Nifer yr eitemau: 284
, wrthi'n dangos 21 i 40.
Craig y Don, Llandudno
Croeso i’r Llandudno Bay Hotel, ein gwesty pedair seren sy’n cynnig y ‘waw ffactor’ o’r cychwyn cyntaf.
Llandudno
Mae gwely a brecwast Bryn Derwen mewn lleoliad delfrydol ar dir gwastad wrth droed y Gogarth ar rodfa goediog ddistaw rhwng dau fae Llandudno.
Betws-y-Coed
Mae'r tîm yn ‘The Grill Room’ ar dân i sicrhau eu bod yn gweini cynnyrch ffres lleol, tymhorol.
Betws-y-Coed
Mae ein hethos bwyd wedi cael ei ddylanwadu dros y blynyddoedd wrth i fwy o gynhyrchwyr a chyflenwyr anhygoel ddod i’r amlwg yn lleol i werthu, tyfu a magu cynnyrch a da byw Cymru.
Craig y Don, Llandudno
Gwesty gwely a brecwast boutique gradd II ar bromenâd Traeth y Gogledd, Llandudno. Wedi’i ailwampio’n ddiweddar i safon uchel rydym ni’n darparu moethusrwydd am bris fforddiadwy.
Llandudno
Gyda golygfeydd panoramig hyfryd ar draws bae Llandudno a’r glannau ysblennydd, bwyty Y Review yw’r lle gorau yn y dref i fwynhau pryd o fwyd a golygfeydd godidog.
Llandudno
Mae Neuadd a Sba Bodysgallen, wedi’i leoli mewn 230 erw o erddi a pharcdir llawn coed, yn neuadd nodedig Gradd 1 o’r ail ganrif ar bymtheg sy’n mwynhau golygfeydd godidog o’i gerddi ffurfiol hyd at Gastell Conwy a mynyddoedd mawreddog Eryri.
Betws-y-Coed
Arferai’r Royal Oak fod yn dafarn i goetsis yn Oes Fictoria ac fe saif yng nghanol pentref Betws-y-Coed. Tirlun godidog Eryri o’n cwmpas sydd wedi dylanwadu ar ddyluniad ein hystafelloedd sydd â gwelyau cyfforddus a defnyddiau a dodrefn moethus.
Penmaenmawr
Mae Parc Carafanau Craiglwyd Hall wedi’i leoli ar lechwedd gyda golygfeydd godidog i Ynys Môn a Llandudno.
Llandudno
Mae’r Empire yn westy mawr steil boutique yn nhref glan môr boblogaidd Llandudno.
Penmaenmawr
Caffi codi arian gyda’r holl elw’n mynd i Warchodfa Anifeiliaid Eryri.
Llandudno
Parlwr hufen iâ llwyddiannus â dewis o 33 blas, sydd hefyd yn gweini waffls, crempogau a diodydd poeth ffres, lathenni o Draeth y Gogledd, Llandudno.
Pentrefoelas
Ystafell de a thŷ siocled yn gweini cinio ysgafn, diodydd a chacennau ydym ni. Rydym hefyd yn gwerthu siocledi unigol ochr yn ochr â melysion ac anrhegion.
Abergele
Rhywle i chi a'ch ffrindiau pedair coes! Cewch eich syfrdanu gan yr holl ddewis o ddanteithion i gŵn sydd gennym i’w cynnig.
Llandudno
Bwyty Eidalaidd teuluol yn Llandudno, Gogledd Cymru yw Mamma Rosa. Gyda dros 10 mlynedd o brofiad yn y diwydiant bwytai, rydym yn fwyty Eidalaidd sydd wedi hen ennill ei blwyf ac yn ffefryn gan y bobl leol ac ymwelwyr.
Penrhyn Bay
Siop frechdanau/coffi ym Mae Penrhyn sy’n defnyddio cyflenwyr Cymreig lleol.
Llandudno
Yn Blue Elephant, rydym wedi taflu’n holl egni ac ymrwymiad i’n gwaith yn y gegin, ac nid oedd hi’n hir iawn cyn i ni greu prydau newydd, sawrus sy’n tynnu dŵr i’r dannedd.
Abergele
Mae cyfuniad modern o fwyd Cantoneg, Siapaneaidd, Thai a Malaysia yn aros amdanoch yn Sakura.
Conwy
P'un a ydych chi'n dod i mewn am goffi neu frecwast i fynd, cinio gyda'r teulu, neu de prynhawn gyda'ch ffrindiau, mae gan L's fwydlen wych o fwyd a diod i'ch denu ar unrhyw adeg o’r dydd.
Llandudno
Bwyty Groegaidd a chyfleuster bwyd i fynd teuluol sy’n gweini bwyd Groegaidd cartref modern a thraddodiadol.