Nifer yr eitemau: 102
, wrthi'n dangos 61 i 80.
Llanrwst
Taith o tua 15 milltir (24 km) gyda llethrau cymedrol trwy bentrefi Betws-y-Coed, Penmachno, Capel Garmon, heibio i geunant Ffos Anoddun gyda golygfeydd gwych.
Conwy
Mae’r coetir cymysg deniadol hwn o 7.5 ha rhwng Parc Bodlondeb yng Nghonwy a glan ddeheuol Moryd Conwy, ac mae’n gartref i amrywiaeth o famaliaid, adar ac ieir bach yr haf.
Penmaenmawr
Mae’r daith ar hyd yr Uwchdir yn datgelu peth o hanes cudd y dirwedd uwchben Penmaenmawr sy’n gyforiog o rywogaethau bywyd gwyllt ac adar.
Penmachno
Profwch deithiau tanddaearol am hanner diwrnod neu ddiwrnod cyfan drwy’r hen fwyngloddiau yng nghrombil Eryri. Mae dewis o tri o anturiaethau unigryw sy’n amrywio o ran yr her a’r cyffro. Does dim angen unrhyw brofiad.
Rhos-on-Sea
P’un a ydych yn ddechreuwr neu neu’n unigolyn profiadol, byddwn yn gwneud ein gorau i sicrhau eich bod wrth bysgod a’ch bod yn cael diwrnod gwych.
Betws-y-Coed
Mae’r daith hon yn cychwyn o Eglwys y Santes Fair yng Ngwydyr ac yn dringo trwy’r coetir nes cyrraedd Llyn Elsi lle ceir golygfeydd gwych tuag at Foel Siabod a’r Carneddau.
Llanrwst
Mae Llwybr Gwydir Mawr 25km yn llwybr beicio mynydd ym mhob ystyr o’r gair. Mae’n ymgorffori Llwybr Gwydir Bach byrrach, sy’n fersiwn 8.8km ac sy’n cymryd rhwng 45 a 90 munud i’w gwblhau.
Johnny Throws ydi lleoliad cyntaf, a’r unig leoliad, yng ngogledd Cymru i gynnig Dartiau Realiti Estynedig a Thaflu Bwyelli Dan Do – dan yr un to, reit wrth droed y Gogarth yn Llandudno.
Llandudno Junction
Mae’r daith hon yn croesi aber Conwy ar hyd lonydd a phentrefi tawel Dyffryn Conwy o Gyffordd Llandudno i Gonwy, Rowen, Henryd ac yn ôl i Gyffordd Llandudno. Mae’r daith tua 14 milltir (22.5 km) o hyd.
Llandudno
Mwynhewch daith ar Gar Cebl Llandudno yn ystod eich ymweliad â'r gyrchfan hyfryd. Mae’r profiad unigryw hwn a agorwyd ar 30 Mehefin 1969 fel y system car cebl teithwyr hiraf ym Mhrydain.
Penmaenmawr
Fe gewch hyd i Glwb Golff Penmaenmawr ar ffin Parc Cenedlaethol Eryri yn swatio wrth droed Bwlch Sychnant mewn lleoliad godidog rhwng y mynyddoedd a’r môr.
Llanrwst
Mae Llwybr yr Arglwyddes Fair yn llwybr byr drwy goetir cymysg gyda golygfeydd hyfryd dros dref Llanrwst ac ar hyd Dyffryn Conwy i gyfeiriad y môr.
Penmachno
Llwybrau Penmachno yw un o ganolfannau beicio mynydd gorau Gogledd Cymru. Mae yma ddau lwybr - Dolen Machno (19cilomedr) a Dolen Eryri (11 cilomedr) - gallwch eu beicio’n unigol neu fel clamp o daith hir 30 cilomedr.
Llandudno
Teithiau hanesyddol o amgylch Llandudno, Conwy a Gogledd Cymru ar gyfer ymweliadau ysgol, grwpiau ac unigolion.
Rhos-on-Sea
Mae Bryn Euryn yn fryn calchfaen amlwg uwchben Llandrillo-yn-Rhos, efo golygfeydd da o'r copa. Arno mae cymysgfa dda o laswelltir a choetir, efo rhan ohono yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
Conwy
Paratowch i brofi’r antur eithaf gydag AquaTour – prif ddarparwr teithiau cychod RIB cyffrous ar hyd arfordir anhygoel gogledd Cymru. Gan adael harbwr canoloesol hardd Conwy mae AquaTour yn cynnig teithiau cyflym cyffrous, teithiau bywyd gwyllt a…
Llandudno
Cyfres o lwybrau cerdded, o bellter amrywiol, i fyny ac o amgylch copa’r Gogarth yn Llandudno.
Llandudno
Mae Clwb Bowlio Llandudno yn The Oval, rhyw hanner milltir o ganol y dref a nesaf at y maes criced. Bydd pob ymwelydd yn cael croeso cynnes iawn i’n grîn.
Conwy
Lawrlwythwch y daflen hon am ddim a dechrau eich antur 80 munud drwy un o'r trefi canoloesol mwyaf diddorol, ac sydd wedi'i chynnal orau, yn Ewrop.
Betws-y-Coed
Coedwig o lynnoedd a mynyddoedd yng nghanol Eryri. Mae Parc Coedwig Gwydir yn gartref i ystod eang o weithgareddau a bywyd gwyllt.