr’ fel mynd am dro ar hyd y…
Mwyngloddiau'r Gogarth
- Great Orme
Dewch i archwilio’r labrinth o dwneli tanddaearol 3,500 o flynyddoedd oed sy’n arwain at…
Gwasanaeth Gwybodaeth Twristiaeth - Llandudno
- Venue Cymru
Dewch i ymweld â ni yn ein lleoliad newydd yng Nghanolfan Gynadledda Venue Cymru! Angen…
Traeth Llandrillo-yn-Rhos/Bae Colwyn
Fe ddewch chi o hyd i’r traeth hyfryd yma rhwng Pier Bae Colwyn a Llandrillo-yn-Rhos. Gyda…
Trwyn y Fuwch
- Colwyn Road
Trwyn y Fuwch yw’r pentir calchfaen i’r dwyrain o Landudno. Mae’n llai datblygedig…
Traeth y Gogledd Llandudno
- North Shore
Croeso i Draeth y Gogledd, traeth a phromenâd enwog Llandudno. Mae ymwelwyr wedi bod yn…