Am
Dewch i ganfod hud Finding Alice – Antur Realiti Cymysg yn Llandudno
Cymrwch gam i mewn i fyd rhyfeddol gyda Finding Alice – profiad realiti cymysg hunan-dywys unigryw sy’n trawsnewid tref lan môr brydferth Llandudno yn Wlad Hud go iawn. Perffaith i deuluoedd, ffrindiau a meddyliau chwilfrydig o bob oed, mae’r antur ryngweithiol hon yn uno technoleg, adrodd straeon a swyn busnesau bychain i greu profiad bythgofiadwy.
Fel Ymchwilydd, mae eich tasg yn un syml: dod o hyd i Alice ac achub y Wlad Hud cyn ei bod hi’n rhy hwyr. Ond nid helfa drysor gyffredin mo hon. Gan ddilyn eich platfform digidol, bydd eich tîm yn datrys posau, yn torri codau ac yn gwneud dewisiadau strategol ynglŷn â pha rai o gymeriadau annwyl y Wlad Hud i ymddiried ynddyn nhw. Mae pob penderfyniad yn eich arwain yn ddyfnach i’r dirgelwch – ac yn agosach at ddod o hyd i Alice.
Bydd eich taith yn mynd â chi ar hyd a lled Llandudno, lle mae ambell i siop a chaffi yn dod yn rhan o’r ffantasi. O ddweud ymadroddion dirgel fel “Rhyfeddolach a rhyfeddolach!” (neu“Curiouser and curiouser!”) wrth aelodau staff lleol, fe gewch chi gliwiau hanfodol ganddyn nhw i yrru eich gorchwyl yn ei blaen. Bydd pob cliw yn mynd â chi gam yn agosach at ddatrys y dirgelwch – ond cymerwch ofal: allwch chi ddim dibynnu ar bob un o gymeriadau’r Wlad Hud.
Bydd angen llygaid craff, meddwl chwim a thipyn go lew o ddychymyg arnoch chi i fod ar y blaen. Gwyliwch am Frenhines y Calonnau – os cewch chi’ch dal ganddi, rydych chi’n siŵr o “golli eich pen”, a mynd gam yn ôl yn eich tasg!
Wrth i chi symud ymlaen ar eich antur, byddwch yn ennill pwyntiau, a pho fwyaf o bwyntiau a gewch chi, yr uchaf fydd eich safle ar Fwrdd y Pencampwyr. Wnewch chi godi i’r brig a dod yn un o arwyr y Wlad Hud? Mae’n gystadleuaeth wefreiddiol llawn troeon annisgwyl, heriau a phrofiadau hudolus.
P’un a ydych chi’n chwilio am ffordd newydd i archwilio eich tref neu’n ymwelydd sy’n chwilio am brofiad cwbl unigryw, mae Finding Alice yn gyfuniad perffaith o hwyl, ffantasi ac antur.
Nid gêm yn unig mo hon – mae’n stori fyw sydd wedi’i phlethu drwy strydoedd hyfryd Llandudno, lle mae siopau’n cuddio cyfrinachau a lle gall pob penderfyniad newid y diweddglo.
Casglwch eich tîm ynghyd, gwnewch yn siŵr fod pŵer yn eich dyfeisiau, a chymerwch gam drwy’r drych. Mae’r Wlad Hud yn aros amdanoch chi – ac mae ar Alice eich angen chi.
Pris a Awgrymir
Math o Docyn | Pris Tocyn |
---|---|
Adult | £15.00 oedolyn |
Child | £7.50 plentyn |
Under 10's free
Cyfleusterau
Marchnadoedd Targed
- Hwyl i'r Teulu
Nodweddion Darparwr
- Croesawgar i gŵn