St Hilary's Guest House

Am

Bydd croeso cynnes iawn yn eich disgwyl yn Nhŷ Llety St Hilary, Llandudno, sef tŷ llety Fictoraidd cain ar lan y môr gyda golygfeydd godidog o fae Llandudno.

Mae’r ystafelloedd gwely en-suite yn lân a thrwsiadus ac wedi’u haddurno’n chwaethus, gyda gwelyau cyfforddus a dillad gwely gwyn glân a bleindiau sy’n cau’r golau allan i sicrhau eich bod yn cael noson ardderchog o gwsg. Mae gan bob ystafell wely deledu sgrin fflat, FreeView, cyfleusterau gwefru USB, cloc larwm, sychwr gwallt, nwyddau ymolchi o ansawdd a hambwrdd diodydd llawn.

Mae gan yr ystafelloedd sydd â golygfeydd o’r môr flancedi cynnes a sbienddrych / telesgop. Yn yr ystafell frecwast hyfryd sy’n edrych dros y môr, gallwch fwynhau amrywiaeth o fwydydd poeth ac oer, gan gynnwys brecwast iach wedi’i grilio, ffrwythau ffres a choffi ffres.

Mae band eang di-wifr ar gael am ddim ym mhob rhan o’r eiddo, gall gwesteion ymlacio yn y lolfa glyd ac mae cyfleusterau smwddio ar gael yn rhad ac am ddim hefyd.

Croesawir archebion gan deuluoedd a grwpiau.

Pris a Awgrymir

Nifer yr Ystafelloedd / Unedau
7
Ystafell / Uned MathYstafell / Uned Tariff*
Double (rear view)£150.00 yr ystafell (brecwast yn gynwysedig)
Double (sea view) (2 nights)£250.00 yr ystafell (brecwast yn gynwysedig)
Twin Room (sea view) (2 nights)£250.00 yr ystafell (brecwast yn gynwysedig)

*Fel canllaw, rhoddir prisiau fesul ystafell fesul noson ar gyfer gwestai, gwestai bach, gwely a brecwast, fflatiau â gwasanaeth a fesul wythnos am lety hunanddarpar.

Noder: Canllaw yn unig yw'r prisiau a gallant newid yn ddyddiol.

Cyfleusterau

Arall

  • Licensed
  • Short breaks available
  • Special diets catered for
  • Totally non-smoking establishment
  • Wireless internet

Cyfleusterau Darparwr

  • Cyfleusterau i blant ar gael

Dulliau Talu

  • Derbynnir cardiau credyd

Nodweddion Ystafell/Uned

  • Cyfleusterau te a choffi ym mhob ystafell wely
  • Teledu lliw ym mhob ystafell wely

Teithio Grwp

  • Croesewir partïon bysiau

TripAdvisor

Map a Chyfarwyddiadau

St Hilary's Guest House

16 Craig y Don Parade, Craig y Don, Llandudno, Conwy, LL30 1BG

Ffôn: 01492 709 901

Amseroedd Agor

Agored drwy'r flwyddyn (1 Ion 2025 - 31 Rhag 2025)

* Wedi cau 16 Rhagfyr - 5 Ionawr

Beth sydd Gerllaw

  1. Mae’r theatr 1,500 sedd yn Venue Cymru yn un o brif theatrau derbyn y DU.

    0.41 milltir i ffwrdd
  2. Mae Finding Alice yn antur helfa drysor, llawn hwyl a hud, o gwmpas Llandudno. Mae’n…

    0.78 milltir i ffwrdd
  3. Yn Llandudno, mae Ultimate Escape yn her ystafell ddianc llawn hwyl. Allwch chi a’ch…

    0.78 milltir i ffwrdd
  1. Traeth y Gogledd yw prif draeth Llandudno, ac mae’n draeth cysgodol gyda phier Fictoraidd…

    0.79 milltir i ffwrdd
  2. Ewch ar siwrnai siocled sy’n rhychwantu 5,000 o flynyddoedd. Gan ddechrau mewn cwt…

    0.82 milltir i ffwrdd
  3. Gadewch y car ac ewch ar antur ar draws Parc Cenedlaethol Eryri.

    0.85 milltir i ffwrdd
  4. Mae lein Dyffryn Conwy yn rhan o’r Rhwydwaith Rheilffrdd Cenedlaethol. Mae’n rhedeg wrth…

    0.86 milltir i ffwrdd
  5. Mae Llwybr Tref Llandudno yn cynnwys 15 lleoliad, o’r promenâd i’r pier, o strydoedd…

    0.96 milltir i ffwrdd
  6. Rydym yn eich gwahodd i ymuno â ni ar un o’r profiadau teithiau preifat dan arweiniad…

    0.96 milltir i ffwrdd
  7. Trwyn y Fuwch yw’r pentir calchfaen i’r dwyrain o Landudno. Mae’n llai datblygedig na’i…

    0.98 milltir i ffwrdd
  8. Mae'r Sea Jay a’r Seaborne yn cychwyn o'r lanfa ar Bromenâd Llandudno. Mae’r tripiau’n…

    1.03 milltir i ffwrdd
  9. Mae’r dollffordd 5 milltir o hyd ar agor drwy’r flwyddyn ac mae’n cynnig golygfeydd…

    1.03 milltir i ffwrdd
  10. Wedi ei sefydlu ym 1860, mae sioe Pwnsh a Jwdi hynaf Prydain yn cael ei pherfformio gan y…

    1.06 milltir i ffwrdd
  11. Pier glan môr traddodiadol yn dyddio o ddiwedd y 1800au gydag amrywiaeth o siopau,…

    1.07 milltir i ffwrdd
Previous Next

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....