Nifer yr eitemau: 285
, wrthi'n dangos 81 i 100.
Betws-y-Coed
Mae bwydlen bwyty Bridge wedi'i neilltuo ar gyfer cynnyrch lleol a thymhorol. Mae Bar 1815 yn gartref i ddetholiad anhygoel o jin o bedwar ban byd gyda nodwedd amlwg ar jin o Gymru.
Rhos-on-Sea
Meicro-dafarn a siop boteli annibynnol yn Llandrillo-yn-Rhos, yn arbenigo mewn cwrw casgen.
Llandudno
Mae gennym fwydlen helaeth yn cynnig detholiad eang o fwyd Indiaidd yn Llandudno.
Llandudno
Pizza, pasta, prydau â stêc o Gymru a rhai traddodiadol o Fôr y Canoldir mewn lleoliad cyfeillgar, sy’n croesawu plant.
Betws-y-Coed
Alpine Coffee Shop and Gallery yw un o gaffis mwyaf poblogaidd Gogledd Cymru. Wedi’i leoli yng ngorsaf reilffordd Betws-y-Coed yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri, mae’n brysur trwy gydol y flwyddyn.
Conwy
Dim ond y cynnyrch lleol gorau y mae'r Bistro yn ei ddefnyddio i greu prydau cartref. Rydym yn ymfalchïo yn ein cred mai dim ond y gorau fydd yn cael ei weini i'n gwesteion a'n nod yw rhoi profiad bwyta gwirioneddol gofiadwy i chi.
Conwy
Pizza traddodiadol bendigedig wedi’u crasu â thân coed a dewis heb ei ail o jin a chwrw lleol, o fewn waliau hanesyddol Conwy.
Rhos-on-Sea
Deli a siop deisennau sydd wedi’i leoli yn nhref hyfryd arfordirol Llandrillo-yn-Rhos.
Conwy
Profiad bwyta Tsieineaidd unigryw a chyfoes yn Neganwy, Gogledd Cymru, yn darparu ar gyfer pob achlysur mewn awyrgylch cyfeillgar a hamddenol.
Conwy
Bwyd Bangladeshaidd wedi’i leoli yng nghanol tref Conwy.
Trefriw
Bwyty lleol wedi’i leoli yn Nhrefriw, Gogledd Cymru. Oedolion yn unig.
Capel Curig
Fe adeiladwyd y Tŷ Hyll ym 1485, ac mae’n cael ei redeg fel ystafell de deuluol bellach sy’n gweini seigiau cartref gan gynnwys brecinio, coffi a chacen, cinio a the phrynhawn.
Conwy
P'un a ydych chi'n dod i mewn am goffi neu frecwast i fynd, cinio gyda'r teulu, neu de prynhawn gyda'ch ffrindiau, mae gan L's fwydlen wych o fwyd a diod i'ch denu ar unrhyw adeg o’r dydd.
Penrhyn Bay
Siop frechdanau/coffi ym Mae Penrhyn sy’n defnyddio cyflenwyr Cymreig lleol.
Penmaenmawr
Caffi bach cyfeillgar wedi’i leoli yng nghanol Penmaenmawr yn gweini bwyd wedi’i goginio’n ffres.
Conwy
Bwyd stryd i fynd. Mae bron i bopeth yn cael ei wneud o’r newydd a’i goginio’n defnyddio cynhwysion lleol.
Llandudno
Bwydlen helaeth o brydau Cantoneg, a rhywfaint o brydau Siapaneaidd, sy’n cael eu gweini mewn awyrgylch ymlaciol.
Llandudno
Mwynhewch de prynhawn traddodiadol, brecwast hwyr neu ginio yng nghanol Llandudno yn y busnes teuluol hwn.
Llandudno
Parlwr hufen iâ llwyddiannus â dewis o 33 blas, sydd hefyd yn gweini waffls, crempogau a diodydd poeth ffres, lathenni o Draeth y Gogledd, Llandudno.
Upper Colwyn Bay
Does dim byd arbennig am du blaen Pen-y-Bryn, ond y tu mewn fe welwch loriau derw hyfryd, tanau agored, cypyrddau llyfrau a hen ddodrefn.