Nifer yr eitemau: 1093
, wrthi'n dangos 781 i 800.
Llandudno
Yn Ristorante Romeo rydym ni’n cynnig bwydlen helaeth Eidalaidd gan ddefnyddio’r cynhwysion gorau a mwyaf ffres yn lleol yn ogystal â chael eu mewnforio’n uniongyrchol o’r Eidal.
Conwy
Siop felysion hen ffasiwn yn nhref gaerog hanesyddol Conwy sy’n pwyso’r fferins yn y ffordd draddodiadol.
Llandudno
Mae Gwesty 4 seren Adcote House gyda gwely a brecwast yn cynnig llety o ansawdd yn gyfan gwbl i oedolion a dewis o ystafelloedd gwely cyfforddus a steilus.
Conwy
Bwyd cyflawn, salad a bar coffi yng nghanol tref gaerog ganoloesol Conwy.
Llandudno
Cewch groeso cynnes yng Ngwesty Rosaire yn Llandudno, gwely a brecwast 4 seren.
Betws-y-Coed
Mae Glan-y-Rhyd yn fwthyn unllawr, traddodiadol sy’n 200 o flynyddoedd oed ac fe saif ym Mharc Cenedlaethol Eryri.
Llandudno
Yn Blue Elephant, rydym wedi taflu’n holl egni ac ymrwymiad i’n gwaith yn y gegin, ac nid oedd hi’n hir iawn cyn i ni greu prydau newydd, sawrus sy’n tynnu dŵr i’r dannedd.
Llandudno
Mae The Elm Tree yn eiddo 4*, 14 ystafell wely bwtîc, sydd wedi'i leoli yn ddelfrydol gyferbyn â phier eiconig Llandudno, sy'n cynnig golygfeydd godidog o'r Bae a'r Promenâd.
Llandudno
Ystafelloedd te chwaethus gyda thema Alys yng Ngwlad Hud yn gweini brechdanau, teisenni a thatws trwy'u crwyn.
Llandudno
Bwyty teuluol wedi’i addurno’n gyfoes gyda chanhwyllau ar y bwrdd, gan weini prydau Prydeinig ac Ewropeaidd.
Llandudno
Mae Gwesty Four Saints Brig-y-Don wedi’i leoli yng nghanol promenâd Llandudno. Mae golygfa odidog i’w gweld o’r ystafelloedd sy’n wynebu’r môr.
Llandudno
Bwthyn gwyliau celfydd gyda’r holl gyfarpar angenrheidiol, gyda dwy ystafell wely, ym Mhenmorfa, sy’n cysgu 4 oedolyn. Gardd fach gaeedig â phatio, Wi-Fi ar gael, dillad gwely a gwasanaethau wedi eu darparu, a man parcio penodedig oddi ar y ffordd.
Colwyn Bay
Clinig harddwch ac estheteg sefydledig ym Mae Colwyn gyda mwy na 40 mlynedd o brofiad.
Llandudno
Parlwr hufen iâ yng nghanol Llandudno. Caiff yr holl hufen iâ ei baratoi’n fewnol gan ddefnyddio cynhwysion lleol i greu’r cynnyrch mwyaf ffres, a blasus.
Llandudno
Parlwr hufen iâ llwyddiannus â dewis o 33 blas, sydd hefyd yn gweini waffls, crempogau a diodydd poeth ffres, lathenni o Draeth y Gogledd, Llandudno.
Conwy
Mae coginio ar gerrig poeth yn darparu pryd heb ei ail, lle mae cyfle i chi goginio eich stêc neu eich pysgodyn eich hun ar garreg folcanig wrth eich bwrdd.
Llandudno
Mae Canolfan Siopa Fictoria yn nhref Llandudno ar arfordir Gogledd Cymru a dyma brif ganolfan siopa Gogledd Cymru, sydd oddeutu 45 milltir i’r gorllewin o Gaer.
Conwy
Mae Hinton’s yn siop lyfrau ac anrhegion bach annibynnol yn nhref hanesyddol Conwy.
Conwy
Mae Water View Cottage a Harbour Cottage yn sefyll yn falch wrth ymyl y dŵr sy’n eithaf unigryw yng Nghonwy.