Ar ôl diwrnod o grwydro’r arfordir, cefn gwlad neu atyniadau lleol, does dim llawer o bethau’n teimlo’n fwy hamddenol na gorffwys mewn man heulog â diod oer yn eich llaw.   Ar hyd a lled Sir Conwy, ceir nifer o erddi cwrw, terasau a mannau awyr agored croesawgar sy’n ddelfrydol ar gyfer prynhawniau tawel a nosweithiau hamddenol dros yr haf.

Mae’r tywydd cynhesach yn parhau ac yr ydym ni wedi creu rhestr o erddi cwrw ar draws Sir Conwy i helpu i ysbrydoli’ch diod, pryd o fwyd neu achlysur cymdeithasol nesaf yn yr heulwen.

Mae Sir Conwy yn gartref i erddi cwrw gwych, o derasau arfordirol â golygfeydd o’r môr i dafarndai pentref wedi’u hamgylchynu â golygfeydd o’r mynyddoedd. Pa un a ydych chi’n cynllunio ar gyfer cinio braf ar lan y môr, diod ar ôl bod yn cerdded neu noson hamddenol gyda ffrindiau, mae’r pum tafarn hyn yn cynnig rhai o’r mannau gorau i fwyta a chael diod yn yr awyr agored ar draws y sir. 

Y gerddi cwrw gorau i ymweld â nhw yn Sir Conwy

O Landudno a Llandrillo-yn-Rhos i Ddwygyfylchi, Bae Colwyn a Betws-y-Coed, mae digon o leoedd i fwynhau diod yn yr awyr agored pan fydd y tywydd yn braf. Dyma bum gardd gwrw yr ydym ni’n credu sy’n werth eu hychwanegu at eich rhestr.

The Gladstone, Dwygyfylchi

Mae’r Gladstone, sy’n dafarn a bwyty croesawgar â naws hamddenol ac anffurfiol iddo wedi’i leoli’n agos at arfordir Gogledd Cymru ac mae ganddo olygfeydd hyfryd o Landudno ac Ynys Môn. Mae ei ardal tu allan yn manteisio’n llwyr ar ei leoliad ger y môr, sy’n ei wneud yn ddewis gwych ar ôl taith gerdded ar hyd yr arfordir neu ddiwrnod o grwydro.  Mae hefyd yn agos iawn at yr A55 felly gellir ei gyrraedd yn rhwydd mewn car ac ar gludiant cyhoeddus. Gellir disgwyl prydau dafarn poblogaidd, dewis gwych o ddiodydd ac awyrgylch lleol croesawgar.

Pam yr ydym ni’n hoff ohono: mae’r ardd gwrw hon ar deras haul hyfryd sydd wedi’i leoli’n berffaith er mwyn manteisio ar y golygfeydd a cheir rhai o’r golygfeydd gorau o fachlud haul ar yr arfordir yma!

Y Stablau, Betws-y-coed

Mae’r Stablau wedi’i leoli yng nghanol Betws-y-Coed ac mae’n ddelfrydol os ydych chi’n chwilio am ardd gwrw yn y mynyddoedd. Mae Betws-y-coed yn cael ei adnabod fel Porth Eryri, ac mae’n bentref bywiog wedi’i amgylchynu â choetir, llwybrau cerdded ger yr afon a thirnodau naturiol anhygoel yn cynnwys Rhaeadr Ewynnol a Choedwig Gwydir. Mae’r Stablau yn cyd-fynd yn naturiol â diwrnod allan: mae’n lle hamddenol ar gyfer bwyd tafarn, diodydd lleol ac yn seibiant cyfforddus ar ôl bod yn cerdded, siopa neu grwydro’r pentref.

Pam yr ydym ni’n hoff ohono: mae gan yr ardd gwrw hon sydd yng nghanol y pentref awyrgylch prysur yn ystod y dydd a’r nos, ac mae’n rhywle y mae’n rhaid i chi fynd iddo. Os ydych chi’n mwynhau gwylio pobol, dyma’r lle i chi. 

Pen-y-Bryn, Bae Colwyn

Mae Pen-y-Bryn wedi’i leoli uwchben tref Bae Colwyn ac mae’n fan poblogaidd ar gyfer pobl leol ac ymwelwyr. Mae ganddo fwydlen a diodydd amrywiol sy’n ymfalchïo mewn defnyddio cynhwysion a chyflenwyr lleol, ac mae’r ardd gwrw yn ychwanegiad perffaith. Mae’n lleoliad awyr agored hamddenol sy’n ddelfrydol ar gyfer cinio estynedig, sgwrsio â ffrindiau a nosweithiau ymlaciedig yr haf.  Beth am ei baru â diwrnod ger y môr, mynd am dro ar hyd y promenâd neu ymweld ag atyniadau arfordirol cyfagos cyn mwynhau pryd o fwyd a diodydd yn yr awyr agored.

Pam yr ydym ni’n hoff ohono: mae’r teras a’r ardd gwrw ddiarffordd hon sy’n llawn blodau yn llygad yr haul drwy’r dydd.  Os ychwanegwch chi gemau gardd enfawr at hyn i gyd, fyddwch chi byth eisiau gadael!

The Cottage Loaf, Llandudno

Mae’r Cottage Loaf yn Llandudno yn ddewis poblogaidd ar gyfer ymwelwyr sy’n chwilio am awyrgylch tafarn draddodiadol sy’n agos at ganol y dref. Mae’n gweithio’n dda yn rhan o ddiwrnod o grwydro o amgylch siopau, y promenâd, y pier a’r atyniadau cyfagos yn Llandudno, gan gynnig man cysgodol ar gyfer diod neu bryd bwyd pan fyddwch chi eisiau dianc o brysurdeb lan y môr am ychydig.  Mae ei ardal awyr agored yn rhoi cyfle i ymwelwyr fwynhau’r dref mewn modd mwy hamddenol - mae’r ffaith ei fod mor ddiarffordd yn golygu ei bod yn anodd credu eich bod chi mewn canol tref brysur. 

Pam yr ydym ni’n hoff ohono: gardd gwrw gudd mewn tref lan y môr brysur sy’n llawn basgedi crog o flodau… sut allwch chi beidio â mwynhau? 

Rhos Fynach, Llandrillo-yn-Rhos

Ar gyfer gardd gwrw arfordirol sy’n llawn cymeriad, mae’n rhaid i chi fynd i Rhos Fynach yn Llandrillo-yn-Rhos. Mae’r dafarn hanesyddol hon wedi’i leoli ychydig gamau o lan y môr ac mae’n agos at ganol y pentref, sy’n ei wneud yn ddewis gwych ar ôl diwrnod ar y traeth neu brynhawn o grwydro o gwmpas siopau annibynnol hyfryd Llandrillo-yn-Rhos. Mae hefyd ar Lwybr Arfordir Cymru a Llwybr Beicio Cenedlaethol 5, sy’n golygu ei fod yn fan gwych i gael seibiant ar eich siwrnai.

Pam yr ydym ni’n hoff ohono: mae llawer o leoedd i eistedd ac ymlacio yno ond mae’r Antur Golff ar y safle yn ddewis gwych os oes gennych chi blant neu os ydych chi eisiau amrywio pethau ychydig!   

Gwneud y gorau o erddi cwrw Conwy

Mae’r ardd gwrw orau i chi yn dibynnu ar y math o ddiwrnod yr ydych chi wedi’i gynllunio. Dewiswch y Gladstone i gael golygfeydd godidog, Y Stablau ar gyfer tafarn bentref, Pen-y-Bryn i gael amgylchoedd gwych a bwyd da, y Cottage Loaf i ddianc rhag prysurdeb Llandudno, neu Rhos Fynach i ymlacio a chael hwyl. 

Ble bynnag yr ewch chi, mae’n werth gwirio’r oriau agor, oriau gweini bwyd a gofynion archebu cyn i chi deithio, yn enwedig yn ystod penwythnosau prysur a gwyliau ysgol. 

Cwestiynau Cyffredin

Tafarndai â gerddi cwrw yn Sir Conwy

Pen-y-Bryn

Does dim byd arbennig am du blaen Pen-y-Bryn, ond y tu mewn fe welwch loriau derw hyfryd, tanau…