Gyda gwyliau’r haf yn prysur fynd a digon o dywydd braf, mae Sir Conwy yn llawn o deuluoedd ac ymwelwyr yn mwynhau popeth sydd gan Ogledd Cymru i’w gynnig. Drwy gydol y flwyddyn, mae Sir Conwy yn un o leoliadau mwyaf delfrydol yng Ngogledd Cymru i grwydro, ond mae rhywbeth arbennig am fisoedd yr haf… mae’r dyddiau’n hirach, mae’r popeth yn arafach ac mae pawb yn cynnwys y bobl leol ac ymwelwyr, yn ceisio gwneud y mwyaf o’r wythnosau byr, braf.

Ond ble ydych chi’n dechrau? Mae cymaint i’w weld a’i wneud yma felly mae penderfynu beth i’w wneud yn her! Peidiwch â phoeni, rydym ni yma i’ch helpu chi i wneud y mwyaf o’ch ymweliad dros yr haf gyda syniadau gwych ar y pethau gorau i’w gwneud yn Sir Conwy. Mae gennym deithiau ar gyfer y rhai sy’n hoffi diwylliant, dyddiau hwyliog ar gyfer teuluoedd, profiadau i greu atgofion ar gyfer cyplau, a danteithion gwych ar gyfer y rhai sydd wrth eu boddau â bwyd. Darllenwch ymlaen i ddarganfod mwy am y pethau gorau i’w gwneud yn Sir Conwy yr haf hwn. 

Am beth mae Sir Conwy yn enwog?

Mae Sir Conwy yn enwog am ei dirwedd amrywiol, lle mae trefi glan y môr, golygfeydd o’r mynyddoedd, atyniadau treftadaeth a phrofiadau gwledig yn agos at ei gilydd. Gall ymwelwyr dreulio’r bore yn crwydro’r Gogarth uwchben Llandudno, yna’r prynhawn yn darganfod straeon am strydoedd hanesyddol Conwy, gyda digon o amser i ymlacio gyda’r teulu ar brofiad tywys neu gael blas o gynnyrch lleol.

Gyda chymysgedd unigryw o hanes, awyr agored, bwyd a diod, teithiau tywys ac atyniadau teuluol, mae gan Conwy gymaint i’w gynnig i ymwelwyr, beth bynnag yw eu chwant neu gyllideb. Ac oherwydd ein daearyddiaeth cyfyng a chysylltiadau cludiant gwych i weddill y DU, mae’n ddewis gwych ar gyfer teithiau dydd a gwyliau byr.

Er mwyn eich helpu i gynllunio eich ymweliad nesaf, darllenwch ymlaen i weld ein pigion o bethau i’w gwneud. 

Pethau i’w gwneud yn Sir Conwy - ein hawgrymiadau

1. Mwyngloddiau Copr y Gogarth - osgowch y gwres ac ewch i grwydro o dan y ddaear

Am brofiad treftadaeth cofiadwy, mae Mwyngloddiau Copr y Gogarth yn cynnig cyfle i gamu i mewn i dirlun hynafol ac archwilio twneli tanddaearol sy’n gysylltiedig â chloddio copr yr Oes Efydd. Mae’n ffordd unigryw o ddeall dyfnder yr hanes o dan bentir enwog Llandudno, gyda lleoliad sy’n cyfuno archeoleg, daeareg a golygfeydd ar draws yr arfordir.

Camwch o dan y ddaear i ddianc rhag y gwres - yn y tywydd poeth ym Mehefin 26 roedd hi’n 30 gradd Celsius ond o dan y ddaear roedd hi’n 8-10 gradd Celsius. A gyda chanolfan dan do i ymwelwyr a mwyngloddiau tanddaearol, mae’n ddewis gwych fel gweithgaredd ar ddiwrnod glawog hefyd. Yn groes i’r tywydd diweddar, mae hi yn glawio yng Nghymru ar adegau!

Mae Mwyngloddiau Copr y Gogarth yn cymryd rhan yn y Fenter Arbed Dros yr Haf Prydain* - gan drosglwyddo gostyngiad TAW dros dro'r Llywodraeth i’r ymwelwyr - archebwch ar-lein neu gallwch dalu ar ôl cyrraedd i gael mynediad gostyngedig!

*cynnig yn ddilys hyd at 1 Medi 2026

child looking up in the caves

2. Teithiau Tywys Conwy - darganfyddwch straeon lleol a thrysorau cudd

Ymunwch â James ar Daith Tywys Conwy a phrofwch y dref ganoloesol mewn ffordd wahanol! Mae taith tywys yn syniad gwych ar gyfer ymwelwyr sydd eisiau mwy na golwg sydyn o’r dref; maent yn ffordd wych o archwilio hanes a diwylliant Conwy gan y bobl sy’n ei adnabod orau. Mae’n ddewis hynod o ddefnyddiol ar gyfer ymwelwyr sy’n dod am y tro cyntaf, grwpiau neu unrhyw un sy’n mwynhau dull mwy personol i grwydro.

Gyda dewis o deithiau i weddu’r ymwelwyr mwyaf sgeptig - dewiswch o daith Castell Conwy, taith Tref Conwy, taith Plas Mawr neu’r daith boblogaidd ysbrydion Conwy. Gyda’r dewis am deithiau preifat neu deithiau grŵp, byddwch yn archwilio corneli cudd oddi ar y llwybr twristiaid a chlywed straeon sy’n hysbys i’r ‘Jac-dos’ yn unig, sef y bobl sy’n ddigon lwcus i gael eu geni o fewn waliau’r dref.

Conwy view

3. Parc Fferm Manorafon - diwrnod hwyliog i’r teulu cyfan

I deuluoedd gyda phlant, mae Parc Fferm Manorafon yn Abergele yn cynnig diwrnod allan hwyliog a rhyngweithiol gyda digon i ymwelwyr o bob oed ei fwynhau. Mae nifer o anifeiliaid del (a rhai nad ydynt mor ddel) i gwrdd â nhw yn y Cornel Cwtsh ac yn y Tŷ Ymlusgiaid a mwy o barthau chwarae nac allwch chi ddychmygu! Gwyddwn fod plant yn gallu bod yn anodd a bod well gan rai anifeiliaid sydd wedi diflannu. Na phoener. Gallwch grwydro Llwybr Dinosoriaid rhyngweithiol Manorafon a chael cynnig ar ddatgelu’r trysor mawr nesaf yng Nghloddfa’r Dinosor!

Sawl fferm ydych chi wedi ymweld â nhw sydd â pharti ewyn bob dydd? Drwy’r haf, wedi’i gynnwys yn eich tocyn mynediad, gall ymwelwyr ymuno yn Ffiesta’r Fferm - sy’n llawn ewyn, teganau aer a llawer o hwyl.

Mae’n flinedig gwylio’r plant yn cael hwyl, ond peidiwch â phoeni, mae digon yma ar gyfer oedolion hefyd gyda dewis o lefydd i fwyta neu ymlacio gyda phicnic.

Two cute piglets at the farm

4. Distyllfa Penderyn - samplo wisgi Cymreig go iawn

Mae Distyllfa Penderyn yn ychwanegu blas gwahanol i'ch cynllun Sir Conwy. Fe’i hadnabyddir fel cartref wisgi Cymreig, mae distyllfa Penderyn yn Llandudno yn cysylltu chwedlau lleol, crefft a distyllu modern Cymreig. Fel y distyllfa wisgi cyntaf i agor yng Nghymru mewn dros 100 mlynedd, mae Penderyn ar lwyfan rhyngwladol yn y byd wisgi gydag enw da am ystod o wisgi brag sengl sydd wedi ennill gwobrau. Wedi’i sefydlu yn y Bannau Brycheiniog yng Nghanolbarth Cymru, agorodd Penderyn ail ddistyllfa yn Llandudno yn 2021. Yn y cyfnod hwnnw, mae wedi dod yn atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd ac unigryw Llandudno, gyda’r ddistyllfa wedi’i leoli mewn tŷ ysgol Fictoraidd wedi’i adnewyddu, yn agos at ganol y dref.

Mae dewis o deithiau, yn amrywio o daith ddistyllfa awr o hyd i ddosbarthiadau blasu meistr. Nid oes angen i chi fod yn arbenigwr wisgi chwaith, mae hyn yn ffordd wych o brofi ein treftadaeth coginio Cymreig hefyd. Mae hwn yn gweddu ymwelwyr sy’n oedolion, cyplau neu grwpiau sy’n chwilio am brofiad dan do unigryw. 

Penderyn_Whisky

5. Trên Tir Llandudno - dewch i weld y Gogarth o safbwynt gwahanol

Mae nifer o bobl yn tybio mai’r ffordd orau o brofi’r Gogarth yw o’r copa, ond wyddoch chi y gallwch hefyd fwynhau mynydd Llandudno o safbwynt gwahanol? Y dramffordd a’r car cebl yw’r ffyrdd mwyaf poblogaidd o weld y golygfeydd, ond mae Trên Tir Llandudno yn cynnig dewis amgen hygyrch a hardd. Gan adael Pier Llandudno, mae’r daith dywys yn dilyn Marine Drive gan fwynhau golygfeydd o’r môr, clogwyni, bywyd gwyllt a llecynnau hardd ar draws Bae Llandudno, Ynys Môn, Eryri a thuag at Gastell Conwy. Mae croeso i deuluoedd a chŵn, gyda sylwebaeth fyw a digon o gyfleoedd i dynnu lluniau ar hyd y llwybr.

Newydd ar gyfer Haf 2026 - Taith Tref Llandudno, llwybr newydd o amgylch Llandudno sy’n eich galluogi chi i grwydro’r dref ar eich cyflymder eich hun. Prynwch eich tocyn ac yna gallwch neidio ar ac oddi ar y trên tir!

Land train in blue and white on the Marine Drive, Great orme, Llandudno

Pryd ydi’r amser gorau i ymweld?

Mae nifer o’r pethau gwych hyn ar gael i’w profi drwy gydol y flwyddyn, tra bod eraill yn dymhorol i wneud y mwyaf o’r tywydd. Os yw amser y flwyddyn neu’r tywydd yn gwneud i chi gwestiynu atyniad penodol, ewch i’ch Gwasanaeth Canolfan Groeso agosaf i gael yr oriau agor, prisiau a chynigion diweddaraf.

Mae Gwasanaeth Canolfan Groeso Llandudno wedi’i leoli yn Venue Cymru ac mae Canolfan Groeso Conwy gyferbyn â’r castell. Fel Llysgenhadon achrededig Conwy, mae ein staff yn wybodus ac yn angerddol am Sir Conwy a gallent eich helpu chi i gynllunio eich diwrnod i weddu eich gofynion - unrhyw ddiwrnod, unrhyw adeg o’r flwyddyn ac unrhyw gyllideb. Edrychwn ymlaen at eich croesawu chi ar eich ymweliad nesaf.

Cwestiynau Cyffredin

Bethau i'w gwneud yn Sir Conwy