Ewch am dro i Sir Conwy yr haf hwn – cyrchfan syfrdanol lle mae traethau godidog, llwybrau cerdded golygfaol a threftadaeth gyfoethog yn dod at ei gilydd, y gwyliau perffaith ar gyfer teuluoedd.
P'un a ydych chi'n adeiladu cestyll tywod ar lannau Morfa Conwy, yn crwydro'r promenâd heddychlon yn Llandrillo-yn-Rhos, neu'n archwilio twyni dramatig Bae Cinmel, mae gan arfordir Conwy rywbeth i bawb.
Gyda digon o atyniadau a lleoedd sy'n croesawu anifeiliaid anwes, dyma’r gyrchfan berffaith ar gyfer hwyl deuluol fythgofiadwy. Ewch i weld Mwyngloddiau Copr Hynafol y Gogarth, ymunwch â theithiau tywys diddorol, neu ddysgu am orffennol cyfoethog yr ardal yn Amgueddfa Llandudno.
Teimlo’n anturus? Beth am roi cynnig ar daith hysgwn gyffrous gyda Mynydd Sleddog Adventures neu fwynhau harddwch heddychlon Llyn Brenig, sy'n berffaith ar gyfer cerdded, cael picnic a gweld bywyd gwyllt.
Profwch anturiaethau cerdded bythgofiadwy sy'n berffaith ar gyfer teuluoedd a'u cyfeillion pedair coes. Dilynwch Lwybr Arfordir Cymru am olygfeydd godidog o’r môr ac awyr iach yr arfordir, neu archwiliwch goetir cysgodol gwyrdd hyfryd, cân adar a llwybrau cudd - mae taith gerdded i siwtio pawb o bob oedran a gallu.
P'un a ydych chi'n cerdded, yn archwilio, neu’n mwynhau hufen iâ gyda golygfa o'r môr, mae pob eiliad yng Nghonwy yn gyfle i greu atgofion bythgofiadwy gyda’ch gilydd.
Dewch i Gonwy am wyliau haf sydd wir yn cynnig rhywbeth i bawb
Edrychwch ar rai o’n huchafbwyntiau isod….
Maenan Abbey Caravan Park
Dihangfa rhag y cyffredin – profwch Faes Carafanau Maenan Abbey
Camwch i fyd lle mae treftadaeth yn cwrdd â golygfeydd syfrdanol, yn nghanol Gogledd Cymru. Mae Parc Carafanau Maenan Abbey yn eich gwahodd i fod yn berchen ar ddarn bach o heddwch neu drefnu gwyliau bythgofiadwy.
Dewiswch eich cartref gwyliau moethus, wedi’i leoli o fewn gerddi hardd a choetir, neu eich sbwylio eich hun gyda gwyliau bach haeddiannol iawn, ac Eryri ar stepen y drws. Mae ein cymuned yn un gyfeillgar, y lleoliad yn arbennig ac mae pob ymweliad yn teimlo fel dychwelyd adref.
Ffoniwch 01492 660630 heddiw i gadw eich lle ym Maenan Abbey, lle mae eich antur nesaf yn dechrau!
The Empire Hotel - Llandudno
Gwnewch Ŵyl y Banc y gwanwyn yn fythgofiadwy!
Gwesty’r Empire, Llandudno, sydd bellach wedi bod yn nwylo’r un teulu ers 79 mlynedd.
Ydych chi’n chwilio am y gwyliau gwanwynol perffaith?
Cewch ymlacio, dadflino a chrwydro yng Ngwesty’r Empire – perl gudd Llandudno! Gydag ystafelloedd hardd, pwll nofio dan do, sba a theras haul ar y to, heb sôn am y bwyd arbennig a’r coctêls.
Mae’n agos at y traeth, y pier, siopau ac anturiaethau ar y Gogarth!
Mwynhewch ychydig o foethusrwydd dros Ŵyl y Banc – wedi’r cyfan, rydych chi’n ei haeddu!
I archebu, ffoniwch Mary a’r tîm ar 01492 860555 neu fynd i’n gwefan, empirehotel.co.uk
Bodysgallen Hall
Mae gwyliau haf hamddenol yn aros amdanoch
Dyma gyfle i ddianc rhag bywyd bob dydd a darganfod Plas a Sba Bodysgallen, un o Westai Tai Hanesyddol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n sefyll yng nghanol 220 erw o erddi hyfryd a pharcdir, yn cynnig y lle perffaith i ymlacio a chael eich cefn atoch, ac anturio.
Ewch ar grwydr drwy’r gerddi ffurfiol, y dolydd blodau gwyllt a’r coetir hynafol, neu archebu un o’n digwyddiadau dethol gyda chinio ar thema a thaith dywys o amgylch y gerddi.
Mwynhewch seigiau tymhorol, gyda chynnyrch wedi’i dyfu ar yr ystâd yn y bwyty sydd â 3 Rhosglwm yr AA, dadflinwch gyda thriniaeth foethus yn y Sba, neu gymryd seibiant yn un o’n hystafelloedd neu fythynnod cain. Gydag opsiynau ar gyfer cŵn hefyd ar gael, dyma’r lle perffaith i bawb gael hoe.
Ewch i www.bodysgallen.com neu ffonio 01492 584466 i ddarganfod eich gwyliau haf perffaith.
Llyn Brenig Visitor Centre
Mae Llyn Brenig yng Ngherrigydrudion yn gwahodd ymwelwyr i ddarganfod y cyfuniad o drochi mewn dŵr oer ac eistedd mewn sawna, sydd, yn ôl pob sôn, yn rhoi hwb i gylchrediad y gwaed ac yn fuddiol i les pobl yn gyffredinol.
Mae profiad Sawna ac Ymdrochi Brenig yn dechrau gyda throchi yn nŵr oer Llyn Brenig, munud am bob gradd Celsius, er mwyn caniatáu ar gyfer y budd mwyaf. Yna cewch fwynhau gwres braf y cwt sawna newydd sbon, lle gall ymwelwyr fwynhau golygfeydd godidog o’r llyn.
Wedyn, gwnewch o eto!
Gellir mwynhau’r profiad therapi poeth / oer yma am awr. Os nad yw dŵr oer Llyn Brenig at eich dant, mae yna bwll ymdrochi 20°C ar gael hefyd ger y sawna.
Codir tâl o £15 y pen fesul awr.
Gellir neilltuo’r sawna a’r pwll i hyd at chwech o bobl am £75.
Dydd Mercher i ddydd Sul 9am – 5.30pm
Mynydd Sleddog
Llandudno Bay Hotel
Mwynhewch wyliau ar lan y môr y gwanwyn yma gyda’r cynigion gwych yma
Aros am un noson, gan gynnwys brecwast, taleb i gael diod a gadael yn hwyrach - yn dechrau o £109.
Aros dwy noson, brecwast y ddau fore, swper ar y noson gyntaf (£25 y person) a photel o win y tŷ – yn dechrau o £259.
Ffoniwch ni ar 01492 499500 i archebu.
Efallai y bydd rhai dyddiadau lle na fydd y cynnig yn berthnasol. Nid oes modd trosglwyddo na derbyn ad-daliad ar y cynnig hwn. Prisiau fesul ystafell wely, yn seiliedig ar ddau berson.
Cysylltiedig
#number# Sylwadau
Nid oes unrhyw un wedi gwneud sylw ar y neges hon eto, beth am anfon eich syniadau a bod yr un cyntaf i wneud?