Nifer yr eitemau: 187
, wrthi'n dangos 181 i 187.
Betws-y-Coed
Teithiau trwy 9.5 erw o goedwig gynhenid at raeadr drawiadol Conwy. Mynediad ar hyd tir Conwy Falls Café, a gynlluniwyd yn y 1930au gan y pensaer adnabyddus lleol Clough Williams-Ellis. Gweinir byrbrydau a phrydau blasus.
Betws-y-Coed
Adeiladwyd yr eglwys yn y 14eg Ganrif a hwn yw’r adeilad hynaf ym Metws-y-Coed. Mae arddelw Gruffydd ap Dafydd Goch yn yr eglwys, bedyddfaen Normanaidd a nifer o nodweddion diddorol eraill.
Llandudno
Bwyty diweddaraf byd coginiol Gogledd Cymru. Mae’n ofod ffres a thrawiadol lle cewch chi fwynhau ansawdd ac ystryw ciniawa coeth heb yr holl ffaff a ffurfioldeb.
Trefriw
Bwthyn cerrig clyd, traddodiadol ar lannau hyfryd Llyn Crafnant gyda golygfeydd a lleoliad arbennig.
Abergele
Ni yw’r drydedd genhedlaeth o’n teulu ni i redeg y parc cyfeillgar, sydd wedi’i leoli ar arfordir Gogledd Cymru ger Abergele. Mae Llwybr Arfordir Cymru ar garreg ein drws ac mae’r traeth yn agos iawn hefyd.
Rowen
Ar safle Gerddi Dŵr Conwy mae tri llyn pysgota sydd â chyflenwad da o bysgod breision. Mae golygfeydd trawiadol o’r llynnoedd hyn i gyfeiriad Dyffryn Rowen ac mae coetir naturiol a thir amaethyddol o’u cwmpas.
Llandudno
Croeso i’r Shelbourne, Llandudno. Ar ôl cerdded drwy ddrysau croesawgar gwesty’r Shelbourne yn Llandudno, fe gewch ymlacio, rhoi eich traed i fyny a mwynhau eich gwyliau heb oedi.