Awyddus i wella eich camau dyddiol? Dewch am dro ar lwybrau troed arfordirol a gwledig gwych Sir Conwy, neu beth am gêm o golff ar ein lawntiau godidog.

Yn syml, yn hwyl ac yn rhad ac am ddim, cerdded yw un o'r ffyrdd hawsaf o wella eich ffitrwydd cardiaidd a chyhyrol. Does dim angen offer arbennig arnoch - dim ond pâr o esgidiau gweddus, golwg benderfynol ac ychydig o ysbrydoliaeth. I losgi’r calorïau Nadolig, mae’n well gosod cyflymder cyson ond cyflym. Os oes gennych chi ddigon o anadl i sgwrsio, ond dim digon i ganu (er cymaint yr hoffech chi wneud hynny), rydych chi ar y trywydd iawn.

Os ydych chi, fel llawer ohonom, wedi gwneud adduned Blwyddyn Newydd i gerdded mwy, i ble yr ewch chi?

Mae Llwybr Arfordir Cymru a Pharc Gwledig y Gogarth yn lleoedd gwych i ymestyn eich coesau, tra’n llenwi eich ysgyfaint ag awyr iach y môr. Yna mae Mynydd y Dref, lle gallwch chi gamu drwy hanes heibio i fryngaerau Oes yr Haearn. Mae cefn gwlad prydferth Eryri i’w archwilio o amgylch Betws-y-Coed. Mae llwybrau heddychlon, coediog a rhaeadrau’r ardal yn siŵr o roi hwb i’ch lles.

Er mwyn ymarfer eich ysgwyddau, eich breichiau, eich canol a'ch calon, gall rownd o golff wneud rhyfeddodau - a gall ychydig o gystadleuaeth iach fod yn gymhelliant gwych. Bydd cyrsiau golff Conwy yn codi eich hwyliau ac yn gwella eich sgiliau.  Gyda bryniau a mynyddoedd neu fôr yn gefndir iddynt, mae gan bob un ohonynt un peth yn gyffredin: golygfeydd bythgofiadwy.

Ble i aros

Mae gan Sir Conwy lety gwyliau gwledig a gwestai arfordirol gyda llwybrau troed a chyrsiau golff ar garreg y drws. Fel arall, er mwyn cael lle i ymestyn a chartref oddi cartref am ychydig ddyddiau, beth am drefnu bwthyn neu fflat hunanarlwyo clyd i chi'ch hun.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

Ble i fwyta ac yfed

Mae digon o ddewis i chi wledda yn ein siopau fferm, caffis, tafarndai a bwytai. Ymhlith y danteithion lleol i gadw llygad amdanynt mae caws llaeth dafad o Eryri, bara crefftus o Lanrwst, cregyn gleision o Gonwy a physgod ffres o Fae Lerpwl.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

Cysylltiedig

0 Sylwadau

#number# Sylwadau

Mae sylwadau wedi eu hanalluogi ar gyfer y neges hon.