
Nifer yr eitemau: 30
, wrthi'n dangos 21 i 30.
Abergele
Arcêd Adloniant a chanolfan adloniant i deuluoedd ar y promenâd yn Abergele.
Betws-y-Coed
Adeiladwyd yr eglwys yn y 14eg Ganrif a hwn yw’r adeilad hynaf ym Metws-y-Coed. Mae arddelw Gruffydd ap Dafydd Goch yn yr eglwys, bedyddfaen Normanaidd a nifer o nodweddion diddorol eraill.
Colwyn Bay
Mae Ink. Gallery Ltd yn gwmni cydweithfa gelfyddydau newydd wedi’i leoli yn yr hen adeilad Longmans ym Mae Colwyn.
Betws-y-Coed
Er bod Cwm Wybrnant yn fan tawel ac anghysbell heddiw, mae’r lleoliad yn arwyddocaol iawn yn hanes a diwylliant Cymru.
Llandudno
Mae’r theatr 1,500 sedd yn Venue Cymru yn un o brif theatrau derbyn y DU.
Colwyn Bay
Mae Theatr Colwyn yn theatr a sinema hanesyddol sy’n defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i gynnig i gwsmeriaid brofiad adloniannol o’r unfed ganrif ar hugain gyda blas cyfeillgar a thraddodiadol iddo.
Colwyn Bay
Oriel sy’n arddangos gwaith ffotograffiaeth a ffotograffig yw Oriel Colwyn.
Conwy
Ar lan afon Conwy, ger Castell Conwy, mae Amgueddfa Cregyn Gleision Conwy yn llawn hanes a straeon gwych. Yn archwilio treftadaeth a thraddodiadau’r dref, mae perthynas Conwy gyda’r afon a’r cregyn gleision yn mynd yn ôl i oes y Rhufeiniaid.
Llanrwst
Dechreuwyd gwaith adeiladu’r capel ym 1673, ac mae tu allan carreg syml y capel yn rhoi camargraff o’r tu mewn. Lle moethus ydyw sy’n cyfuno steiliau Gothig a Dadeni, gyda phulpud wedi’i addurno â ffigurau cerfiedig.
Llandudno
O’r lleoliad trawiadol hwn, mae’r Summit Complex yn cynnig golygfeydd aruthrol i chi o Landudno, ardaloedd o Barc Cenedlaethol Eryri, Ynys Môn a Môr Iwerddon.