Lleoliad Priodas Bodlondeb

Lleoliad Seremonïau Priodasol

Bodlondeb, Bangor Road, Conwy, Conwy, LL32 8DU

Ffôn: 01492 576624

Lleoliad Priodas Bodlondeb

Am

Mae Bodlondeb yn adeilad rhestredig Gradd II sydd wedi’i leoli rhwng mynyddoedd mawreddog a thywod euraidd Conwy, gyda golygfeydd godidog dros yr aber tuag at Landudno a Deganwy. Wedi’i leoli tu allan i furiau tref Conwy, safle treftadaeth y byd gyda Chastell o’r 13eg Ganrif, harbwr cywrain ac amryw o fwytai a gwestai gerllaw, mae'n lleoliad gwych i gynnal eich digwyddiad arbennig.

Mae gennym hanes cyfoethog, a gallwch chi fod yn rhan o hynny wrth ddewis treulio eich diwrnod arbennig gyda ni. O briodas, i seremoni sifil neu seremoni enwi, pen-blwydd priodas neu adnewyddu eich addunedau priodas.

Adeiladwyd y tŷ gwreiddiol ym 1877 ar gyfer Albert Wood, aelod o deulu gweithgynhyrchu llwyddiannus, a oedd yn boblogaidd gyda’r cyfoethog a’r enwog. Roedd yr ymwelwyr yn cynnwys Syr Edward Elgar a’r Prif Weinidog David Lloyd George, er bod rhaid i’r perchennog wrthod ymweliad y Frenhines Fictoria gan fod y tŷ yn rhy fach i letya ei chymdeithion.

Erbyn heddiw, cynhelir y seremonïau yn y cyntedd eang gyda nifer o nodweddion cywrain, gan gynnwys drysau gwydr lliw prydferth, lle tân carreg, grisiau pren wedi’i gerfio a galeri gyda ffenestri llusern hardd uwchben. Am ffordd o wneud eich mynediad!

Tu allan, mae’r gerddi godidog a’r parcdir amgylchynol yn creu cefndir syfrdanol i dynnu lluniau o'ch achlysur mawr.

Cyfleusterau

Cyfleusterau Darparwyr

  • Cyswllt WiFi
  • Parcio ar y Safle (am ddim)
  • Parcio ar y Safle (codir tâl)

Cyfleusterau Hamdden

  • Gerddi/Mannau Awyr Agored

Teithio a Masnachu

  • Wi-fi ar gael

TripAdvisor

Map a Chyfarwyddiadau

Amseroedd Agor

Ar agor ar benwythnosau yn unig (1 Ion 2024 - 31 Rhag 2024)
Dydd Llun - Dydd GwenerWedi cau
Dydd Sadwrn - Dydd SulAgor

Beth sydd Gerllaw

  1. Mae’r coetir cymysg deniadol hwn o 7.5 ha rhwng Parc Bodlondeb yng Nghonwy a glan…

    0 milltir i ffwrdd
  2. Gellir dod o hyd i’r Tŷ Lleiaf ym Mhrydain yn swatio o blith teras o dai ar lan y cei yng…

    0.2 milltir i ffwrdd
  3. Porth Diwylliannol i Sir Conwy - Mae Canolfan Ddiwylliant Conwy dafliad carreg oddi wrth…

    0.21 milltir i ffwrdd
  1. Plas Mawr yw’r tŷ tref Elisabethaidd gorau ym Mhrydain. Lleolir yng Nghonwy, cartref un o…

    0.22 milltir i ffwrdd
  2. Lawrlwythwch y daflen hon am ddim a dechrau eich antur 80 munud drwy un o'r trefi…

    0.31 milltir i ffwrdd
  3. Ar lan afon Conwy, ger Castell Conwy, mae Amgueddfa Cregyn Gleision Conwy yn llawn hanes…

    0.31 milltir i ffwrdd
  4. Neidiwch ar fwrdd y Queen Victoria am fordaith i weld golygfeydd i fyny’r afon Conwy tuag…

    0.33 milltir i ffwrdd
  5. Yn rhan o Safle Treftadaeth y Byd UNESCO sy’n cynnwys cestyll ysblennydd ym Miwmares,…

    0.34 milltir i ffwrdd
  6. Pan adeiladodd y Brenin Edward I Gastell Conwy ar ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg y…

    0.38 milltir i ffwrdd
  7. Cerddwch dros yr Afon Conwy ar Bont Grog Thomas Telford, gyda golygfa o Gastell Conwy,…

    0.43 milltir i ffwrdd
  8. Mae traeth Morfa Conwy yn fae mawr tywodlyd, sy’n ffurfio rhan o’r traethau tywydd a…

    0.63 milltir i ffwrdd
  9. Mae gwarchodfa natur RSPB Conwy yn wlypdir ar lan ddwyreiniol aber Conwy, a grëwyd o…

    1.15 milltir i ffwrdd
  10. Ar 150 erw o dir, gallwch fwynhau heddwch Pensychnant. Adeiladwyd o fewn Bwlch Sychnant…

    1.81 milltir i ffwrdd
  11. Trên Bach Penmorfa: gall hen ac ifanc ill dau fwynhau taith y tu ôl i locomotifau stêm a…

    2.22 milltir i ffwrdd
  12. Mae Colin a Charlotte yn eich gwahodd chi i ymuno â nhw ar gyfer profiad gwinllan unigryw…

    2.42 milltir i ffwrdd
Previous Next

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....