
Am
Taith Ysbrydion Arswydus Conwy
\*\*\*Ar Gyfer Llysgenhadon Twristiaeth Conwy yn Unig\*\*\*
Camu i Gysgodion Conwy
Ydych chin ddigon dewr i ddatgelur cyfrinachau cudd o fewn muriau hynafol un o drefi mwyaf arswydus Cymru ar Daith Ysbrydion Conwy? Wrth iddi nosi, ymunwch ni ar daith iasol drwy strydoedd caregog, culion Conwy - lle mae hanes ar goruwchnaturiol yn cydblethu.
O ysbrydion aflonydd a thai llawn bwganod i straeon iasoer am ddewiniaeth, troseddau rhyfel ar anesboniadwy, gallwch ymgolli yn y daith gerdded hon syn ail-fyw'r chwedlau arswydus a atseiniwyd drwyr canrifoedd. Heb unrhyw berfformiadau nac effeithiau arbennig, maer hyn y byddwch chin ei weld, ei glywed ai deimlo i gyd yn rhan o hanes brawychus Conwy yn gignoeth, yn ddidwyll ac yn anfarwol.
Ar l datrys dirgelion y gorffennol, fe ddawr noson i ben yn gysurus gyda diod gynnes yn y lleoliad olaf. Yma, fe gewch chi gyfle i chi gael eich gwynt atoch, gofyn cwestiynau, a myfyrio ar y straeon brawychus a rannwyd ar hyd y daith.
Sylwch: Maer daith hon yn adrodd straeon syn cynnwys rhywfaint o drais hanesyddol, rhyfeddodau goruwchnaturiol a themu all beri pryder. Dylai rhieni benderfynu a yw hyn yn addas iw plant ai peidio
I gofrestru ar gyfer hyn, ewch i BOOK NOW ar y dudalen hon.
I weld unrhyw ddigwyddiad Llysgennad arall sy'n cael ei gynnal yn fuanCLICIWCH YMA [http://www.ticketsource.co.uk/conwy-tourism-ambassador].
Creepy Conwy Ghost Tour
\*\*\*For Conwy Tourism Ambassadors Only\*\*\*
Step into the Shadows of Conwy
Dare to uncover the secrets that lie within the ancient walls of one of Wales most haunted towns on The Conwy Ghost Tour. As darkness falls, join us on a spine-tingling journey through Conwys narrow, cobbled streetswhere history and the supernatural intertwine.
From restless spirits and haunted houses to chilling tales of witchcraft, war crimes, and the unexplained, this immersive walking tour breathes life into the ghostly legends that have echoed through the centuries. With no staged scares or special effects, what you see, hear, and feel is all part of Conwys eerie legacyraw, real, and unforgettable.
After unravelling the mysteries of the past, youll finish the evening in comfort with a warm beverage at our final destinationa chance to catch your breath, ask questions, and reflect on the chilling stories shared along the way.
Please note: This tour does contain some content involving historical violence, stories of paranormal phenomena, and disturbing themes. Parental discretion is advised.
To register for this, go to BOOK NOW on this page.
To see our other upcoming Ambassador eventsCLICK HERE [http://www.ticketsource.co.uk/conwy-tourism-ambassador].
Cefnogir y digwyddiadau hyn gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU fel rhan or Prosiect Gwella a Diogelu'r Economi Ymwelwyr ar gyfer y Dyfodol.
These events have been supported by the UK Government Shared Prosperity Fund as part of the Improving and Futureproofing the Visitor Economy Project.