Croeso i’n newyddlen ddiweddaraf lle trown ein sylw at y rhyfeddodau sydd i’w gweld wrth gerdded yn sir Conwy! - mewn pryd ar gyfer Mis Cerdded Cenedlaethol y mis Mai hwn.
Mae 'na lefydd di-ri i fynd am dro ar draws ein sir.
O lwybrau arfordirol dramatig y Gogarth a Mynydd Conwy a’r golygfeydd bendigedig dros Fôr Iwerddon a thref ganoloesol Conwy, i goetiroedd a glannau llynnoedd heddychlon lle cewch ymgolli’n llwyr mewn natur!
Pa un a ydych yn heiciwr profiadol neu isio dim ond mynd am dro fach hamddenol mae ‘na lwybr perffaith yn aros amdanoch yn sir Conwy y mis Mai hwn.
Ymunwch â ni wrth i ni ddatgelu rhai o’n trysorau cudd ac edrych ar rai o’n llwybrau mwyaf poblogaidd.
Mynydd Conwy
Mae Mynydd Conwy, a elwir hefyd yn Fynydd y Dref, yn fryn amlwg ar gyrion tref Conwy yng Ngogledd Cymru.
Ar ben y mynydd mae golygfeydd ymhell allan ar draws y môr ac i lawr dros waliau canoloesol Conwy, olion bryngaer hynafol a thoreth o fywyd gwyllt.
Mae’r mynydd yn lle poblogaidd gyda cherddwyr a naturiaethwyr gyda’i amrywiaeth eang o lwybrau sy’n arddangos harddwch naturiol y rhanbarth, yn cynnwys rhostiroedd, ffurfiannau creigiau geirwon a llu o fywyd gwyllt.

Darganfod mwy
Cerdded ar y Gogarth
Mae'r Gogarth yn benrhyn calchfaen trawiadol wedi'i leoli ger tref Llandudno gyda thirwedd unigryw a nodweddir gan olygfeydd arfordirol ysgubol.
Mae'r nodwedd naturiol amlwg hon yn hafan i gerddwyr a selogion awyr agored, gan gynnig amrywiaeth o lwybrau sy'n darparu ar gyfer gwahanol lefelau o ffitrwydd a phrofiad.
Un o'r llwybrau mwyaf poblogaidd yw'r daith gerdded gylchol o amgylch copa'r Gogarth, sy'n cynnig golygfeydd panoramig o Fôr Iwerddon, Ynys Môn ac Eryri.

Darganfod mwy
Taith Alice
Crwydro Llandudno a darganfod cysylltiadau Alice Liddell (y gwir Alys yng Ngwlad Hud) a fu ar ei gwyliau yn yr ardal yn y 1860au.
Diwrnod llawn hwyl gyda sawl cyfle i dynnu llun, a darganfod amrywiaeth o gerfluniau Alys yng Ngwlad Hud o gwmpas y dref.
Mae 34 pwynt o ddiddordeb ar hyd y llwybr, sy’n gwahodd ymwelwyr i gyflawni eu taith hudol eu hunain o amgylch byd hudolus Llandudno.
Mae modd prynu map Llwybr Alys o Ganolfan Groeso Llandudno yn Venue Cymru am £3.50.

Darganfod mwy
Llwybr Arfordir Cymru
Gan ymestyn ar hyd rhai o arfordiroedd mwyaf godidog y wlad, mae Llwybr Arfordir Cymru yn cynnig y ffordd berffaith o brofi Conwy ar droed yn ystod Mis Cerdded Cenedlaethol.
Wrth i chi ddilyn y llwybr, cymerwch amser i oedi yn ein trefi a'n pentrefi croesawgar—galwch heibio i fusnesau lleol, mwynhewch banad traddodiadol Cymreig (paned o de), porwch siopau annibynnol, a mwynhewch yr awyrgylch.
Gyda phob cam, byddwch yn cael eich trin â golygfeydd môr gwych, awyr arfordirol ffres, a digon o gyfleoedd i wneud eich taith gerdded mor ymlaciol neu mor anturus ag y dymunwch.
Darganfod mwy
Llwybr Treftadaeth Llandudno
Mae Llwybr Treftadaeth Llandudno yn mynd heibio pymtheg o safleoedd, o’r prom i’r pier, o’r siopau i’r traethau tywodlyd ac o erddi i bentir y Gogarth.
Ar y daith hon byddwch yn tywys eich hun o amgylch y dref. Mae’n daith o tua 3.5 milltir i gyd gyda byrddau gwybodaeth i chi eu darllen ar hyd y ffordd.
Byddwch yn darganfod pam bod tref Llandudno yn edrych fel y mae - model o dref glan môr Fictoraidd berffaith - a sut y mae wedi llwyddo i ddal gafael ar ei hedrychiad gwreiddiol dros y blynyddoedd.
Mae map ar gael yng Nghanolfan Groeso Llandudno sy’n rhoi rhagor o fanylion.

Darganfod mwy
Llyn Crafnant
Mae’r llwybr cylchol dwy filltir a hanner (4 km) hwn yn rhedeg o amgylch Llyn Crafnant ym Mharc Cenedlaethol Eryri, a saif uwchlaw pentref Trefriw yn Nyffryn Conwy.
Mae’r llwybr yn cynnig cyfle i ymgolli yn heddwch natur gyda llwybrau wedi’u marcio’n glir sy’n addas i gerddwyr o bob gallu, gan wneud hon yn gyrchfan ddelfrydol i deuluoedd a heicwyr fel ei gilydd.
Cewch eich syfrdanu gan olygfeydd bendigedig y bryniau a’r cymylau wedi’u hadlewyrchu yn nrych y dŵr llonydd. Mae’r ardal yn gyfoeth o harddwch naturiol a chyfleoedd dirifedi i weld bywyd gwyllt

Darganfod mwy
Gwarchodfa Natur RSPB, Conwy
Mae’r llwybr cerdded yng Ngwarchodfa Natur yr RSPB ger tref Conwy yn llwybr llawn rhyfeddodau byd natur.
Mae’r daith yn rhoi cyfle i ymwelwyr archwilio amrywiaeth helaeth o gynefinoedd, yn cynnwys morfeydd heli a merllynnoedd, sydd yn ei gwneud yn berffaith i wylwyr adar ac unrhyw un sy’n mwynhau natur.
O’r warchodfa ar lannau Moryd Conwy ceir golygfeydd bendigedig o’r dirwedd gyfagos yn cynnwys mynyddoedd mawreddog Eryri

Darganfod mwy
Parc Coedwig Gwydir
Coedwig o lynnoedd a mynyddoedd yng nghalon Eryri ym Metws y Coed, mae Parc Coedwig Gwydir yn gartref i amrywiaeth eang o weithgareddau a bywyd gwyllt.
Mae llawer o lwybrau cerdded wedi’u marcio sy’n cychwyn ym Metws-y-coed, yn cynnwys taith hamddenol hyfryd ar hyd lwybr pren, llwybrau drwy llethrau coediog a heibio llynnoedd hardd gyda digon o lefydd perffaith am bicnic, i wylio adar neu dim ond i fwynhau’r heddwch.
Darganfod mwy