Nifer yr eitemau: 1140
, wrthi'n dangos 661 i 680.
Penmaenmawr
Rydym wedi ein lleoli ym mhentref hardd Penmaenmawr, Gogledd Cymru ac yn arbenigo mewn darparu eitemau hen, ail-law a diddorol i’r cyhoedd, prynwyr masnach a swmp brynwyr.
Rhos-on-Sea
Deli a siop deisennau sydd wedi’i leoli yn nhref hyfryd arfordirol Llandrillo-yn-Rhos.
Llandudno
Os ydych yn chwilio am fwyd traddodiadol o safon mewn amgylchedd chwaethus a chroesawgar, dewch draw atom.
Conwy
Pizza traddodiadol bendigedig wedi’u crasu â thân coed a dewis heb ei ail o jin a chwrw lleol, o fewn waliau hanesyddol Conwy.
Llandudno
Mae The Loaf Coffee & Sandwich Bar yn arbenigo mewn coffi arbennig, cacennau cartref a bwyd hyfryd mewn awyrgylch cynnes a chartrefol.
Conwy
Gyda seddau awyr agored yn edrych dros y marina, mae The Mulberry yn lle gwych i ymlacio a mwynhau pryd o fwyd gyda ffrindiau, teulu, a hyd yn oed y ci!
Conwy
Bwyd cyflawn, salad a bar coffi yng nghanol tref gaerog ganoloesol Conwy.
Abergele
Golffdroed - Golff gyda pheli mwy! Mae golffdroed yn cyfuno'r gorau o ddwy gamp genedlaethol, pêl-droed a golff.
Conwy
Y siop anrhegion hanesyddol fyd-enwog yng nghysgod Castell Conwy, sy’n cynnig amrywiaeth helaeth o anrhegion hanesyddol fel cleddyfau ‘go iawn’, arfwisgoedd ac ati, neu boteli medd, gemwaith ac anrhegion tymhorol.
Conwy
Agorodd bwyty eiconig Alfredo’s ei drysau yn 1960 fel y bwyty Eidalaidd cyntaf yng ngogledd Cymru, ac mae gwaddol Alfredo’s yn un rydym ni’n ei gymryd o ddifri.
Conwy
Siop gerddoriaeth flaenllaw Gogledd Cymru lle dewch o hyd i’r brandiau gorau.
Penrhyn Bay
Mae’r café-bar wedi’i leoli reit gyferbyn â’r traeth ym Mae Penrhyn. Rydym ni ar agor ar gyfer brecwast, cinio, byrbrydau, crempogau, te prynhawn a choffi, ond mae ein bar ar agor bob amser os mai diod rydych chi ei awydd.
Llandudno
Mae White Tower yn fwyty Groegaidd yng nghanol Llandudno sy’n gweini bwyd cartref Groegaidd. Caiff pob pryd, salad, dipiau a phwdinau eu paratoi’n ddyddiol yn eu cegin a’u coginio fesul archeb.
Kinmel Bay
Mae Canolfan Hamdden Y Morfa yn cynnig ystod eang o weithgareddau dan do ac awyr agored ac yn gartref i lu o glybiau chwaraeon.
Conwy
Mae Oriel y Crochenwyr yng Nghonwy yn arbenigo’n gyfan gwbl mewn cerameg gyfoes. Mae’r cerameg sydd ar werth yma wedi’u dylunio a’u creu’n unigol gan aelodau ein cydweithredfa.
Cerrigydrudion
Mae Cronfa Ddŵr Alwen yn llyn 900 erw - y llyn gwneud mwyaf yng Nghymru. Mae yna lwybr o gwmpas y llyn sy’n berffaith ar gyfer beicio, cerdded neu farchogaeth. Mae yna hefyd ganolfan sgïo dŵr.
Conwy
Bwtîg merched sy’n gwerthu dillad, ategolion ac anrhegion.
Capel Curig
Fe adeiladwyd y Tŷ Hyll ym 1485, ac mae’n cael ei redeg fel ystafell de deuluol bellach sy’n gweini seigiau cartref gan gynnwys brecinio, coffi a chacen, cinio a the phrynhawn.
Abergele
Gwasanaeth tacsi ar gyfer Llanddulas a’r ardaloedd cyfagos.