Gwesty’r Imperial
Ystafell Gyfarfod
Ffôn: 01492 877466
Ffôn: 01492 877466
Mae Gwesty’r Imperial sydd wedi ennill gwobrau, gwesty Pedair Seren mwyaf Llandudno, yn sicrhau ceinder a rhagoriaeth a golygfeydd trawiadol ar draws y bae o'i leoliad canolog ar y Promenâd.
Gyda’i ffasâd Fictoraidd trawiadol, addurn llawn steil ac enw da am fwyd a gwasanaeth, mae Gwesty'r Imperial yn leoliad perffaith ar gyfer busnes a hamdden ac yn ganolbwynt delfrydol ar gyfer crwydro Gogledd Cymru a Llandudno, un o'r cyrchfannau glan y môr traddodiadol gorau sydd wedi cadw ei gymeriad Fictoraidd a'i naws tra'n parhau i fod yn ddeniadol i ymwelwyr heddiw.
Mae gan yr Imperial 98 o ystafelloedd gwely en-suite gan gynnwys rhai Safonol, Uwch, tair ystafell i deuluoedd, pedair ystafell gyda lolfeydd a phedair swît i deuluoedd. Mae gan nifer o’r ystafelloedd gwely olygfeydd trawiadol ar draws y bae ac mae gan rai o'r ystafelloedd ar y pumed llawr falconïau sy'n berffaith i dorheulo neu weld y golygfeydd o safbwynt arall! Mae gan yr holl ystafelloedd gwely y cyfleusterau y byddech yn eu disgwyl gan westy o’r radd flaenaf i sicrhau eich bod yn gwbl gyfforddus yn ystod eich ymweliad. Cynigir cyfleusterau i’r anabl hefyd.
O ran bwyta, gall y gwesteion ddewis rhwng Bwyty Chantrey sydd wedi ennill dwy roséd AA i fwynhau pryd o’r radd flaenaf neu'r Terrace i gael awyrgylch sy'n fwy anffurfiol. Mae’r ddau yn agored i rai nad ydynt yn aros yn y gwesty ond argymhellir y dylid archebu bwrdd.
Mae Bwyty Chantrey yn cynnig hyblygrwydd o ddewis un cwrs neu ddau i brofiad llawn o Fwydlen y Bwyty sy’n llawn prydau sy’n tynnu dŵr i’r dannedd. Yn ogystal â bwydlen Chantrey, mae pryd "Arbennig" ar gael yn ddyddiol ynghyd â chinio dydd Sul traddodiadol a blasus tra bo'r Terrace, sy'n cynnig golygfeydd trawiadol ar draws y bae, yn darparu cinio, lluniaeth ysgafn drwy'r dydd a phryd yn y gyda'r nos.
Mae cyfleusterau ar gael ar gyfer ciniawa preifat, o achlysuron teuluol bychan i ddigwyddiadau corfforaethol mawr. Gyda dewis o saith ystafell gynadledda a gwledda, gall yr Imperial groesawu hyd at 150 o westeion neu briodasau gyda hyd at 120 o westeion ac mae tair ystafell wledda wedi'u trwyddedu ar gyfer Seremonïau Sifil.
Yr Imperial hefyd yw’r unig westy mawr yn yr ardal i gynnig canolfan iechyd a ffitrwydd, gydag aelodaeth am ddim i westeion yn ystod eu hymweliad. Gall y gwesteion fwynhau mynd i nofio'n hamddenol neu ymarfer corff yn un o'r ddwy gampfa sy'n cynnwys ystod o offer hyfforddi cardiofasgwlaidd a chodi pwysau. Mae bath sba, sawna ac ystafell stêm ynghyd â salon iechyd a harddwch.
Ar agor (1 Ion 2025 - 31 Rhag 2025) |
---|
Traeth y Gogledd yw prif draeth Llandudno, ac mae’n draeth cysgodol gyda phier Fictoraidd…
Cymrwch gam i mewn i fyd rhyfeddol gyda Finding Alice – profiad realiti cymysg…
Mostyn yw un o orielau celf gyfoes gorau’r DU - byd o greadigrwydd 4 munud o’r traeth.
Ewch ar siwrnai siocled sy’n rhychwantu 5,000 o flynyddoedd. Gan ddechrau mewn cwt…
Mae Oriel Ffin y Parc yn un o’r orielau celf mwyaf llewyrchus yng Nghymru. Ar hyn o bryd…
Yn Llandudno, mae Ultimate Escape yn her ystafell ddianc llawn hwyl. Allwch chi a’ch…
Gadewch y car ac ewch ar antur ar draws Parc Cenedlaethol Eryri.
Mae Llwybr Tref Llandudno yn cynnwys 15 lleoliad, o’r promenâd i’r pier, o strydoedd…
Mae lein Dyffryn Conwy yn rhan o’r Rhwydwaith Rheilffrdd Cenedlaethol. Mae’n rhedeg wrth…
Rydym yn eich gwahodd i ymuno â ni ar un o’r profiadau teithiau preifat dan arweiniad…
Mae’r theatr 1,500 sedd yn Venue Cymru yn un o brif theatrau derbyn y DU.
Wedi ei sefydlu ym 1860, mae sioe Pwnsh a Jwdi hynaf Prydain yn cael ei pherfformio gan y…
Dewch i Amgueddfa’r Home Front i gamu’n ôl mewn amser - i’r 1940au ym Mhrydain. Yn yr…
Distyllfa Penderyn yw cartref Wisgi Cymreig sydd wedi ail-gyflwyno distyllu i Gymru ar ôl…
Mae trefi arfordirol braf Llandudno a Chonwy wedi’u lleoli rhwng dau draeth hyfryd ac mae…
Pier glan môr traddodiadol yn dyddio o ddiwedd y 1800au gydag amrywiaeth o siopau,…
Gwelwyd yn Ddiweddar
Cynnyrch
Llogi Ceir a Faniau
Boed yn geir cryno 3 drws, cerbydau pob pwrpas chwaraeon (SUV) neu faniau ar gyfer gwaith neu…
Caffi
Caffi ar brif stryd siopa Llandudno, Mostyn Street, tafliad carreg o’r promenâd a’r traeth.
Hunanddarpar
Mae ein cabanau gwyliau hynod o gyfforddus mewn lleoliad heddychlon ger yr afon ac o flaen y…