Pethau i’w Gwneud
Mae sir Conwy, ar arfordir godidog gogledd Cymru, yn drysor i deithwyr sy’n chwilio am hanes, antur a natur.
Mae Castell Conwy, sy’n Safle Treftadaeth Byd UNESCO yn dominyddu’r awyr, ac yn cynnig golygfeydd panoramig o’r aber a’r mynyddoedd amgylchynol o’r tyrrau eiconig. Cewch grwydro drwy furiau canoloesol y dref neu archwilio Plas Mawr, tŷ tref Elisabethaidd gydag addurniadau o’r cyfnod sydd wedi cael eu gwarchod yn ofalus.
Gall selogion awyr agored ymweld â Pharc Cenedlaethol Eryri i grwydro’r llwybrau a’r tirweddau dramatig.
Neu os ydych yn chwilio am rywbeth mwy hamddenol, beth am fynd am dro ar hyd Pier Fictoraidd Llandudno, neu fwynhau’r baeau ysgubol o Dramffordd y Gogarth, neu brofiad unigryw car cebl Llandudno, sy’n cynnig golygfeydd dros Fôr yr Iwerydd ac Ynys Môn.
Ar gyfer y rhai sy’n hoff o fywyd gwyllt, mae Gwarchodfa Natur RSPB Conwy yn lleoliad hyfryd ar gyfer gwylio adar a mwynhau llwybrau cerdded syml drwy wlypdiroedd a choedwigoedd. Neu, ymwelwch â’r Sŵ Fynydd Gymreig ym Mae Colwyn i gwrdd â swricatiaid, llewpardiaid yr eira ac anifeiliaid mwy egsotig.