Nifer yr eitemau: 29
, wrthi'n dangos 21 i 29.
Betws-y-Coed
Mae Beics Betws yn cynnig gwasanaeth llogi beiciau, teithiau beic tywys a gwyliau beics teithiol. Mae gennym feiciau hardtail, hybrid, antur trydanol a safonol a beiciau teithiol i’wr llogi.
Corwen
Mae Coedwig Clocaenog yng nghanol Mynydd Hiraethog ac mae’n ardal 6,000 hectar (15,000 acer) o faint. Dyma gynefin un o boblogaethau olaf y wiwer coch yng Nghymru ac mae’n ardal hollbwysig ar gyfer y rugiar ddu brin.
Betws-y-Coed
Yn swatio’n ddwfn yng nghalon Eryri, ni ellir maeddu’n lleoliad fel cyrchfan i weithgareddau antur o bob math. Mae Plas y Brenin wedi bod yn cynnal cyrsiau a gwyliau mewn gweithgareddau awyr agored a llawer mwy ers bron i 60 o flynyddoedd.
Holyhead - Chester
Mae rhan Sir Conwy o Lwybr Beicio Cenedlaethol 5 yn mynd â chi ar hyd yr arfordir.
Penmaenmawr
Taith o tua 10 milltir (16km) gyda golygfeydd hardd sy’n mynd o Benmaenmawr i Gonwy ac yn ôl.
Abergele
Cylchdaith tua 20 cilomedr o hyd yn bennaf ar hyd lonydd gwledig, ond mae rhai darnau ar ffyrdd geirw ac oddi ar y ffordd ar lwybrau yn y goedwig, yn dechrau o faes parcio Traeth Pensarn.
Llanrwst
Mae Llwybr Gwydir Mawr 25km yn llwybr beicio mynydd ym mhob ystyr o’r gair. Mae’n ymgorffori Llwybr Gwydir Bach byrrach, sy’n fersiwn 8.8km ac sy’n cymryd rhwng 45 a 90 munud i’w gwblhau.
Trefriw
Rydym yn gwmni hyfforddi beicio mynydd blaenllaw yng Ngogledd Cymru, ac rydym yn cael ein hadnabod ledled y byd am ddarparu hyfforddiant sy’n canolbwyntio ar y cleient.
Cerrigydrudion
Mae ‘I fyny i’r Llyn’ yn daith feicio eithaf hir a mynyddig, tua 42 cilomedr, ac yn ddelfrydol ar gyfer dechreuwyr a beicwyr canolradd ac unrhyw un sydd am brofi ei stamina heb ormod o waith technegol.