Plentyn ifanc yn abseilio dros ymyl clogwyn gyda chefnfor yn y cefndir

Am

Yn cynnig profiadau a hyfforddiant ar gyfer dringo creigiau, mynydda a cherdded ceunentydd ers 2017. Gweithio gyda chleientiaid o bob oedran a gallu sy’n rhoi’r pleser mwyaf i ni. Rydym yn cynnig ystod o sesiynau blasu cyffrous a llawn hwyl i’r rhai sy’n newydd i ddringo neu gerdded ceunentydd - yn addas ar gyfer pob oedran a gallu. Mae ein cyrsiau hyfforddi dringo a mynydda yn hyrwyddo arferion diogel a chynnig cyfle i bobl ddysgu sgiliau a fydd yn eu helpu i fod yn gerddwyr, dringwyr a sgrialwyr mwy annibynnol. Matt Jones sy’n rhedeg ac yn berchen ar Great Orme Vertical: “Cefais fy ngeni a’m magu yng Nghymru, ac rwyf wedi bod yn dringo a mynydda am 30 mlynedd a mwy. Yma yng Ngogledd Cymru ac ym mhedwar ban byd; ac rwy’n hyfforddwr yn y ddau faes ers y 1990au. Dechreuodd fy ngyrfa gan mod i’n teimlo’n angerddol am y chwaraeon, a’r mwynhad roeddwn yn ei gael drwy rannu’r angerdd hwnnw gyda phobl eraill. Rwy’n falch o’r enw da sydd gan Great Orme Vertical erbyn hyn, ac rwy’n edrych ymlaen at barhau i gynnig anturiaethau a hyfforddiant gwych yn yr awyr agored”. Gydag ethos cryf o Beidio â Gadael Ein Hôl, rydym yn dilyn ffordd gynaliadwy wrth ymdrin â holl agweddau ein busnes.

Mae’r holl offer yn cael ei ddarparu yn rhad ac am ddim. Bydd arnoch angen dillad sy’n addas ar gyfer cadw’n heini yn yr awyr agored. Mae’n hanfodol gwisgo esgidiau caeedig ar gyfer yr holl weithgareddau - mae esgidiau ymarfer neu fŵts/esgidiau cerdded yn ddelfrydol.

Gellir archebu ar-lein drwy ein gwefan, neu dros y ffôn.

Mae rhai gweithgareddau’n dibynnu ar y tywydd. Byddwn yn cadw mewn cysylltiad gyda chi bob amser, ac yn aildrefnu/ad-dalu pan fo angen. Rydym yn cynnig polisi archebu dim ymrwymiad.

Cyfleusterau

Cyfleusterau Darparwyr

  • Croesewir grwpiau un rhyw, e.e. parti plu / penwythnos stag
  • Gwersi/cyrsiau ar gael
  • Hyfforddiant i hyfforddwyr
  • Hyfforddwyr cymwys
  • Lefel ffitrwydd ofynnol - canolig
  • Lefel profiad - dechreuwr
  • Lefel profiad - uwch
  • Mapiau llwybrau ar gael
  • Offer/dillad am ddim
  • Yn darparu ar gyfer digwyddiadau Corfforaethol
  • Yswiriant wedi'i gynnwys

Dulliau Talu

  • Derbynnir y prif gardiau credyd

Plant a Babanod

  • Yn derbyn plant (isafswm oedran)

Map a Chyfarwyddiadau

GO Vertical

Dringo a Mynydda

Llandudno, Conwy, LL30 1LZ

Ychwanegu GO Vertical i'ch Taith

Ffôn: 07956 004002

Beth sydd Gerllaw

  1. Mae’r theatr 1,500 sedd yn Venue Cymru yn un o brif theatrau derbyn y DU.

    0.33 milltir i ffwrdd
  2. Cymrwch gam i mewn i fyd rhyfeddol gyda Finding Alice – profiad realiti cymysg…

    0.7 milltir i ffwrdd
  3. Yn Llandudno, mae Ultimate Escape yn her ystafell ddianc llawn hwyl. Allwch chi a’ch…

    0.7 milltir i ffwrdd
  1. Traeth y Gogledd yw prif draeth Llandudno, ac mae’n draeth cysgodol gyda phier Fictoraidd…

    0.72 milltir i ffwrdd
  2. Ewch ar siwrnai siocled sy’n rhychwantu 5,000 o flynyddoedd. Gan ddechrau mewn cwt…

    0.74 milltir i ffwrdd
  3. Gadewch y car ac ewch ar antur ar draws Parc Cenedlaethol Eryri.

    0.77 milltir i ffwrdd
  4. Mae lein Dyffryn Conwy yn rhan o’r Rhwydwaith Rheilffrdd Cenedlaethol. Mae’n rhedeg wrth…

    0.78 milltir i ffwrdd
  5. Mae Llwybr Tref Llandudno yn cynnwys 15 lleoliad, o’r promenâd i’r pier, o strydoedd…

    0.88 milltir i ffwrdd
  6. Rydym yn eich gwahodd i ymuno â ni ar un o’r profiadau teithiau preifat dan arweiniad…

    0.88 milltir i ffwrdd
  7. Mae’r dollffordd 5 milltir o hyd ar agor drwy’r flwyddyn ac mae’n cynnig golygfeydd…

    0.97 milltir i ffwrdd
  8. Mae'r Sea Jay a’r Seaborne yn cychwyn o'r lanfa ar Bromenâd Llandudno. Mae’r tripiau’n…

    0.97 milltir i ffwrdd
  9. Ffotograffwyr sepia hen ffasiwn. Dewch i gael llun sepia o’ch hun wedi’i ail-greu, a…

    0.97 milltir i ffwrdd
  10. Wedi ei sefydlu ym 1860, mae sioe Pwnsh a Jwdi hynaf Prydain yn cael ei pherfformio gan y…

    0.98 milltir i ffwrdd
  11. Pier glan môr traddodiadol yn dyddio o ddiwedd y 1800au gydag amrywiaeth o siopau,…

    1 milltir i ffwrdd
Previous Next

Gwelwyd yn Ddiweddar

Cynnyrch

  1. Wirral Minis - Taith Mini Flynyddol i Landudno 2025

    Math

    Dangos / Arddangos

    Taith mini flynyddol o Bromborough i Landudno, wedi ei threfnu gan Wirral Minis. Mae’r daith yn…

  2. The Merchants of Mystery and Wonder yn The Magic Bar Live, Llandudno

    Math

    Dangos / Arddangos

    Camwch i fyny a byddwch yn barod i gael eich syfrdanu gan Chris Williams a’i sioe Mystery Box…

  3. Clwb Fforwyr Bywyd Gwyllt (8-12 oed) yn RSPB Conwy

    Math

    Digwyddiad Cyfranogol

    Mae ein clwb misol ar gyfer y rhai sy’n caru natur yn ôl! Y mis hwn, ymunwch â ni i rwydo mewn…

  4. Teithiau Tywys yng Nghastell Gwrych

    Math

    Digwyddiad Cyfranogol

    Y ffordd orau o weld Castell Gwrych ar y penwythnos yw mynd ar daith gydag un o’n tywyswyr…

  5. Ffair Fêl Conwy 2025

    Math

    Marchnad/Ffair

    Ffair Siarter Frenhinol 700  mlynedd oed gyda stondinau cynnyrch mêl a chychod gwenyn, planhigion…

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....