Mynedfa flaen y Ganolfan Ddiwylliant gyda golygfa o Gastell Conwy

Am

Porth Diwylliannol i Sir Conwy

Mae Canolfan Ddiwylliant Conwy dafliad carreg oddi wrth waliau tref ganoloesol ryfeddol Conwy.

Mae’r adeilad golau ac agored hwn, a gwblhawyd yn 2019, wedi cymryd ei le’n dda ym Mharc Bodlondeb ac mae’n gartref i archifau sirol, llyfrgell ardal, arddangosfeydd treftadaeth, caffi a chanolbwynt celfyddydau cymunedol newydd sbon.

Mae’n fan cychwyn gwych ar gyfer eich siwrnai trwy hanes Sir Conwy. Mae’r arddangosfeydd yn mynd ag ymwelwyr trwy bum mil o flynyddoedd o hanes ac mae’n cynnwys gwrthrychau unigryw, gwaith celf hyfryd a dehongliad rhyngweithiol sy’n addas i’r teulu cyfan.

Llyfrgell a llawer mwy; dyma loches, lle i ymlacio neu wneud tipyn o waith. Rhywle i eistedd ac ymlacio gyda llyfr da a choffi.

Ydych chi erioed wedi rhoi cynnig ar ymchwilio i hanes lleol neu hanes teulu? Dyma’r cyfle perffaith, gyda staff cyfeillgar wrth law i’ch helpu i ddechrau arni.

Yn yr ardaloedd wedi’u tirlunio o amgylch y ganolfan mae gardd synhwyraidd heddychlon gyda llwybrau a seddi hygyrch sy’n ystyriol i bobl â dementia. Gallwch wrando ar leisiau lleol yn adrodd eu storïau wrth i chi eistedd ar fainc sain ac edmygu'r planhigion meddyginiaethol yn yr Ardd Ffisig; sy'n cydnabod hanes mynachaidd cyfoethog Conwy cyn y castell.

Mae’r Ganolfan Ddiwylliant yn hygyrch i bawb.

Mae cyfleusterau newid babi, dolen glyw a dehongli Iaith Arwyddion Prydain ar gael.

Mae Canolfan Ddiwylliant Conwy yn gweithio tuag at fod yn ystyriol o bobl â dementia.

Cyfleusterau

Arlwyo

  • Caffi/bwyty ar y safle

Hygyrchedd

  • Mae Pob Ardal yn Hygyrch i Ymwelwyr Anabl

Ieithoedd a siaredir

  • Iaith Arwyddion

Nodweddion Darparwr

  • Atyniad Dan Do
  • Mewn tref/canol dinas

Parcio a Thrafnidiaeth

  • Hygyrch drwy drafnidiaeth gyhoeddus

Teithio a Masnachu

  • Wi-fi ar gael

TripAdvisor

Map a Chyfarwyddiadau

Canolfan Ddiwylliant Conwy

Canolfan Dreftadaeth / Ymwelwyr

Town Ditch Road, Conwy, Conwy, LL32 8NU

Ffôn: 01492 577550

Amseroedd Agor

* Gweler y wefan am oriau agor.

Beth sydd Gerllaw

  1. Plas Mawr yw’r tŷ tref Elisabethaidd gorau ym Mhrydain. Lleolir yng Nghonwy, cartref un o…

    0.06 milltir i ffwrdd
  2. Lawrlwythwch y daflen hon am ddim a dechrau eich antur 80 munud drwy un o'r trefi…

    0.13 milltir i ffwrdd
  3. Gellir dod o hyd i’r Tŷ Lleiaf ym Mhrydain yn swatio o blith teras o dai ar lan y cei yng…

    0.15 milltir i ffwrdd
  1. Yn rhan o Safle Treftadaeth y Byd UNESCO sy’n cynnwys cestyll ysblennydd ym Miwmares,…

    0.19 milltir i ffwrdd
  2. Ar lan afon Conwy, ger Castell Conwy, mae Amgueddfa Cregyn Gleision Conwy yn llawn hanes…

    0.2 milltir i ffwrdd
  3. Mae’r coetir cymysg deniadol hwn o 7.5 ha rhwng Parc Bodlondeb yng Nghonwy a glan…

    0.21 milltir i ffwrdd
  4. Neidiwch ar fwrdd y Queen Victoria am fordaith i weld golygfeydd i fyny’r afon Conwy tuag…

    0.21 milltir i ffwrdd
  5. Pan adeiladodd y Brenin Edward I Gastell Conwy ar ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg y…

    0.24 milltir i ffwrdd
  6. Cerddwch dros yr Afon Conwy ar Bont Grog Thomas Telford, gyda golygfa o Gastell Conwy,…

    0.32 milltir i ffwrdd
  7. Mae traeth Morfa Conwy yn fae mawr tywodlyd, sy’n ffurfio rhan o’r traethau tywydd a…

    0.83 milltir i ffwrdd
  8. Mae gwarchodfa natur RSPB Conwy yn wlypdir ar lan ddwyreiniol aber Conwy, a grëwyd o…

    1.07 milltir i ffwrdd
  9. Ar 150 erw o dir, gallwch fwynhau heddwch Pensychnant. Adeiladwyd o fewn Bwlch Sychnant…

    1.78 milltir i ffwrdd
  10. Trên Bach Penmorfa: gall hen ac ifanc ill dau fwynhau taith y tu ôl i locomotifau stêm a…

    2.43 milltir i ffwrdd
  11. Mae Colin a Charlotte yn eich gwahodd chi i ymuno â nhw ar gyfer profiad gwinllan unigryw…

    2.43 milltir i ffwrdd
  12. Mae Traeth Penmorfa yn Llandudno yn lle llawer tawelwch na Thraeth y Gogledd sy’n llawn…

    2.7 milltir i ffwrdd
Previous Next

Cysylltiedig

CantînCantîn, ConwyWedi’i leoli yng Nghanolfan Ddiwylliant Conwy, mae Cantîn yn gweini coffi, brecwast, cinio, cacennau a mwy!

Gwelwyd yn Ddiweddar

Cynnyrch

  1. Fflatiau Hunanarlwyo Rhif 9

    Math

    Hunanddarpar

    Dewis gwych o randai glan y môr. 3 rhandy mawr (1 a 2 ystafell wely, yn cysgu 2-5) mewn adeilad…

  2. Y Tŷ Lleiaf ym Mhrydain

    Math

    Amgueddfa

    Gellir dod o hyd i’r Tŷ Lleiaf ym Mhrydain yn swatio o blith teras o dai ar lan y cei yng Nghonwy.…

  3. Bythynnod Moethus Llannerch Goch

    Math

    Hunanddarpar

    Mae pob dyfais fodern i’w chael yn ein 3 bwthyn hunanarlwyo moethus. Lle i 1-4 o bobl gysgu. Dwy…

  4. Clwb Bowlio Craig-y-Don

    Math

    Bowlio

    Mae’r clwb bowlio wedi’i leoli yn ardal braf Craig-y-Don ger Llandudno, ac mae’n darparu…

  5. Led Into Zeppelin a'r Jamie Porter Band yn y Motorsport Lounge, Llandudno

    Math

    Cerddoriaeth Fyw

    Croeso’n ôl i Led Into Zeppelin i’r lleoliad gwych yma. Gallwch ddisgwyl holl glasuron Zep o’r…

  6. Parc Tŷ Gwyn

    Math

    Parc Gwyliau/Carafanau Teithio a Gwersylla

    Ni yw’r drydedd genhedlaeth o’n teulu ni i redeg y parc cyfeillgar, sydd wedi’i leoli ar arfordir…

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....