
Nifer yr eitemau: 1184
, wrthi'n dangos 921 i 940.
Llanrwst
Yng nghalon Parc Cenedlaethol Eryri gyda theithiau cerdded hardd gerllaw, ac o fewn cyrraedd hawdd i bentref Betws-y-Coed. Mae Siabod View wedi’i leoli y drws nesaf i nant fyrlymus gyda golygfeydd anhygoel o Foel Siabod.
Llandudno
Wedi’i leoli mewn tŷ tref Fictoraidd, rydym mewn lleoliad perffaith i grwydro tref glan y môr Llandudno ar arfordir Gogledd Cymru.
Colwyn Bay
Yn hyrwyddo’r cynnyrch gorau o Gymru, Bwyd Cymru Bodnant yw’r lle perffaith i fwyta, cysgu a chreu atgofion perffaith.
Colwyn Bay
Ystâd wledig hardd sy’n gorchuddio 5000 erw o olygfeydd gorau Gogledd Cymru yw Ystâd Bodnant. Mae ein bythynnod gwyliau yn rhai hunanarlwyo ac yn agos at yr arfordir hyfryd.
Penmaenmawr
Mae Bwthyn Gwyliau Cae Cyd yn hen sgubor sydd wedi’i thrawsnewid ym Mhenmaenmawr ar arfordir Gogledd Cymru, ar fin Parc Cenedlaethol Eryri.
Dolwyddelan
Mae Glan Dŵr yn fwthyn Cymreig traddodiadol gyda theras dec ger yr afon gyda golygfeydd machlud haul anhygoel o’r Wyddfa a Siabod o batio wedi’i godi.
Towyn
Mae Parciau SF yn cyflwyno’u parciau cyffiniol, Canolfan Golden Gate Holiday a Pharc Hamdden Whitehouse sydd wedi’u lleoli yn ardal brydferth Towyn, Gogledd Cymru, ger y Rhyl, Llandudno a Chonwy.
Colwyn Bay
Oriel gelf a chrefft gymunedol yw The Bay Gallery, sy’n cael ei rhedeg fel elusen fach gan wirfoddolwyr lleol, gan gynnig cyfle i arlunwyr lleol arddangos a gwerthu eu gwaith. Mae’n cynnal dosbarthiadau a gweithdai celf wythnosol hefyd.
Conwy
Taith o amgylch Mynydd y Dref (Conwy) ar lwybrau glaswelltog, traciau a ffyrdd eilaidd, gyda golygfeydd godidog.
Conwy
Siop llawn dillad deniadol lle dewch o hyd i frandiau blaenllaw fel Seasalt, Weird Fish a White Stuff.
Rhos-on-Sea
Siop fendigedig yn Llandrillo-yn-Rhos sy’n gwerthu ategolion cyfoes ar gyfer eich cartref, anrhegion a chardiau cyfarch.
Colwyn Bay
Mae Mynydd Marian yn gefnen fechan o garreg galch sydd â golygfeydd godidog o’r arfordir a’r cefn gwlad gerllaw, yn ogystal â mynyddoedd Eryri a Bryniau Clwyd yn y pellter.
Betws-y-Coed
Tŷ Fictoraidd ar wahân ar ffordd ymyl dawel 2 funud ar droed o ganol Betws.
Llandudno
Rydyn ni’n gaffi cyfeillgar wedi’i leoli ar Clonmel Street, ddim yn bell o’r môr yn nhref glan môr hardd Llandudno.
Llandudno
Mae The Oasis, sy'n edrych dros y môr yn westy gwely a brecwast teuluol sydd wedi ennill gwobrau, ac bydd y gwestywyr yn edrych ymlaen at eich croesawu chi.
Conwy
Llety gwyliau gwych ledled Gogledd Cymru, o’r mynyddoedd i’r môr.
Penmaenmawr
Wedi’u lleoli mewn ardal drawiadol ar arfordir Gogledd Cymru nepell o’r A55. Gyda golygfeydd gwych o Ynys Môn ac Ynys Seiriol, mae traeth Penmaenmawr yn lleoliad poblogaidd iawn gydag ymwelwyr a thrigolion lleol.
Llanrwst
Wedi'i leoli ar gyrion Parc Cenedlaethol Eryri, mae’n berffaith ar gyfer y rhai sy’n caru natur a golygfeydd. Mae ein safle yn cynnwys pum cwt bugail moethus gyda thybiau poeth, pebyll glampio a chae gwersylla a bwthyn gwyliau.
Betws-y-Coed
Yn rhan o gadwyn Edinburgh Woollen Mill, mae’r siop hon yn gwerthu ystod o weuwaith i ddynion a merched gan gynnwys siwmperi, sgarffiau, sannau a theis.
Llandudno
Mae Dinos Llandudno yn frwd dros ddarparu bwyd blasus o safon uchel.