Nifer yr eitemau: 1191
, wrthi'n dangos 941 i 960.
Conwy
Llety gwyliau gwych ledled Gogledd Cymru, o’r mynyddoedd i’r môr.
Llandudno
Gadewch y car ac ewch ar antur ar draws Parc Cenedlaethol Eryri.
Llanrwst
Mae Blas ar Fwyd wedi bod yn arbenigo mewn bwydydd a diodydd o safon ers 1988. Mae ein Deli a’n caffi-bar ‘Amser Da’, yn cynnig amrywiaeth eang o fwydydd a diodydd o’r radd flaenaf o Gymru a gweddill y byd.
Llandudno
Yn Carlo's, mae’r fwydlen fodern wych yn cyfuno bwyd Eidalaidd traddodiadol ag arddull gyfoes.
Llandudno
Gwesty glan môr bach, chwaethus lle mae gan bob ystafell ei chymeriad a’i naws ei hun.
Llandudno
Mae The Elm Tree yn eiddo 4*, 14 ystafell wely bwtîc, sydd wedi'i leoli yn ddelfrydol gyferbyn â phier eiconig Llandudno, sy'n cynnig golygfeydd godidog o'r Bae a'r Promenâd.
Llandudno
Mae gwesty’r Esplanade wedi’i leoli ar bromenâd Llandudno ac mae’n ddihangfa Gymreig berffaith i bawb ei mwynhau.
Deganwy
Sefydlwyd Clwb Hwylio Conwy yn 1911, ac mae’n un o’r rhai hynaf yn yr ardal. Cynhelir rasys yn rheolaidd yn ystod yr haf ac mae’r clwb hefyd yn cynnig cyfleusterau cymdeithasol gyda byrddau snwcer a phŵl, teithiau i chwarae golff a mwy.
Cerrigydrudion
Llwybr 3.5 cilomedr o hyd (dringo 60m), sy’n ymdroelli drwy Goedwig Clocaenog ac yn berffaith ar gyfer teuluoedd a dechreuwyr.
Abergele
Arcêd Adloniant a chanolfan adloniant i deuluoedd ar y promenâd yn Abergele.
Llandudno
Mae gennym fwydlen helaeth yn cynnig detholiad eang o fwyd Indiaidd yn Llandudno.
Conwy
Ar 150 erw o dir, gallwch fwynhau heddwch Pensychnant. Adeiladwyd o fewn Bwlch Sychnant gyda golygfeydd o Fynyddoedd y Carneddau, gallwch gerdded adfeilion canoloesol, rhostir a mwynhau cân y frân goesgoch ac ehedyddion.
Betws-y-Coed
Mae bwthyn hunan-arlwy glan yr afon Glan Dulyn ym Metws-y-Coed, Parc Cenedlaethol Eryri, yn ffinio ag Afon Llugwy, dim ond 4 munud ar droed o siopau, bwytai a bariau. Cysgu 4.
Conwy
Siop llawn dillad deniadol lle dewch o hyd i frandiau blaenllaw fel Seasalt, Weird Fish a White Stuff.
Betws-y-Coed
Llety Gwely a Brecwast teuluol ydym ni a’n nod yw darparu awyrgylch ymlaciol, lle gallwch fwynhau’r golygfeydd godidog dros Fetws-y-Coed a Choedwig Gwydir.
Llandudno
Yn Llandudno, mae Ultimate Escape yn her ystafell ddianc llawn hwyl. Allwch chi a’ch ffrindiau ddatrys y cliwiau a dianc o’r ystafell?
Penrhyn Bay
Mae traeth Bae Penrhyn ar Lwybr Arfordir Cymru ac mae yna lwybrau arfordirol hefyd i Fae Colwyn neu Fae’r Gogarth gerllaw.
Abergele
Mae The Peculiar Gallery yn Abergele yn dangos gwaith gan artistiaid o Gymru sy’n helpu i ddatblygu’r celfyddydau lleol.
Conwy
Yn rhan o gadwyn Edinburgh Woollen Mill, mae’r siop hon yn gwerthu ystod o weuwaith i ddynion a merched gan gynnwys siwmperi, sgarffiau, sannau a theis.
Kinmel Bay
Mae’r eiddo cysurus 5 ystafell wely yma wedi ei leoli mewn ffordd bengaead dawel gyda mynediad i harbwr hardd a thraethau a thwyni tywod.