Nifer yr eitemau: 1093
, wrthi'n dangos 1021 i 1040.
Betws-y-Coed
Mae Coedfa Bach yn cysgu 4. Hen chwarter y gweision i’r tŷ Fictoraidd cysylltiedig, Coedfa House sy'n cysgu 8 o bobl.
Conwy
Mae Oriel y Crochenwyr yng Nghonwy yn arbenigo’n gyfan gwbl mewn cerameg gyfoes. Mae’r cerameg sydd ar werth yma wedi’u dylunio a’u creu’n unigol gan aelodau ein cydweithredfa.
Llandudno
Mae croeso cynnes yn aros amdanoch yn Forte’s Restaurant - Mae’r awyrgylch yn gynnes a chroesawgar ac rydym ni’n gwarantu gwasanaeth gyda gwên ond yr un mor bwysig rydym ni’n gweini bwyd ffres a blasus.
Penmaenmawr
Bwthyn chwarelwr traddodiadol Cymreig yw Driftwood Cottage a adeiladwyd tua 1920 ac a adnewyddwyd yn ddiweddar gyda chegin a lloriau a osodwyd yn ddiweddar a chaiff ei lanhau a’i ddiheintio’n llawn ar ôl pob ymweliad.
Abergele
Mae Clwb Golff Abergele’n glwb golff o ansawdd uchel sy’n agored i bawb. Dywedir mai dyma un o’r cyrsiau harddaf yng Nghymru.
Rhos-on-Sea
Tafarn a bwyty ar lan y môr sy’n croesawu cŵn a phlant, gyda gardd gwrw fawr yn Llandrillo-yn-Rhos yn gweini bwyd tafarn ffres, blasus.
Llandudno
Trên Bach Penmorfa: gall hen ac ifanc ill dau fwynhau taith y tu ôl i locomotifau stêm a thrydanol ar ein trac ym Mhenmorfa.
Betws-y-Coed
Mae Bwthyn Tyn y Fron ym Metws-y-Coed, y Porth i Barc Cenedlaethol Eryri. Rydym hefyd yn agos at arfordir a mynyddoedd Gogledd Cymru.
Conwy
Bwtîg merched sy’n gwerthu dillad, ategolion ac anrhegion.
Betws-y-Coed
Llety Gwely a Brecwast teuluol ydym ni a’n nod yw darparu awyrgylch ymlaciol, lle gallwch fwynhau’r golygfeydd godidog dros Fetws-y-Coed a Choedwig Gwydir.
Conwy
Bwyty a chyfleuster bwyd i fynd sydd wedi ennill gwobrau sydd yn gweini bwyd Indiaidd ym mhentref hardd Deganwy.
Llandudno
Nod Mediterranean Restaurant yw ail-greu'r teimlad gwyliau yn syth wrth i chi gamu i mewn i’r bwyty.
Betws-y-Coed
Wedi’i leoli ar lethrau Dyffryn Conwy, gyda golygfeydd godidog o Eryri, mae Maes-y-Garth yn Wely a Brecwast 5 Seren ym Metws-y-Coed.
Colwyn Bay
Gyda golygfeydd anhygoel yn edrych dros Ddyffryn Conwy a’n cwrt cysgodol, mae Y Ffwrnais yn lle perffaith i gwrdd â ffrindiau a theulu.
Llandudno
Rydyn ni’n gaffi cyfeillgar wedi’i leoli ar Clonmel Street, ddim yn bell o’r môr yn nhref glan môr hardd Llandudno.
Conwy
Bwyd cyflawn, salad a bar coffi yng nghanol tref gaerog ganoloesol Conwy.
Llandudno
Dewis gwych o randai glan y môr. 3 rhandy mawr (1 a 2 ystafell wely, yn cysgu 2-5) mewn adeilad Fictoraidd rhestredig ychydig lathenni o’r môr ar y promenâd.
Abergele
Golffdroed - Golff gyda pheli mwy! Mae golffdroed yn cyfuno'r gorau o ddwy gamp genedlaethol, pêl-droed a golff.
Pentrefoelas
Ystafell de a thŷ siocled yn gweini cinio ysgafn, diodydd a chacennau ydym ni. Rydym hefyd yn gwerthu siocledi unigol ochr yn ochr â melysion ac anrhegion.
Llandudno
Caffi trwyddedig yn gweini pysgod a sglodion clasurol mewn ystafell fwyta achlysurol dafliad carreg o Orsaf Victoria Tramffordd y Gogarth.