Nifer yr eitemau: 1094
, wrthi'n dangos 661 i 680.
Llandudno
Mae Stratford House, sydd ar gyfer oedolion yn unig, yn llety gwely a brecwast 4 seren AA ar lân y môr – 5 munud ar droed o Venue Cymru (theatr a chanolfan gynadleddau), gyda golygfeydd godidog o Fae Llandudno.
Llanfairfechan
Lleolir Edina yn Llanfairfechan hardd ar arfordir Gogledd Cymru. Rydym ni 10 munud ar droed o Barc Cenedlaethol Eryri, a 15 munud o’r traeth.
Penmaenmawr
Caffi codi arian gyda’r holl elw’n mynd i Warchodfa Anifeiliaid Eryri.
Rhos-on-Sea
Ym mwyty Forte’s, rydyn ni’n falch o gynnig dau beth: profiad bwyta hamddenol a chyfeillgar a bwydlen eang sy’n cynnig rhywbeth i bawb.
Llandudno
Siop fach llawn ffyn roc a melysion eraill i gyd am brisiau fforddiadwy. Beth arall allech chi ofyn amdano pan ydych wrth lan y môr?
Conwy
Y dafarn drwyddedig hynaf yng Nghymru. Mae’r Groes Inn yn dafarn draddodiadol, wedi’i lleoli rhwng aber hardd Conwy a mynydd prydferth Tal y Fan.
Betws-y-Coed
Mae Seren Ventures ym mhentref prydferth Betws-y-Coed yng nghalon Parc Cenedlaethol Eryri a hwn yw prifddinas antur awyr agored Gogledd Cymru.
Llandudno
Mae Tŷ Llety Bodnant yn cynnig llety coeth a chyfoes mewn tŷ Fictoraidd hardd. Rydym wedi ein lleoli ar ffordd dawel, sydd ychydig funudau o gerdded o’r gorsaf drenau, traeth a chanol y dref.
Llandudno
Yn gweini te, coffi, prydau traddodiadol a dewis anferthol o gacennau cartref ar stryd fawr Llandudno.
Penrhyn Bay
Gwasanaeth tacsi ar gyfer Llandudno a’r ardaloedd cyfagos.
Llandudno
Mae White Tower yn fwyty Groegaidd yng nghanol Llandudno sy’n gweini bwyd cartref Groegaidd. Caiff pob pryd, salad, dipiau a phwdinau eu paratoi’n ddyddiol yn eu cegin a’u coginio fesul archeb.
Colwyn Bay
Gallwch brynu byrddau padl a byrddau syrffio, nofio mewn dŵr agored a phrynu Dillad Môr yn ein siop ym Mhorth Eirias, Bae Colwyn.
Llandudno
Mae Caffi Parisella, Y Fach, yn gwerthu amrywiaeth eang o fwyd poeth ac oer, diodydd, lolipops rhew a chabinet gyda 24 blas yn llawn hufen iâ arobryn Parisella.
Trefriw
Wedi’i leoli yng nghanol pentref hardd Trefriw yn cynnig llety 3 seren cyfforddus gyda brecwast llawn Cymreig. Gwesteiwr croesawgar ar y safle.
Trefriw
Bwthyn cerrig clyd, traddodiadol ar lannau hyfryd Llyn Crafnant gyda golygfeydd a lleoliad arbennig.
Llanrwst
Nwyddau cartref bendigedig ac unigryw a siop anrhegion yng nghanol Gogledd Cymru yn Llanrwst, yn gwerthu nwyddau cartref bendigedig o Gymru ac anrhegion o amgylch y DU.
Llandudno
Cwrs golff antur/mini 18 twll y tu allan i Ganolfan y Copa. Cwrs heriol i bob grŵp oed.
Betws-y-Coed
Mae Amgueddfa Rheilffordd Dyffryn Conwy yn ddiwrnod allan gwych i deuluoedd. Treuliwch amser yn yr amgueddfa, gyda phump rheilffordd model i’w gwylio a thaith ar y trên bach.
Betws-y-Coed
Cymdeithas Eryri sy’n gofalu am Tŷ Hyll. Mae pwy adeiladodd y tŷ a phryd yn parhau’n ddirgelwch. Cartref i dŷ te bendigedig gyda gardd naturiol yn derbyn gofal gan grŵp o wirfoddolwyr.