Goleuadau disglair, dymuniadau Nadolig a chyfle i weld Siôn Corn – dydi rhai traddodiadau Nadolig byth yn colli eu hud.  Pa un ai yw’ch plant eisiau rhoi llythyr iddo neu ddweud helo wrtho, mae gweld Siôn Corn yn rhan arbennig o hwyl yr ŵyl – ac mae ‘na lond sled o gyfleoedd i’w weld yn Sir Conwy y Nadolig yma.

O lwybr hudolus at ogof syfrdanol mewn castell a Siôn Corn go iawn (sy’n siarad Cymraeg wrth gwrs!), dyma restr o’r llefydd y gallwch chi weld Siôn Corn yn Sir Conwy eleni. Cofiwch fynd i dudalen archebu’r trefnydd i wirio dyddiadau, argaeledd a manylion.

Llwybr Goleuadau’r Nadolig a Groto Siôn Corn yn Llyn Brenig

Dilynwch lwybr hudolus o oleuadau i Groto Siôn Corn Llyn Brenig, lle gall plant rannu eu dymuniadau a chael anrheg arbennig. Cofiwch fynd am dro i’r siop neu gael pryd bach yn y caffi hefyd!

Dyddiadau: 18-20 Rhagfyr 2026
Pris: £13, yn cynnwys llwybr goleuadau’r Nadolig, ymweld â Groto Siôn Corn a chael anrheg, fel yr hysbysebir ar dudalen digwyddiadau Llyn Brenig.

Archebwch rŵan: Llwybr Goleuadau’r Nadolig a Groto Siôn Corn

Groto Siôn Corn, The Jester’s Tower, Conwy

Nifer cyfyngedig o leoedd ar ôl!

Dewch i weld Siôn Corn yn The Jester’s Tower, Conwy! Gydag apwyntiadau sy’n para hyd at 10 munud, bydd gan y plant amser i sgwrsio, holi a chael llun gyda’r dyn ei hun – yn ogystal ag anrheg. Gellir personoli pob ymweliad, ac mae lle i hyd at bedwar o blant neu fabanod ar y tro.

Dyddiadau: Dyddiadau penodol o 28 Tachwedd tan 24 Rhagfyr 2026; gwiriwch y calendr archebu ar gyfer y sesiynau.
Pris: £14.50 y plentyn; £11 i blant bach tair oed ac iau. Bydd ymweliadau Noswyl Nadolig yn costio £27.50 y plentyn neu £20 i blant bach. Ni chodir tâl ar oedolion; ond gan nad oes llawer o le mae’r trefnydd yn gofyn i deuluoedd beidio â dod â gormod o oedolion efo nhw.

Archebwch rŵan: Groto Siôn Corn

Groto Siôn Corn yn y Sŵ Fynydd Gymreig, Bae Colwyn

Ychwanegwch ychydig o hud y Nadolig i’ch ymweliad â’r Sŵ Fynydd Gymreig gan alw heibio i weld Siôn Corn. Gyda golygfeydd o gynefin y llewpard eira, dyma gyfle ‘gwyllt’ i weld Siôn Corn. Bydd anrheg i bob plentyn, danteithion, gweithgareddau Nadoligaidd a phrofiadau ychwanegol hefyd.

Dyddiadau: Dyddiadau penodol o fis Tachwedd ymlaen.
Pris: O £12.95 y plentyn ar gyfer Groto Siôn Corn – mae’r prisiau’n amrywio yn dibynnu ar y diwrnod. Nid yw hyn yn cynnwys y pris mynediad arferol
Mynediad ac archebu: Ar ôl dewis eich tocynnau ar gyfer y groto, cofiwch brynu eich tocynnau i fynd i’r sw ar yr un diwrnod (oni bai bod gennych chi gerdyn aelodaeth ddilys i’r Sŵ Fynydd Gymreig).

   Dim ond gwesteion sydd eisiau gweld Siôn Corn sydd angen tocyn i’r groto – gall aelodau eraill o’r teulu fynd gyda nhw gyda thocyn neu aelodaeth ddilys ar gyfer y sw.

Archebwch rŵan: Nadolig yn y Sŵ Fynydd Gymreig

Groto Siôn Corn yng Nghanolfan Siopa Bay View, Bae Colwyn

Bydd Siôn Corn yn dod ag ychydig bach o hud i Ganolfan Siopa Bay View ym Mae Colwyn eleni. Dewch i’r groto i’w weld yn gwirio ei restr o blant bach da (neu ddrwg!) a mwynhau ychydig o hwyl yr ŵyl gyda’r plant wrth i chi wneud eich siopa Nadolig. Gall pob plentyn gwrdd â Siôn Corn AM DDIM!

Dyddiadau: Yn dechrau ddydd Gwener 27 Tachwedd, 11am-3pm.
Pris: Am ddim.

Siôn Corn yng Nghastell Gwrych, Abergele

Mae’r castell syfrdanol yn ychwanegu rhywbeth arbennig iawn i’r ymweliad yma â Siôn Corn. Gall blant ymweld â’r groto, cyfnewid ceiniog aur am anrheg ac ysgrifennu llythyr at Siôn Corn. Mae’r profiad hudol yma hefyd yn cynnwys Pasbort Drwg/Da, bingo Nadolig, llwybr drwy’r ardd a lluniaeth a byrbrydau Nadoligaidd yn y bar (cost ychwanegol). Mae hwn wir yn ddigwyddiad i’r teulu cyfan, gyda mynediad gyda’r nos wedi’i gynnwys hefyd. Mi fydd yna erddi wedi’u goleuo, gosodiadau rhyngweithiol a digon o gyfleoedd i dynnu lluniau Nadoligaidd!

Dyddiadau: Dyddiadau ac amseroedd penodol o 11 tan 23 Rhagfyr 2026.
Mynediad gyda’r nos i oedolyn (dros 16 oed): £12, mynediad yn unig.
Plant 1 oed a hŷn: £20, yn cynnwys anrheg a gweithgareddau. Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn.
Gofalwyr 18+: £6. Un tocyn gofalwr i bob ymwelydd sy’n talu’r pris llawn. Rhaid darparu tystiolaeth e.e. Lwfans Byw i'r Anabl, Pasbort Gofalwr, ID Gofalwr neu gerdyn MAX (neu fel arall codir tâl mynediad arferol).
Dan 12 mis oed:  Am ddim, mynediad yn unig.

Archebwch rŵan: Siôn Corn yng Nghastell Gwrych

Suliau Siôn Corn yn Bwyd Cymru Bodnant, Tal-y-cafn

Mae Siôn Corn yn ymweld â Bwyd Cymru Bodnant ar gyfer cyfres o Suliau Siôn Corn am ddim. Dewch â’r teulu i gyd efo chi i ddweud helo a rhannu’ch rhestr o ddymuniadau Nadolig – profiad Nadoligaidd i’ch ymwelid â Thal-y-cafn y Nadolig hwn.

Dyddiadau: 6, 13 a 20 Rhagfyr 2026
Pris: Am ddim
Archebu: Defnyddiwch y dudalen archebu ar gyfer eich dewis ddyddiad. Mae manylion 13 a 20 Rhagfyr yn nodi bod un tocyn teulu ar gyfer hyd at chwech o bobl.

Archebwch rŵan: Suliau Siôn Corn

Antur Siôn Corn yn Manorafon Farm Park, Abergele

Fe allwch chi edrych ymlaen at fwy na groto yn Manorafon Farm Park! Mae’r antur Siôn Corn yma’n cynnwys cwrdd â Siôn Corn, addurno bisgedi sinsir a chyfnewid ceiniog aur am anrheg. Mae’r manylion ar Croeso Cymru hefyd yn sôn am wneud bwyd i’r ceirw, Academi Hedfan Sled a mynediad i’r Winterfest – a chyfle i’r teulu cyfan archwilio’r Llwybr Goleuadau Nadolig.

Dyddiadau: Rhagfyr 2026; gwiriwch y calendr archebu ar gyfer yr amserlen lawn.
Pris: Gwiriwch wefan y trefnydd ar gyfer y dewisiadau tocynnau.
Gwiriad golygyddol: Mae gwefan y fferm yn cadarnhau’r digwyddiad ym mis Rhagfyr, tra bod gwefan Croeso Cymru yn nodi 5-6 Rhagfyr. Rhaid gwirio’r dyddiadau, prisiau a’r gweithgareddau cyn cyhoeddi.

Archebwch rŵan: Antur Siôn Corn

Swyddfa Ranbarthol Siôn Corn, Conwy

Camwch i Swyddfa Ranbarthol Siôn Corn yng Nghonwy yn nhafarn y George & Dragon ar gyfer profiad Nadoligaidd 25 munud, gydag un teulu ar y tro. Gall y plant gwrdd â Siôn Corn a’i gorachod Barnaby a Bella, sgwrsio gyda’r dyn ei hun a’i wylio yn mynd drwy’r rhestr i weld a ydyn nhw ar y rhestr o blant da neu ddrwg. Mae yna hefyd amser i gael stori gan Siôn Corn cyn derbyn anrheg, cofroddion a bag o fwyd i’r ceirw.

Dyddiadau: Dydd Gwener 20 Tachwedd – dydd Iau 24 Rhagfyr 2026, gydag amseroedd amrywiol ar gael.
Pris: £45 ar gyfer y plentyn cyntaf; £20 am bob plentyn arall.
Hyd ymweliad: 25 munud, gydag un teulu ar y tro.

Archebwch rŵan: Swyddfa Ranbarthol Siôn Corn, Conwy

Cynllunio’ch ymweliad â Siôn Corn

Cofiwch wirio argaeledd ac archebu ymlaen llaw pan fo angen, yn enwedig os oes gennych chi ddyddiad penodol mewn golwg. Cyn archebu, gwiriwch a oes ar oedolion angen tocyn, a yw’r pris mynediad arferol wedi’i gynnwys a beth mae bob tocyn yn ei gynnwys. Ar gyfer llwybrau yn yr awyr agored, cofiwch wisgo dillad cynnes ac esgidiau addas ar gyfer y gaeaf. Cysylltwch â’r trefnydd yn uniongyrchol os oes gennych chi gwestiynau am fynediad neu drefn y digwyddiad.

Gall dyddiadau, prisiau a manylion y digwyddiadau newid. Gwiriwch wybodaeth ddiweddaraf y trefnydd cyn archebu neu deithio.

Red and gold wrapped gifts under a Christmas tree decorated with red and gold baubles

Ewch i weld Siôn Corn yn Sir Conwy y Nadolig hwn