I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Nifer yr eitemau: 219
, wrthi'n dangos 1 i 20.
Llandudno
Mae Llwybr Tref Llandudno newydd sbon yn cynnwys 15 lleoliad, o’r promenâd i’r pier, o strydoedd siopa i draethau euraid, o erddi i bentir y Gogarth.
Llandudno
Yn Llandudno, mae Ultimate Escape yn her ystafell ddianc llawn hwyl. Allwch chi a’ch ffrindiau ddatrys y cliwiau a dianc o’r ystafell?
Llanrwst
Mae Llwybr yr Arglwyddes Fair yn llwybr byr drwy goetir cymysg gyda golygfeydd hyfryd dros dref Llanrwst ac ar hyd Dyffryn Conwy i gyfeiriad y môr.
Betws-y-Coed
Taith gerdded gymhedrol/anodd drwy Goedwig Gwydir gyda golygfeydd godidog o fynyddoedd Eryri.
Conwy
Mae Summit Guides yn cynnig cyrsiau a theithiau dringo a mynydda arbennig i grwpiau bach yn Eryri.
Colwyn Bay
Llwybr beicio ar y ffordd, 15 milltir o hyd (24 cilomedr) gan deithio ar hyd yr arfordir o Fae Colwyn i dref Llandudno a’r Gogarth - ac yn ôl.
Rhos-on-Sea
Clwb Hwylio lleol, yn Llandrillo-yn-Rhos. Mae’r adran cychod criwser ar gynnydd. Rhaglen ar gyfer cychod pleser drwy’r haf.
Abergele
Golffdroed - Golff gyda pheli mwy! Mae golffdroed yn cyfuno'r gorau o ddwy gamp genedlaethol, pêl-droed a golff.
Llandudno
Mostyn yw un o orielau celf gyfoes gorau’r DU - byd o greadigrwydd 4 munud o’r traeth.
Llanrwst
Os oes awydd arnoch daith hamddenol yn ôl i’n gorffennol canoloesol yna mae Taith y Fonesig Fair trwy Goedwig Gwydyr yn berffaith ar eich cyfer. Ar y daith hanesyddol ceir golygfeydd anhygoel o hen dref marchnad Llanrwst.
Betws-y-Coed
Croeso i North Wales Active. Rydym wedi ein lleoli ym Metws-y-Coed, Gogledd Cymru ac yn cynnig gweithgareddau antur preifat pwrpasol a chymysg bob dydd.
Penmaenmawr
Fe gewch hyd i Glwb Golff Penmaenmawr ar ffin Parc Cenedlaethol Eryri yn swatio wrth droed Bwlch Sychnant mewn lleoliad godidog rhwng y mynyddoedd a’r môr.
Llandudno
Mae Canolfan Hamdden John Bright wedi'i lleoli wrth ymyl yr ysgol uwchradd yn Llandudno.
Llandudno
Mae Tramffordd y Gogarth yn Llandudno, gyda’i ysblander Fictoraidd a’i swyn yn aros i fynd â chi ar daith un filltir bictiwrésg, fythgofiadwy, i gopa Parc Gwledig a Gwarchodfa Natur y Gogarth.
Colwyn Bay
Mae Canolfan Ddigwyddiadau Eirias yn cynnig prif gyfleusterau i aelodau o’r cyhoedd, trefnwyr digwyddiadau a thimau a chlybiau chwaraeon proffesiynol.
Colwyn Bay
Oriel sy’n arddangos gwaith ffotograffiaeth a ffotograffig yw Oriel Colwyn.
Abergele
Plasty Gradd I rhestredig yng Ngogledd Cymru yw Castell Gwrych a adeiladwyd ddechrau’r 19fed Ganrif mewn arddull pensaernïol Ewropeaidd canoloesol.
Kinmel Bay
Mae Traeth Sandy Cove, Bae Cinmel, yn draeth tywodlyd sy’n wynebu'r gogledd gyda phromenâd cul ar gyfer cerddwyr a beicwyr.
Conwy
Mae’r Academi Frenhinol Gymreig yn sefydliad unigryw yng Nghymru. Mae’n elusen annibynnol sy’n cefnogi celf ac artistiaid Cymreig ac yma caiff celf ei chydnabod, ei chreu, ei harddangos a’i thrafod.
Penmachno
Mae Canolfan Marchogaeth Gwydir wedi’i leoli yng nghanol golygfeydd ardderchog Parc Cenedlaethol Eryri ac maent yn cynnig teithiau marchogaeth o amgylch coedwig Gwydir.