Nifer yr eitemau: 29
, wrthi'n dangos 21 i 29.
Rhos-on-Sea
Tafarn a bwyty ar lan y môr sy’n croesawu cŵn a phlant, gyda gardd gwrw fawr yn Llandrillo-yn-Rhos yn gweini bwyd tafarn ffres, blasus.
Betws-y-Coed
Cafodd Caffi Conwy Falls ei ddylunio gan Syr William Clough Ellis i gyd-fynd â saernïaeth Portmeirion. Mae wedi’i leoli ym Mharc Coedwig Conwy Falls sydd bron i 10 erw o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
Conwy
Mae Dylan’s Conwy’n fwyty cyfeillgar sydd ond tafliad carreg o’r cei godidog yng Nghonwy.
Llandudno
Siop goffi bach ond cyfeillgar sydd wedi’i leoli yng Nghraig-y-Don a’u cenhadaeth yw i’ch helpu i ddarganfod eich cwpaned perffaith o goffi.
Llandudno
Ystafelloedd te chwaethus gyda thema Alys yng Ngwlad Hud yn gweini brechdanau, teisenni a thatws trwy'u crwyn.
Llandudno
Mae Caffi Dewi yn lle croesawgar a chyfeillgar i fwynhau bwyd cartref blasus. Rydym ni ddau funud ar droed o draeth Penmorfa. Mae’r holl elw yn mynd at ofalu am gleifion Hosbis Dewi Sant.
Llandudno
Mae Caffi Parisella, Y Fach, yn gwerthu amrywiaeth eang o fwyd poeth ac oer, diodydd, lolipops rhew a chabinet gyda 24 blas yn llawn hufen iâ arobryn Parisella.
Abergele
Rhywle i chi a'ch ffrindiau pedair coes! Cewch eich syfrdanu gan yr holl ddewis o ddanteithion i gŵn sydd gennym i’w cynnig.
Llandudno
Mae Providero yn siop goffi arbenigol sydd dafliad carreg i ffwrdd o’r Gogarth yn Llandudno. Mae’n ganolbwynt cyfeillgar i bobl leol ac ymwelwyr ac yma fe weinir coffi, cacennau a chinio ysgafn tymhorol o ansawdd uchel.