Nifer yr eitemau: 1093
, wrthi'n dangos 961 i 980.
Conwy
Y dafarn drwyddedig hynaf yng Nghymru. Mae’r Groes Inn yn dafarn draddodiadol, wedi’i lleoli rhwng aber hardd Conwy a mynydd prydferth Tal y Fan.
Llandudno
Mae Cedar House yn Llandudno yn cynnwys fflatiau gwyliau hunangynhaliol. Pum munud ar droed i bier a phromenâd Llandudno, mae holl atyniadau’r dref yn agos at Cedar House.
Colwyn Bay
Pethau hyfryd i harddu’ch cartref, wedi’u dewis gyda chariad.
Llandudno
Yn Llandudno, mae Ultimate Escape yn her ystafell ddianc llawn hwyl. Allwch chi a’ch ffrindiau ddatrys y cliwiau a dianc o’r ystafell?
Rhos-on-Sea
Mae The Lovely Room wedi’i leoli yn Llandrillo-yn-Rhos: ger y traeth ac nid yn bell o fynyddoedd bendigedig Eryri. Perffaith!
Betws-y-Coed
Mae pob dyfais fodern i’w chael yn ein 3 bwthyn hunanarlwyo moethus. Lle i 1-4 o bobl gysgu. Dwy filltir o bentref prydferth Betws-y-Coed.
Llandudno
Ystafelloedd te chwaethus gyda thema Alys yng Ngwlad Hud yn gweini brechdanau, teisenni a thatws trwy'u crwyn.
Llandudno
Siopa wedi’i ysbrydoli gan gelf, gan ein cymuned o grewyr. Mae Siop Mostyn yn cynnig casgliad o eitemau wedi’u gwneud â llaw gan artistiaid a gwneuthurwyr cyfoes lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.
Penmaenmwr
Llety Gwely a Brecwast cartrefol sy’n croesawu cŵn mewn tref arfordirol gyfeillgar, yn agos at Eryri ac Ynys Môn. Bwyd cartref blasus lleol yn cael ei weini i frecwast.
Llandudno
Mwynhewch de prynhawn traddodiadol, brecwast hwyr neu ginio yng nghanol Llandudno yn y busnes teuluol hwn.
Betws-y-Coed
Mae Tyn y Fron yn Wely a Brecwast 5 Seren ym Metws-y-Coed. Yn adnabyddus fel ‘Porth Eryri’, mae Betws-y-Coed yn lleoliad gwych. Gydag erw o ardd, mae Tyn y Fron y lle perffaith i ymlacio.
Abergele
Rydym yn gwmni teuluol sy’n darparu cludiant ar gyfer tref Abergele a’r ardaloedd cyfagos.
Llanrwst
Wedi'i leoli ar gyrion Parc Cenedlaethol Eryri, mae’n berffaith ar gyfer y rhai sy’n caru natur a golygfeydd. Mae ein safle yn cynnwys pum cwt bugail moethus gyda thybiau poeth, pebyll glampio a chae gwersylla a bwthyn gwyliau.
Llandudno
Rhoddion a nwyddau o ansawdd o ganol Cymru. Lleolir ar brif stryd siopa Llandudno.
Llandudno
Y Kings Head yw’r dafarn hynaf yn Llandudno. Rydym yn agos at yr orsaf dramiau ac mae ein gardd gwrw yn llygad yr haul.
Llandudno
Mae'r Sea Jay a’r Seaborne yn cychwyn o'r lanfa ar Bromenâd Llandudno. Mae’r tripiau’n mynd heibio Pier Llandudno i weld yr ogofau, cildraethau a’r goleudy a llawer iawn o olygfeydd gwych eraill y gellir ond eu gweld o’r môr.
Llanrwst
Yng nghalon Parc Cenedlaethol Eryri gyda theithiau cerdded hardd gerllaw, ac o fewn cyrraedd hawdd i bentref Betws-y-Coed. Mae Siabod View wedi’i leoli y drws nesaf i nant fyrlymus gyda golygfeydd anhygoel o Foel Siabod.
Conwy
Wedi’i leoli yng Nghanolfan Ddiwylliant Conwy, mae Cantîn yn gweini coffi, brecwast, cinio, cacennau a mwy!
Llandudno
Mae The Elm Tree yn eiddo 4*, 14 ystafell wely bwtîc, sydd wedi'i leoli yn ddelfrydol gyferbyn â phier eiconig Llandudno, sy'n cynnig golygfeydd godidog o'r Bae a'r Promenâd.