I greueich Amserlen eich hun, cliciwch
i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?

Rydych chi yma: Home > Gwybodaeth i Ymwelwyr > Ardoll Ymwelwyr Conwy
Cwestiynau Cyffredin: Ardoll Ymwelwyr Conwy
C1: Beth yw’r Ardoll Ymwelwyr?
Tâl dros nos bychan y gallai cynghorau yng Nghymru ei gyflwyno i helpu i ariannu gwelliannau i gyfleusterau a gwasanaethau twristiaeth lleol.
Ble mae ardoll ymwelwyr wedi ei gyflwyno, mae’r gyfradd ardoll yn dâl y pen fesul noson ar lety dros nos, a osodwyd ar:
C2: A yw Conwy wedi penderfynu cyflwyno ardoll?
Na. Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi gwneud unrhyw benderfyniadau eto. Bydd cynnig i gynnal ymgynghoriad i geisio barn y diwydiant twristiaeth, trigolion lleol ac ymwelwyr ynglŷn â’r Ardoll Llety Ymwelwyr, yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn yn fuan yn 2026. Gofynnir i’r Cyngor os dylid dechrau proses ymgynghori yn Sir Conwy, nid a ddylid cyflwyno Ardoll Ymwelwyr. Bydd unrhyw benderfyniad terfynol i gyflwyno Ardoll yn cael ei wneud gan y Cyngor Llawn, yn ddiweddarach.
C3: Pryd yw’r cynharaf y gellir cyflwyno ardoll?
Y dyddiad posib cynharaf i unrhyw Gyngor gyflwyno ardoll yw Ebrill 2027, a dim ond ar ôl ymgynghoriad llawn a chamau gofynnol.
C4: Pwy sy’n casglu’r ardoll?
Bydd Awdurdod Refeniw Cymru yn rheoli casglu a gweinyddu’r Ardoll Ymwelwyr.
C5: A fydd angen i ddarparwyr llety gofrestru eu heiddo?
Bydd. Bydd angen i holl ddarparwyr llety ymwelwyr yng Nghymru gofrestru gydag Awdurdod Refeniw Cymru o dymor yr hydref 2026, hyd yn oed os nad yw eu Cyngor lleol yn cyflwyno ardoll.
C6: Sut fydd yr arian yn cael ei ddefnyddio?
Byddai arian a godir yn cael ei ail-fuddsoddi yn lleol i gefnogi isadeiledd twristiaeth, gwella profiadau ymwelwyr a darparu budd i gymunedau.
C7: Sut allaf gael y wybodaeth ddiweddaraf neu gymryd rhan?
Byddwn yn rhoi’r holl ddiweddariadau ar y dudalen hon. Pan fydd yr ymgynghoriad yn agor, byddwch yn gallu anfon adborth neu fynd i sesiynau budd-ddeiliad. Os oes gennych ddiddordeb, cofrestrwch i gael newyddion yn y dyfodol trwy anfon e-bost at tourism@conwy.gov.uk a chofrestru eich diddordeb.
Cwestiynau Cyffredin Tudalen Ymwelwyr – Gwybodaeth Ardoll Ymwelwyr i Ymwelwyr
C1: A oes Ardoll Ymwelwyr yng Nghonwy ar hyn o bryd?
Na. Nid yw unrhyw beth yn newid ar hyn o bryd.
C2: Beth yw’r Ardoll Ymwelwyr?
Tâl dros nos bychan y gallai cynghorau yng Nghymru ei gyflwyno i helpu i ariannu gwelliannau i gyfleusterau a gwasanaethau twristiaeth lleol.
C3: Faint allai gostio?
Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod y cyfraddau canlynol:
£0.75 y pen fesul noson ar gyfer safleoedd gwersylla a hosteli (ac eithrio rhai o dan 18)
£1.30 y pen fesul noson ar gyfer mathau eraill o lety
C4: Pryd allai hyn gychwyn?
Y dyddiad posib cynharaf i unrhyw Gyngor gyflwyno ardoll yw Ebrill 2027, a dim ond ar ôl ymgynghoriad llawn a chamau gofynnol.
C5: Sut allaf wybod beth sy’n digwydd?
Byddwn yn rhoi diweddariadau ar y dudalen hon. Os bydd ymgynghoriad yn digwydd, bydd ymwelwyr yn cael cyfle i rannu eu barn.
Am wybodaeth fusnes, ewch i'r dudalen Cwestiynau Cyffredin Busnes
© Conwy County Borough Council. Cedwir Pob Hawl
