Rydym yn cyfri’r dyddiau tan wyliau’r haf! Byddwch yn barod i gynllunio eich gwyliau cyffrous gyda ni!

Darganfod digwyddiadau yn Sir Conwy!

O deithiau canoloesol a pherfformiadau theatr bywiog i sioeau cerbydau a llawer o hwyl i’r teulu, mae rhywbeth cyffrous i’w archwilio bob amser.

Crëwch atgofion bythgofiadwy yn 2025 - cynlluniwch eich gwyliau haf perffaith yn Sir Conwy heddiw!

#DewchiGonwy #HafyngNghonwy 

#hysbyseb Bryn Derwen

Dihangwch i lonyddwch Bryn Derwen, Llandudno - ble mae cyfforddusrwydd, gofal ac ansawdd yn cyfuno yn eich gwyliau hamddenol perffaith.

Mwynhewch frecwastau blasus, parcio am ddim, llefydd clyd i eistedd y tu mewn a’r tu allan, a bar trwyddedig.

Dim ond 5 – 10 munud o atyniadau Llandudno, mae’n ddelfrydol i gyplau, grwpiau neu bartïon. Mae’r gwestywyr Lyn a Mark yn edrych ymlaen at eich croesawu! Archebwch yn uniongyrchol, drwy ffonio 01492 876804 neu www.bryn-derwen.co.uk

Darganfod mwy

#hysbyseb AquaTour

Yn cyflwyno AquaTour Conwy!

AquaTour Conwy, profiadau bythgofiadwy ar y dŵr!

Yng nghanol harddwch Gogledd Cymru, maen nhw’n cynnig teithiau mewn cychod RIB, yn llawn adrenalin, golygfeydd godidog a hwyl i’r teulu cyfan.

Os ydych yn chwilio am daith llawn cyffro neu ffordd unigryw o archwilio'r arfordir, AquaTour yw’r diwrnod perffaith i bob oed. 

Darganfod mwy

Sut i dreulio diwrnod yn …Tref Conwy

Dewch i gael blas o ddiwylliant Conwy yn ein canllaw Sut i Dreulio’r Diwrnod yng Nghonwy - cymysgedd perffaith o hanes, swyn a golygfeydd godidog. 

Darllenwch fwy...

#hysbyseb The Escape

nig encil coeth i oedolion yn unig, funudau’n unig o’r traeth a chanol y dref.

Gydag ystafelloedd wedi’u dylunio’n hardd, cyffyrddiadau personol ac amgylchedd cynnes, croesawgar, mae’n berffaith ar gyfer gwyliau hamddenol ger yr arfordir.

Mwynhewch frecwast wedi’i goginio’n ffres cyn archwilio swyn Fictorianaidd Llandudno, y Gogarth, neu Eryri. 

Darganfod mwy

#hysbyseb Fferm Manorafon

Mae yna lawer o draed moch bach newydd yn rhedeg o gwmpas yn Abergele! Cyhoeddodd Parc Fferm Manorafon bod y moch Kune Kune, Peppa a Mari wedi cael llawer o foch bach hyfryd. Gallwch eu gweld ar fuarth y fferm yn eu twlc gyda’u mam.

Maen nhw’n tyfu mor sydyn, felly ewch draw ar frys os ydych eisiau eu gweld pan fyddant yn dal yn fychan. 

Darganfod mwy

Cysylltiedig

0 Sylwadau

#number# Sylwadau

Nid oes unrhyw un wedi gwneud sylw ar y neges hon eto, beth am anfon eich syniadau a bod yr un cyntaf i wneud?

Gadewch Ymateb