Nifer yr eitemau: 47
, wrthi'n dangos 1 i 20.
Llandudno
Bydd croeso cynnes iawn yn eich disgwyl yn Nhŷ Llety St Hilary, Llandudno, sef tŷ llety Fictoraidd cain ar lan y môr gyda golygfeydd godidog o fae Llandudno.
Betws-y-Coed
Ceir golygfeydd panoramig yn edrych dros Fetws-y-Coed a Choedwig Gwydir, Eryri yn llety Gwely a Brecwast Bryn Bella.
Colwyn Bay
Ydych chi’n chwilio am lety Gwely a Brecwast teuluol, cyfeillgar yng nghanol Gogledd Cymru? Os ydych chi, rydych chi wedi dod i’r lle iawn.
Llandudno
Mae enw Cymraeg Min y Don yn berffaith i ddisgrifio lleoliad y tŷ llety ar Draeth y Gogledd enwog yn Llandudno.
Llandudno
Llety gwely a brecwast bwtic cyfoes hynod boblogaidd a llwyddiannus yn Llandudno yw Escape. Mae’n cynnig llety nodweddiadol, steilus a moethus mewn fila Fictoraidd unigryw.
Llandudno
Mae The Stella yn darparu llety o’r radd flaenaf yn nhref glan y môr Llandudno.
Wedi’i leoli wrth ymyl Safle Tramffordd Llandudno ar droed y Gogarth, mae’r eiddo yn dro 200 metr o bier a phromenâd Llandudno
Llandudno
Mae gwely a brecwast Bryn Derwen mewn lleoliad delfrydol ar dir gwastad wrth droed y Gogarth ar rodfa goediog ddistaw rhwng dau fae Llandudno.
Wrth ymyl y Rhaeadr Ewynnol drawiadol ar Afon Llugwy, mae Tafarn y Rhaeadr Ewynnol yn lle perffaith i archwilio gogoniant parc cenedlaethol Eryri.
Llandudno
Mae Stratford House, sydd ar gyfer oedolion yn unig, yn llety gwely a brecwast 4 seren AA ar lân y môr – 5 munud ar droed o Venue Cymru (theatr a chanolfan gynadleddau), gyda golygfeydd godidog o Fae Llandudno.
Llandudno
Yn agos at Drwyn y Fuwch, mae’n ddelfrydol er mwyn ymweld â’r theatr neu er mwyn crwydro’r ardal.
Llandudno
Fe hoffai Annamarie eich croesawu i Hafan-y-Môr, sy’n cael ei redeg gan y teulu.
Llandudno
Mae Beachside Guest House yn cynnig llety ardderchog yn nhref glan môr Llandudno. Fe allwch chi gerdded i’r traeth mewn dau funud, a dydi’r orsaf reilffordd ddim yn bell chwaith (10 munud ar droed).
Trefriw
Wedi’i leoli yng nghanol pentref hardd Trefriw yn cynnig llety 3 seren cyfforddus gyda brecwast llawn Cymreig. Gwesteiwr croesawgar ar y safle.
Llandudno
Mae’r Cliffbury yn cynnig llety gwely a brecwast gwobrwyedig o safon uchel sydd wedi’i leoli yn un o rodfeydd harddaf a thawelaf Llandudno.
Llandudno
Mae Tŷ Llety Bodnant yn cynnig llety coeth a chyfoes mewn tŷ Fictoraidd hardd. Rydym wedi ein lleoli ar ffordd dawel, sydd ychydig funudau o gerdded o’r gorsaf drenau, traeth a chanol y dref.
Llandudno
Hoffai Gavin a Mandie Jacob eich croesawu i Albany House, llety gwely a brecwast teuluol bach cyfeillgar.
Betws-y-Coed
Wedi’i leoli ar lethrau Dyffryn Conwy, gyda golygfeydd godidog o Eryri, mae Maes-y-Garth yn Wely a Brecwast 5 Seren ym Metws-y-Coed.
Llandudno
Tŷ Llety yng nghanol tref Llandudno, ar rodfa goediog dawel, ystafelloedd ar gael ar y llawr gwaelod.
Trefriw
Lleolir Tŷ Crafnant yn Nhrefriw, pentref traddodiadol Cymreig yn nyffryn Conwy ar gyrion Parc Cenedlaethol Eryri.
Dolwyddelan
Wedi'i adeiladu ym 1884, mae Plas Penaeldroch Manor wedi bod yn westy ers dros 30 mlynedd. Wedi’i leoli yng nghanol Eryri, mae’r Afon Lledr yn rhedeg heibio drws ffrynt y Maenordy.