Am
Dewch i weld yr atyniad sy’n dal Record y Byd Guinness ac wedi ennill gwobr Tywysog Cymru, sef Mwyngloddiau Copr y Gogarth, y mwynglawdd metel hynaf yn y byd sydd ar agor i’r cyhoedd.
Cewch grwydro’r llwybrau 3,500 o flynyddoedd oed sy’n arwain at y ceudwll mawr; y cloddiad tanddaearol mwyaf yn y byd o’r oes cyn hanes. Wrth ddychwelyd i’r wyneb, dilynwch y llwybrau i’r mwynglawdd agored 4,000 o flynyddoedd oed ac yn y lloches fwyndoddi, fe welwch chi arddangosfa fideo o’r ffordd roedd ein hen, hen hynafiaid yn troi mwynau’n fetel. Yna, wrth deithio ymlaen mewn amser o’r Oes Efydd i’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, gallwch edrych i lawr siafft 470 troedfedd o hyd sy’n ymestyn yr holl ffordd at lefel y môr.
Hefyd ar y safle mae siop yn gwerthu crisialau, ffosilau, gemwaith, llyfrau a mwy, yn ogystal â siop llyfrau ail-law.
Pris a Awgrymir
Math o Docyn | Pris Tocyn |
---|---|
Oedolyn | £12.50 oedolyn |
Plentyn | £7.50 plentyn |
Telulu | £33.50 teulu |
Mae tocyn teulu ar gyfer dau oedolyn a dau blentyn (plant rhwng 5 a 15 oed). Mae plant 4 oed ac iau am ddim.
Plant ychwanegol £5.00
Cyfleusterau
Cyfleusterau Darparwyr
- Derbynnir Cw^n
- Toiledau
- Yn darparu ar gyfer grwpiau
Dulliau Talu
- Derbynnir y prif gardiau credyd
Hygyrchedd
- Caniateir Cw^n Cymorth
- Toiledau ar gyfer Ymwelwyr Anabl
Nodweddion Darparwr
- Croesawgar i gŵn
Parcio a Thrafnidiaeth
- Hygyrch drwy drafnidiaeth gyhoeddus
- Maes parcio
Teithio a Masnachu
- Disgownt ar gael ar gyfer grwpiau
TripAdvisor

- Ardderchog784
- Da iawn243
- Gweddol37
- Gwael8
- Ofnadwy5