Gall eich gwyliau i Sir Conwy fod fel camu mewn i gerdyn post bywiog!
Darganfyddwch atyniadau unigryw, troediwch dirweddau anhygoel a throchwch eich hun yn hanes cyfoethog a diwylliant bywiog Sir Conwy.
Pa un ai ydych chi’n chwilio am antur, rhywle i ymlacio neu hwyl efo’r teulu, Sir Conwy ydi’r lle perffaith i wneud atgofion melys yr haf yma!
Felly, dewch ‘laen… dihangwch o’ch bwyd prysur – mae’n amser #Teimlo’rHwyl yng Nghonwy!
Dyma ychydig o uchafbwyntiau’r sir…
#Go Below
Ydych chi’n barod i fentro a theithio drwy fynyddoedd Eryri mewn cyfres o heriau cyffrous yn un o’n pedair antur danddaearol epig?
Ewch ar y wifren wib drwy ogofau eang, dringwch hen ysgolion y mwyngloddwyr, croeswch y dyfnderau, ewch i fyny’r rhaeadrau ac abseilio i lawr i’r man dyfnaf yn y DU!
Profiad llawn adrenalin sy’n siŵr o wneud i’ch calon guro’n gyflym – dan arweiniad yr hyfforddwyr mwyaf profiadol, cymwys a llawn hwyl yn y wlad! Gallwch ymuno â ni o dan y ddaear drwy’r flwyddyn, beth bynnag y tywydd! Mae’r antur yn dechrau pan fydd golau dydd yn diflannu.
#ad Llwyn Onn
Chwilio am ddihangfa glampio heddychlon, gwledig heb blant, sydd hefyd yn croesawu cŵn? Does dim rhaid chwilio ymhellach! Yn Llwyn Onn, dewch o hyd i hyn - yn ogystal â bywyd gwyllt a’n alpacas cyfeillgar a chwilfrydig.
Treuliwch eich diwrnodau yn crwydro Gogledd Cymru, yna dewch i ymlacio ger y tân gyda malws melys, sŵn y tylluanod a’r awyr llawn sêr i orffen y diwrnod.
Ddim yn hoffi glampio? Mae ein gwesty bychan cysurus yn barod i’ch croesawu.
Archebwch eich gwyliau nesaf! www.llwynonnglamping.co.uk
#ad Royal Oak Hotel
Osgowch brysurdeb yr haf a mwynhewch wyliau 4 seren yng Ngwesty’r Dderwen Frenhinol cyn dechrau’r gwyliau ysgol.
Yn swatio yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri, mae ein gwesty hanesyddol yn cynnig mynediad rhwydd at lwybrau golygfaol, tirweddau hardd a phentref prysur.
Archebwch wyliau canol wythnos gyda ni rhwng rŵan a 11.7.25 i fanteisio ar ostyngiad o 10% (ffoniwch ni a dyfynnwch #Junecation i gael mwy o wybodaeth) – ein ffordd ni i’ch helpu chi i fwynhau’r llonyddwch cyn y tymor prysur.
Gydag ystafelloedd moethus, bwydlenni wedi’u hysbrydoli gan yr ardal leol a chroeso cynnes, mae’ch gwyliau bach cyn yr haf yn aros amdanoch chi.
#ad Home Front Museum
Mae amgueddfa boblogaidd Home Front yn Llandudno yn gartref i filoedd o
eitemau o’r Ail Ryfel Byd sy’n gysylltiedig â bywyd dinasyddion
Prydain yn ystod y rhyfel. Dyma gasgliad personol yr hanesydd a’r awdur Adrian Hughes, ac fe dechreuodd y cyfan gyda bom tân a laniodd yng ngardd ei nain a’i daid a ddefnyddiwyd, ar ôl ei ddiffiwsio,
fel stop drws yn eu cartref! Bellach yn 25 oed, mae’r casgliad yn cynnwys llawer o eitemau unigryw a phrin. Dewch i brofi golygfeydd a synau bywyd sifiliaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Ar agor ddydd Llun i ddydd Sadwrn o fis Mawrth tan ddiwedd mis Hydref. 9.30 – 4pm.
#ad City Sightseeing
City Sightseeing, Llandudno a Chonwy. Mae’r bws deulawr pen agored yma, lle fedrwch chi deithio fel y mynnoch, yn defnyddio dau fersiwn o fws. Mae gennym ni bellach fws sydd â phen hollol agored ar gyfer y diwrnodau hynny pan fo’r haul yn tywynnu, ac un gyda tho clir pan na fydd y tywydd cystal.
Mae trefi arfordirol braf Llandudno a Chonwy wedi’u lleoli rhwng dau draeth hyfryd ac mae llawer o gymeriad oes Fictoria’n dal i berthyn iddynt. Yno, fe gewch chi fwynhau golygfeydd arbennig o’r Gogarth, y Pier, Castell Conwy a’r wlad o’ch cwmpas.
Camwch ar y bws gyda’ch tocyn 24 awr a mwynhewch olygfeydd panoramig o lawr uchaf bws pen agored wrth i chi ymlwybro drwy’r ddwy dref. Gadewch i City Sightseeing dynnu’ch sylw at yr holl bethau sydd i’w gwneud a’u gweld yn y ddwy dref glan môr.
Cysylltiedig
#number# Sylwadau
Nid oes unrhyw un wedi gwneud sylw ar y neges hon eto, beth am anfon eich syniadau a bod yr un cyntaf i wneud?