Mae Noson Tân Gwyllt yn un o hoff draddodiadau’r Hydref, ac mae nifer o arddangosfeydd tân gwyllt wedi’u trefnu ar draws Sir Conwy o amgylch Noson Guto Ffowc ar ddydd Iau 5 Tachwedd 2026.

Mae’r manylion hyn yn cynnwys y wybodaeth sydd ar gael hyd yn hyn, gyda rhai o’r wybodaeth fanwl heb eu cadarnhau eto gan y trefnwyr. Gwiriwch yn uniongyrchol gyda threfnwyr y digwyddiad cyn teithio, yn arbennig os fydd y tywydd yn wael neu os oes newidiadau munud olaf.

Pam dewis arddangosfa tân gwyllt wedi’i drefnu?

Mae arddangosfeydd wedi’u trefnu yn fwy diogel, yn haws ac yn aml yn llawer mwy rhyfeddol i fwynhau Noson Tân Gwyllt. Mae nifer o ddigwyddiadau hefyd yn cynnwys ychwanegiadau, megis bwyd poeth, lluniaeth, cerddoriaeth, coelcerth gyhoeddus neu adloniant i’r teulu, gan helpu i wneud y noson i deimlo fel achlysur hydrefol arbennig.

Diogelwch tân gwyllt

Os ydych chi’n cynllunio tân gwyllt adref, dilynwch y Cod Tân Gwyllt. Goleuwch un tân gwyllt ar y tro, cadwch y rhai sy’n gwylio ar bellter diogel a pheidiwch â mynd yn agos at dân gwyllt sydd wedi’i oleuo. Peidiwch byth â thaflu tân gwyllt sydd wedi’u tanio ar ben coelcerth.  Gallwch ddarllen y Cod Tân Gwyllt yn llawn yma: Cod Tân Gwyllt.

Arddangosfeydd Tân Gwyllt yn Sir Conwy 2026

Mae’r digwyddiadau sydd wedi’u rhestru eisoes yn cynnwys arddangosfeydd yn Llandudno, Bae Colwyn, Abergele, Llanrwst a Betws-y-coed. Bydd mwy o wybodaeth yn cael ei ychwanegu wrth i drefnwyr gadarnhau trefniadau terfynol.

Dydd Mawrth 2y Hydref - Arddangosfa Tân Gwyllt Llandudno

Promenâd Llandudno yw’r lle i fod ar ddydd Mawrth 27 Hydref am 7pm wrth i Draeth y Gogledd gynnal arddangosfa tân gwyllt blynyddol Llandudno! Un o uchafbwyntiau calendr digwyddiadau Sir Conwy, mae’r arddangosfa hwn yn boblogaidd iawn!

Mae’r arddangosfa yn dibynnu ar y llanw, felly mae’r amseroedd wedi eu dewis yn ofalus i sicrhau y gellir cynnal y digwyddiad yn ddiogel.

Cynghorir ymwelwyr i gynllunio eu siwrnai ymlaen llaw, oherwydd gall fesurau cau ffordd neu reolaeth traffig yn yr ardal amgylchynol effeithio ar deithio ar y noson. Ni chaniateir tân gwyllt, gan gynnwys ffyn gwreichion ar safle’r digwyddiad. 

Beth am wneud noson ohoni? Chwiliwch am lefydd i fwyta ac yfed yn Llandudno yma.

Dydd Iau 29 Hydref - Arddangosfa Tân Gwyllt Bae Colwyn

Ar hyn o bryd mae arddangosfa tân gwyllt blynyddol Bae Colwyn wedi’i drefnu i ddigwydd ar ddydd Iau 29 Hydref am 7pm ar bromenâd Bae Colwyn. Mae mynediad am ddim, ond croesawir cyfraniadau, gyda hanner yr elw’n mynd tuag at Elusen y Diffoddwyr Tân.

Cynghorir ymwelwyr i gynllunio eu siwrnai ymlaen llaw, oherwydd gall fesurau cau ffordd neu reolaeth traffig yn yr ardal amgylchynol effeithio ar deithio ar y noson.

Archwiliwch bopeth sydd gan Fae Colwyn a Llandrillo-yn-Rhos ei gynnig yma.

Dydd Sul 1 Tachwedd - Arddangosfa Tân Gwyllt Cyngor Tref Abergele

Mae Cyngor Tref Abergele yn gwahodd preswylwyr ac ymwelwyr i’w arddangosfa tân gwyllt 2026 yn Nhraeth Pensarn ar ddydd Sul 1 Tachwedd. Bydd arddangosfa sŵn isel yn digwydd am 6:30pm, gyda’r brif arddangosfa am 7:30pm.

Sylwch na chaniateir ffyn gwreichion nac alcohol ar y safle. Disgwylir y bydd mesurau cau ffordd mewn lle o amgylch Promenâd Pensarn, felly anogir mynychwyr i gerdded i’r promenâd os yw’n bosibl.

Dydd Llun 2 Tachwedd - Arddangosfa Tân Gwyllt Llanrwst

Mae Rotari Dyffryn Conwy’n cynnal arddangosfa tân gwyllt blynyddol Llanrwst ar ddydd Llun 2 Tachwedd. Mae’r digwyddiad am ddim i’w wylio o Barc Gwydir, cartref Clwb Pêl-droed Llanrwst.

Bydd y giatiau’n agor o 6pm, gyda bwyd a diodydd poeth ar gael i’ch cynhesu. Mae’r arddangosfa wedi’i drefnu i ddechrau am 6:30pm. Cofiwch gynllunio ymlaen llaw - ychydig o le sydd yn y maes parcio!

Dydd Sadwrn 7 Tachwedd - Arddangosfa Tân Gwyllt Betws-y-coed

Gan ddechrau’r tymor mewn steil, mae arddangosfa tân gwyllt blynyddol Betws-y-coed yn digwydd yng nghanol y pentref yng Nghae Llan ar ddydd Sadwrn 7 Tachwedd am 6:30pm.

Dyma gyfle gwych i wisgo’n gynnes, mynd allan a mwynhau disgleirdeb Dyffryn Conwy.

Eisiau bwyd ym Metws-y-coed? Gwelwch rhai o’r llefydd gwych i fwyta ac yfed cyn i’r arddangosfa ddechrau.

Dewch i weld Sir Conwy’n disgleirio fis Tachwedd

Gwisgwch yn gynnes, dewch a’ch ffrindiau a theulu ynghyd, a mwynhewch ddisgleirdeb Noson Tân Gwyllt yn un o arddangosfeydd cyhoeddus Sir Conwy. Gyda’r aer hydrefol, tân gwyllt lliwgar yn goleuo’r awyr ac awyrgylch cymunedol bywiog, mae’r digwyddiadau diogel a rhyfeddol hyn yn ffordd wych o ddathlu’r tymor a gwneud y mwyaf o noson gyffrous allan.

Ac os ydych yn cynllunio aros y noson, beth am bori trwy ein rhestr o lety ar gyfer eich dihangfa hydrefol berffaith? O fythynnod cysurus i westai moethus a nifer o lefydd unigryw i aros, mae gan Sir Conwy'r cyfan.