Golygfa o'r Gogarth, gan gynnwys y system ceir cebl

Am

CEIR CEBL AR AGOR RŴAN

 

**Yn anffodus ni all y Ceir Cebl weithredu ar ddyddiau gwyntog, felly i osgoi siom, ffoniwch i gael amseroedd agor 01492 877205**

 

Sylwch mai arian parod yn unig a dderbynnir  ar gyfer yr atyniad hwn ac nad oes peiriant arian ar gael yng Nghanolfan Pen y Gwylfryn nac wrth ymyl y swyddfa docynnau ar y gwaelod. (Mae’r peiriant arian agosaf yn siop Sainsbury’s Local ar Mostyn Street)

 

Dewch i fwynhau taith ar Geir Cebl Llandudno yn ystod eich ymweliad â’r dref hardd.

Agorwyd system ceir cebl Llandudno, sef yr hiraf ym Mhrydain ar gyfer teithwyr, ar 30 Mehefin 1969.  Mae’r profiad unigryw hwn yn parhau i fod yn un o atyniadau mwyaf poblogaidd y dref.

Wrth i Geir Cebl Llandudno lithro’n dawel o’r Fach i gopa’r Gogarth, 679 troedfedd i fyny, gallwch fwynhau’r golygfeydd panoramig syfrdanol o Fae Llandudno, Trwyn y Fuwch, Aber Afon Conwy a milltiroedd allan dros Fôr Iwerddon.

 

Cwestiynau Cyffredin

Ble mae gorsaf Ceir Cebl Llandudno?

Mae’r brif orsaf yn Y Fach

Faint o bobl mae pob Car Cebl yn ei ddal?

Gall pob car ddal hyd at 4 o bobl.

Faint mae’n ei gostio i fynd ar Gar Cebl Llandudno?

Mae tocynnau car cebl dwy ffordd i oedolion yn £14.  Rhestrir y prisiau eraill ar waelod y dudalen hon. Sylwch mai arian parod yn unig a dderbynnir  ar gyfer yr atyniad hwn ac nad oes peiriant arian ar gael yng Nghanolfan Pen y Gwylfryn.

A allaf archebu tocynnau Car Cebl Llandudno o flaen llaw?

Na fedrwch, nid oes system archebu ar gael. Bydd angen i chi neu’ch ymwelwyr dalu ag arian parod wrth gyrraedd. Sylwch y gallech fod yn sefyll mewn ciw ar adegau prysur.

Pa mor hir yw’r siwrnai ar Gar Cebl Llandudno?

Mae’r siwrnai’n cymryd tua 9 munud bob ffordd

Pa mor aml mae Ceir Cebl Llandudno yn rhedeg?

Maen nhw’n rhedeg mewn cylch parhaus felly maen nhw’n mynd yn eithaf aml.

A oes modd mynd â chŵn ar Geir Cebl Llandudno?

Mae croeso i gŵn ar y ceir cebl am ffi fechan.

A yw Ceir Cebl Llandudno yn hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn?

Yn anffodus nid yw’r orsaf ceir cebl yn addas i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn.

A allaf ddefnyddio fy nhocyn i ddod i lawr ar Dramffordd y Gogarth?

Na fedrwch, ni allwch drosglwyddo’ch tocyn i’w ddefnyddio ar Dramffordd y Gogarth.

Pris a Awgrymir

Math o DocynPris Tocyn
Cwn£2.00 oedolyn
Dychweliad oedolyn£14.00 fesul math o docyn
Dychweliad plentyn£11.50 fesul math o docyn
Dychweliad teulu (2 oedolyn, 2 blentyn)£40.00 fesul math o docyn
Plentyn sengl£11.00 fesul math o docyn
Sengl oedolyn£13.50 fesul math o docyn
Teulu sengl (2 oedolyn, 2 blentyn)£38.00 fesul math o docyn

** Noder, nid yw'r Car Cebl yn derbyn taliad cerdyn - arian parod yn unig ** Nid yw’r tocynnau’n drosglwyddadwy ar gyfer eu defnyddio ar Dramffordd y Gogarth.
(Prisiau 2024 ar 17/04/2024).

Cyfleusterau

Marchnadoedd Targed

  • Hwyl i'r Teulu
  • Wedi'i Farchnata ar gyfer Teuluoedd

Nodweddion Darparwr

  • Atyniad Awyr Agored
  • Croesawgar i gŵn

TripAdvisor

Map a Chyfarwyddiadau

Car Cebl Llandudno

Gweld Golygfeydd

Happy Valley, Llandudno, Conwy, LL30 2LP

Ychwanegu Car Cebl Llandudno i'ch Taith

Ffôn: 01492 877205

Amseroedd Agor

* Ni all y ceir cebl weithredu ar ddiwrnodau gwyntog - ffoniwch am amseroedd agor.

Beth sydd Gerllaw

  1. Ffotograffwyr sepia hen ffasiwn. Dewch i gael llun sepia o’ch hun wedi’i ail-greu, a…

    0.09 milltir i ffwrdd
  2. Mae'r Sea Jay a’r Seaborne yn cychwyn o'r lanfa ar Bromenâd Llandudno. Mae’r tripiau’n…

    0.09 milltir i ffwrdd
  3. Mae’r dollffordd 5 milltir o hyd ar agor drwy’r flwyddyn ac mae’n cynnig golygfeydd…

    0.1 milltir i ffwrdd
  4. Pier glan môr traddodiadol yn dyddio o ddiwedd y 1800au gydag amrywiaeth o siopau,…

    0.14 milltir i ffwrdd
  1. Caiff Taith Fawr y Gogarth ei weithredu gan fflyd fechan o fysiau hen ffasiwn i gludo…

    0.15 milltir i ffwrdd
  2. Mae Trenau Tir Llandudno yn cynnig ffordd hyfryd o archwilio prydferthwch golygfeydd…

    0.15 milltir i ffwrdd
  3. Dewch ar daith i gopa’r Gogarth! Mae’r daith, a gaiff ei chynnal bob awr, yn gwneud y…

    0.15 milltir i ffwrdd
  4. Mae trefi arfordirol braf Llandudno a Chonwy wedi’u lleoli rhwng dau draeth hyfryd ac mae…

    0.17 milltir i ffwrdd
  5. Wedi ei sefydlu ym 1860, mae sioe Pwnsh a Jwdi hynaf Prydain yn cael ei pherfformio gan y…

    0.2 milltir i ffwrdd
  6. Hwylfan Bonkerz, un o’r cyfleusterau chwarae meddal dan do gorau o’i fath yng Ngogledd…

    0.28 milltir i ffwrdd
  7. Mae Tramffordd y Gogarth yn Llandudno, gyda’i ysblander Fictoraidd a’i swyn yn aros i…

    0.28 milltir i ffwrdd
  8. Teithiau gwylio adar dan arweiniad drwy gydol y flwyddyn. Teithiau personol i un/dau o…

    0.31 milltir i ffwrdd
  9. Mae gan yr Amgueddfa chwe oriel barhaol yn adrodd hanesion gorffennol Llandudno gan…

    0.38 milltir i ffwrdd
  10. Dewch i Amgueddfa’r Home Front i gamu’n ôl mewn amser - i’r 1940au ym Mhrydain. Yn yr…

    0.38 milltir i ffwrdd
  11. Traeth y Gogledd yw prif draeth Llandudno, ac mae’n draeth cysgodol gyda phier Fictoraidd…

    0.39 milltir i ffwrdd
  12. Mae Llwybr Tref Llandudno newydd sbon yn cynnwys 15 lleoliad, o’r promenâd i’r pier, o…

    0.42 milltir i ffwrdd
Previous Next

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....