Nifer yr eitemau: 1093
, wrthi'n dangos 1 i 20.
Conwy
Mae Conwy Guided Tours yn cynnig ystod o deithiau grŵp preifat a chyhoeddus.
Cynhelir y daith gyhoeddus o amgylch y dref a waliau’r castell 3 gwaith y dydd bron bob dydd drwy gydol y flwyddyn.
Mae’r daith gerdded hon yn awr o hyd ac yn arddangos…
Betws-y-Coed
Adeiladwyd yr eglwys yn y 14eg Ganrif a hwn yw’r adeilad hynaf ym Metws-y-Coed. Mae arddelw Gruffydd ap Dafydd Goch yn yr eglwys, bedyddfaen Normanaidd a nifer o nodweddion diddorol eraill.
Llandudno
This hotel in Llandudno is set on a lovely quiet road populated with individual large Victorian properties, at the foot of The Great Orme.
Kinmel Bay
Mae’r eiddo cysurus 5 ystafell wely yma wedi ei leoli mewn ffordd bengaead dawel gyda mynediad i harbwr hardd a thraethau a thwyni tywod.
Trefriw
Ewch i’n siop lle rydym yn gwerthu carthenni, blancedi teithio a brethyn sy’n cael eu cynhyrchu ar y safle yn defnyddio peiriannau sydd dros hanner cant o flynyddoedd oed.
Colwyn Bay
Llandrillo-yn-Rhos yw cefnder sydêt Bae Colwyn.
Llandudno
Mae Llwybr Tref Llandudno yn cynnwys 15 lleoliad, o’r promenâd i’r pier, o strydoedd siopa i draethau euraid, o erddi i bentir y Gogarth.
Colwyn Bay
Bellach gall ymwelwyr i Fae Colwyn fwynhau traeth tywodlyd eang Porth Eirias a mwynhau golygfeydd lan y môr o’r promenâd newydd a’i seddi deniadol ac ardaloedd wedi tirlunio.
Llandudno
Gwesty bychan ysblennydd ar lan y môr yn Llandudno - cyrchfan arfordirol Fictoraidd. Chwe ystafell wely mawr a moethus gyda golygfeydd godidog dros y môr.
Llanfairfechan
Dwy fflat ddeulawr hunanddarpar fodern ar lan y môr. Lle i 2 neu 4 gysgu - gellir eu llogi’n unigol neu fel pâr.
Colwyn Bay
Mae Mynydd Marian yn gefnen fechan o garreg galch sydd â golygfeydd godidog o’r arfordir a’r cefn gwlad gerllaw, yn ogystal â mynyddoedd Eryri a Bryniau Clwyd yn y pellter.
Penmaenmawr
Traeth tywod hir gyda phromenâd sydd wedi’i adnewyddu yn ddiweddar. O Benmaenmawr fe welwch Afon Menai a’i holl gyfleusterau sy’n ei wneud yn gyrchfan boblogaidd i deuluoedd.
Kinmel Bay
Mae Traeth Sandy Cove, Bae Cinmel, yn draeth tywodlyd sy’n wynebu'r gogledd gyda phromenâd cul ar gyfer cerddwyr a beicwyr.
Llanrwst
Mae Cyngor Tref Llanrwst wedi sefydlu Pwynt Gwybodaeth i Dwristiad yn ei adeilad newydd yng nghanol y dref, mewn lleoliad cyfleus ar Sgwâr Ancaster.
Conwy
Mae traeth Morfa Conwy yn fae mawr tywodlyd, sy’n ffurfio rhan o’r traethau tywydd a banciau cregyn gleision helaeth Bae Conwy. Mae’n lleoliad da ar gyfer pysgota, mae yma farina ac mae cwrs golff gerllaw.
Llandudno
Dewch i Amgueddfa’r Home Front i gamu’n ôl mewn amser - i’r 1940au ym Mhrydain. Yn yr amgueddfa unigryw ac annibynnol hon, cewch brofi a thywys eich hunain o amgylch golygfeydd a synau bywyd dinesig yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Llandudno
Mae gan yr Amgueddfa chwe oriel barhaol yn adrodd hanesion gorffennol Llandudno gan gynnwys y trigolion cynharaf, creu’r dref Fictoraidd, a’i lle fel hafan ddiogel yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Llandudno
Traeth y Gogledd yw prif draeth Llandudno, ac mae’n draeth cysgodol gyda phier Fictoraidd a phromenâd llydan yng nghysgod penrhyn godidog Pen y Gogarth.
Conwy
Agorwyd Paysanne yn 1988 gan Bob a Barbara Ross, pâr o Ffrainc-garwyr yn arbenigo mewn coginio Ffrengig.