Am
Yn sefyll allan yng Nghonwy mae ein bwyty wedi’i addurno a’i ddodrefnu’n glasurol ac wedi’i leoli ar lawr cyntaf adeilad rhestredig Gradd II sy’n dyddio o’r 1800au. Yn cynnwys grisiau agored uchder llawn gyda charpedi moethus addurniadol drwyddi draw, dyma urddas a cheinder nas gwelir yn unman arall yng Nghonwy.
Gan ddarparu amrywiaeth o brydau wedi'u paratoi'n ffres, te prynhawn, coctels a rhestr win helaeth, rydym yn cynnig gwasanaeth bwrdd llawn mewn awyrgylch hamddenol a chyfforddus i ffwrdd o brysurdeb tref Conwy.
Cyfleusterau
Arlwyo
- Brecwast ar gael
- Cinio ar gael
- Trwyddedig
- Yn gweini te prynhawn
Cyfleusterau Lleoliad
- Cyfleusterau toiled
Dulliau Talu
- Derbynnir y prif gardiau credyd
Nodweddion Darparwr
- Mewn tref/canol dinas
Parcio a Thrafnidiaeth
- Hygyrch drwy drafnidiaeth gyhoeddus
Plant a Babanod
- Yn derbyn plant (isafswm oedran)