Nifer yr eitemau: 138
, wrthi'n dangos 121 i 138.
Corwen
Mae Coedwig Clocaenog yng nghanol Mynydd Hiraethog ac mae’n ardal 6,000 hectar (15,000 acer) o faint. Dyma gynefin un o boblogaethau olaf y wiwer coch yng Nghymru ac mae’n ardal hollbwysig ar gyfer y rugiar ddu brin.
Colwyn Bay
Mae'r coetir amlwg hwn sy’n ymestyn ar draws y llethrau uwchben a’r tu ôl i dref Bae Colwyn yn hawdd cyrraedd ato o'r llwybr beicio arfordirol.
Penmachno
Profwch deithiau tanddaearol am hanner diwrnod neu ddiwrnod cyfan drwy’r hen fwyngloddiau yng nghrombil Eryri. Mae dewis o tri o anturiaethau unigryw sy’n amrywio o ran yr her a’r cyffro. Does dim angen unrhyw brofiad.
Llandudno
O’r lleoliad trawiadol hwn, mae’r Summit Complex yn cynnig golygfeydd aruthrol i chi o Landudno, ardaloedd o Barc Cenedlaethol Eryri, Ynys Môn a Môr Iwerddon.
Penmaenmawr
Mae’r daith ar hyd yr Uwchdir yn datgelu peth o hanes cudd y dirwedd uwchben Penmaenmawr sy’n gyforiog o rywogaethau bywyd gwyllt ac adar.
Llandudno
Dyma lwybr sain hunan-dywysedig hawdd 3 milltir o hyd a grëwyd gan Y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol gydag IBG.
Cerrigydrudion
Y byrraf o’r ddau lwybr, ychydig gannoedd o fetrau o hyd yn unig, yn cyflwyno rhai o nodweddion mwyaf diddorol o’r Oes Efydd ac Oes y Cerrig ger Llyn Brenig.
Cerrigydrudion
Llwybr 3.5 cilomedr o hyd (dringo 60m), sy’n ymdroelli drwy Goedwig Clocaenog ac yn berffaith ar gyfer teuluoedd a dechreuwyr.
Colwyn Bay
Mae Theatr Colwyn yn theatr a sinema hanesyddol sy’n defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i gynnig i gwsmeriaid brofiad adloniannol o’r unfed ganrif ar hugain gyda blas cyfeillgar a thraddodiadol iddo.
Trefriw
Mae'r daith hawdd hon yn cychwyn o’r maes parcio o flaen adfeilion Cloddfa Hafna, ac yn dilyn ffordd y goedwig i fyny'r bryn drwy gymysgedd o goed pefrwydd, pinwydd a choetiroedd llydanddail gyda golygfeydd gwych dros Ddyffryn Conwy a’r Gogarth.
Pentrefoelas
Mae llyn dwfn naturiol Llyn Aled yng nghanol rhostiroedd uchel Hiraethog. Mae’n safle anial, ond hyfryd tu hwnt ac dyma un o’r llefydd gorau i bysgota cwrs yn yr ardal.
Llandudno
Cymrwch gam i mewn i fyd rhyfeddol gyda Finding Alice – profiad realiti cymysg hunan-dywys unigryw sy’n trawsnewid tref lan môr brydferth Llandudno yn Wlad Hud go iawn. Perffaith i deuluoedd, ffrindiau a meddyliau chwilfrydig o bob oed, mae’r antur…
Colwyn Bay
Cyfres o 4 cylchdaith sy’n amrywio o .075 milltir i 1.25 milltir sy’n ymestyn ar draws y llethrau y tu ôl i dref Bae Colwyn.
Llandudno
Mae Clwb Golff Gogledd Cymru yn nhref glan môr heulog Llandudno, gyda golygfeydd gwych dros foryd Conwy i Ynys Môn a mynyddoedd Eryri.
Llandudno
Taith amrywiol o amgylch tref glan môr Fictoraidd Llandudno a’r Gogarth ac yn ôl Ddeganwy. Tua 15 milltir (24 km) o hyd gyda nifer o rannau sy’n codi’n raddol.
Conwy
Taith o amgylch Mynydd y Dref (Conwy) ar lwybrau glaswelltog, traciau a ffyrdd eilaidd, gyda golygfeydd godidog.
Conwy
Cerddwch dros yr Afon Conwy ar Bont Grog Thomas Telford, gyda golygfa o Gastell Conwy, Eryri a’r Aber.
Trefriw
Mae’r llwybr hwn yn arwain ar draws y bryniau coediog, heibio cloddiadau dwfn, siafftiau mwynfeydd wedi’u capio, mynedfeydd y twnnelau a gweddillion hen felinau, lle bu cenedlaethau o fwynwyr yn cloddio plwm a mwyn sinc o’r bryniau.