
Nifer yr eitemau: 47
, wrthi'n dangos 41 i 47.
Conwy
Ar lan afon Conwy, ger Castell Conwy, mae Amgueddfa Cregyn Gleision Conwy yn llawn hanes a straeon gwych. Yn archwilio treftadaeth a thraddodiadau’r dref, mae perthynas Conwy gyda’r afon a’r cregyn gleision yn mynd yn ôl i oes y Rhufeiniaid.
Colwyn Bay
Mae Mynydd Marian yn gefnen fechan o garreg galch sydd â golygfeydd godidog o’r arfordir a’r cefn gwlad gerllaw, yn ogystal â mynyddoedd Eryri a Bryniau Clwyd yn y pellter.
Conwy
Mae gan Erddi Dŵr Conwy a’r Tŷ Crempog bopeth. Yn Rowen, caiff y teulu cyfan ei ddiddanu, gyda thri llyn pysgota, taith gerdded, canolfan ddyfrol, a’r Tŷ Crempog yn gweini crempog melys a sawrus.
Abergele
Wedi ei leoli yn agos at y traeth yn Abergele, mae Parc Pentre Mawr yn barc trefol gweddol fawr yng nghanol ardal breswyl.
Conwy
Ar 150 erw o dir, gallwch fwynhau heddwch Pensychnant. Adeiladwyd o fewn Bwlch Sychnant gyda golygfeydd o Fynyddoedd y Carneddau, gallwch gerdded adfeilion canoloesol, rhostir a mwynhau cân y frân goesgoch ac ehedyddion.
Betws-y-Coed
Er bod Cwm Wybrnant yn fan tawel ac anghysbell heddiw, mae’r lleoliad yn arwyddocaol iawn yn hanes a diwylliant Cymru.
Betws-y-Coed
Mae Amgueddfa Rheilffordd Dyffryn Conwy yn ddiwrnod allan gwych i deuluoedd. Treuliwch amser yn yr amgueddfa, gyda phump rheilffordd model i’w gwylio a thaith ar y trên bach.