Mae’r gaeaf yn amser gwych ar gyfer gwyliau hamddenol gyda rhywun arbennig, neu hwyl gyda’r teulu cyfan. Yma yng Ngogledd Cymru, rydym yn barod am dymor disglair, gyda llawer o ddigwyddiadau cyffrous ar y gweill.

1. Mwynhewch gelf gyfoes yn Llandudno

Y gaeaf hwn, mae Mostyn, oriel gelf arloesol Llandudno yn cyflwyno Artes Mundi 10 ar y cyd, arddangosfa sy’n cynnwys saith o artistiaid cyfoes rhyngwladol pwysicaf y byd. Byddwn yn arddangos gwaith Taloi Havini, artist Nakas/Hakö o Ynys Bougainville ym Mhapua Gini Newydd, sy’n defnyddio ffotograffiaeth, fideo a sain i greu tirlun haniaethol ar raddfa fawr.  Mae artistiaid eraill sy’n cael eu cynnwys ym Mostyn y tymor hwn yn cynnwys y darlunydd Minimaladd o Efrog Newydd, Rosemarie Castoro.

Ble?

Mostyn, Llandudno, LL30 1AB

Pryd?

Tan 24 Chwefror, 2024.

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

2. Ysbryd yr Ŵyl yn Llandudno

Mae tref lan môr Llandudno yn edrych yn fwy hardd nag erioed gyda’i haddurniadau godidog. Erbyn canol mis Tachwedd, bydd teimlad Nadoligaidd iawn yn Llandudno yn barod ar gyfer y Strafagansa Nadolig, ffair Nadolig rhad ac am ddim gyda stondinau anrhegion gwych, bwyd a diod blasus, adloniant unigryw a reidiau ffair. Yn fuan wedyn cawn hudol Parêd Nadolig Llandudno, ddydd Sadwrn cyntaf mis Rhagfyr.

Ble?

Trinity Square, Llandudno, LL30 2RH

Pryd?

Dydd Iau 16 - Dydd Sul 19 Tachwedd a Dydd Sadwrn 2 Rhagfyr

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

3. Tretiwch y teulu i sioe yn Venue Cymru

Mae gan theatr 1,500 sedd Llandudno gyfres anhygoel o sioeau yn ystod y gaeaf yn barod ar eich cyfer. Bydd llawer o ddigrifwch ar 18 Tachwedd yn Britain’s Got Comedy, mae’r sioe gerdd boblogaidd Everybody’s Talking About Jamie yn cyrraedd ym mis Tachwedd, ac erbyn mis Rhagfyr, bydd yn amser hedfan i Neverland gyda chast Peter Pan.

Ble?

Venue Cymru, Llandudno, LL30 1BB

Pryd?

Gweler y wefan am ddyddiadau.

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

4. Noson allan i’w chofio yn Theatr Colwyn

Cymerwch sedd yn theatr hanesyddol Bae Colwyn y gaeaf hwn ar gyfer darllediadau byw llawn sêr o’r Theatr Genedlaethol, bandiau teyrnged ac, i’r sawl sy’n mwynhau panto, sioe deuluol Nadoligaidd - Mother Goose

Ble?

Theatr Colwyn, Bae Colwyn, LL29 7RU

Pryd?

Gweler y wefan am ddyddiadau.

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

5. Cwrdd â Siôn Corn a’i Gorachod yng Nghastell Gwrych

Mae Groto Hudolus Siôn Corn yn dychwelyd i Gastell Gwrych y gaeaf hwn. Bydd y plant wrth eu boddau’n sgwrsio gyda Siôn Corn, ei wraig Mrs Corn, a’i gorachod prysur, am y Nadolig. Cewch ddisgwyl addurniadau lliwgar, bwyd a diod blasus, bag o anrhegion a gweithgareddau hwylus.

Ble?

Castell Gwrych, Abergele, LL22 8ET

Pryd?

Dydd Sadwrn 2 – Dydd Sadwrn 23 Rhagfyr 2023, Dydd Sadwrn a Dydd Sul yn unig (a Dydd Gwener 22 Rhagfyr), 10am – 3pm.

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

6. Galwch heibio Farchnad Gwneuthurwyr y Nadolig ym Metws-y-coed

Mae tyfwyr, piclwyr, bragwyr, a chrefftwyr cartref o Eryri a thu hwnt yn ymgasglu ym mhentref prydferth Betws-y-coed ar gyfer Marchnad Cynhyrchwyr a Gwneuthurwyr. Bydd y cynnyrch i gyd yn lleol, ffres, tymhorol neu bob un o’r rhain, gyda chynaliadwyedd yn un o’r prif themâu. Pam na wnewch chi dreulio’r penwythnos yma, gan gyfuno eich diwrnod o siopa gydag ymweliad i Zip World Fforest i fynd ar y Trên Tabogan Polar?

Ble?

Gwesty’r Royal Oak, Betws-y-coed, LL24 0AY

Pryd?

Dydd Sadwrn 2 - Dydd Sul 3 Rhagfyr 2023,  10am-4pm.

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

7. Camwch i mewn i ryfeddod gaeafol yn Fforest Nadoligaidd Zip World

Ym mis Rhagfyr, mae Zip World Fforest yn cael gweddnewidiad hudolus. Dewch ar y penwythnos o gwmpas y machlud i gael taith ar y Trên Tabogan Polar, sy’n unigryw i’r DU, a chyfle i neidio ar y Rhwydi Bownsio ag eira. Gyda cherddoriaeth Nadoligaidd, goleuadau, mins-peis, siocled poeth a gwin cynnes, bydd yn antur gyffrous i’r teulu cyfan.

Ble?

Zip World Fforest, Betws-y-coed, LL24 0HX

Pryd?

Dydd Sul 2 - Dydd Sadwrn 24 Rhagfyr, 2023, Dydd Sadwrn a Dydd Sul yn unig, 3-7pm.

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

8. Canu carolau o amgylch y goeden yng Nghonwy a Llandudno

Yn nhrefi Conwy a Llandudno yn ystod mis Rhagfyr, bydd ysgolion lleol, busnesau a sefydliadau yn brysur yn addurno gyda goleuadau ac addurniadau Nadolig wrth iddynt baratoi ar gyfer Gŵyl Coed Nadolig er budd Hosbis Dewi Sant. Yn ogystal â lletya coed disglair, byddwn yn canu carolau, am ddim, nos Iau, 7 Rhagfyr o 6pm ymlaen yng Nghonwy, a nos Iau, 15 Rhagfyr o 7pm yn Llandudno.

Ble?

Eglwys y Santes Fair, Conwy, LL32 8LD ac Eglwys Sant Ioan, Llandudno, LL30 2NN

Pryd?

Dydd Llun 4 - Dydd Sadwrn 16 Rhagfyr, 11.30am – 3.30pm (ar gau dydd Sul)

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

9. Gwylio gorymdaith â thortshys yn goleuo strydoedd Conwy

Mae Gŵyl Gaeaf Conwy yn dod ag ychydig o fawredd canoloesol i ganol tref hanesyddol Conwy. Cewch ddisgwyl noson fywiog yn cynnwys diddanwyr stryd, cerddorion, corau, dawnsio gwerin, brwydrau â chleddyf, cnau castan poeth a phobl yn gorymdeithio mewn gwisgoedd gyda thortshys tân.

Ble?

Stryd Fawr Conwy, LL32 8DE

Pryd?

Dydd Sadwrn, 9 Rhagfyr 2023, 4-7pm.

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

10. Croesawu’r Flwyddyn Newydd mewn gwesty moethus ger y môr

Mae’r lleoedd gorau i aros ynddynt yn Llandudno wir yn dathlu mewn steil dros y Flwyddyn Newydd eleni. I sicrhau noson i’w chofio, maent yn cynnig pecynnau Nadoligaidd, gan gynnwys danteithion megid te prynhawn, swigod a chanapés gyda’r nos, a bwydlenni pryd nos moethus, sy’n cynnwys platiau ag elfen Gymreig unigryw iddynt. I groesawu 2024 mewn steil, arhoswch am ychydig ddyddiau ym mis Ionawr, er mwyn caniatáu amser i siopa, feicio neu fynd ar daith gerdded yn y wlad.

Pryd?

Dydd Sul, 31 Rhagfyr, 2023

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

11. Dathlwch ddiwrnod Santes Dwynwen ym Metws-y-coed

Yng Nghymru, mae diwrnod mwyaf cariadus y flwyddyn ym mis Ionawr, nid mis Chwefror. Ar 25 Ionawr, diwrnod Santes Dwynwen, mae’n amser maldodi eich anwylyd gyda cherdyn, anrheg, neu arhosiad byr i ffwrdd, er cof am nawddsant cariadon Cymru. Byddai arhosiad rhamantus ym Metws-y-coed, gyda’i golygfeydd perffaith ac awyr ddisglair y nos yn freuddwyd.

Pryd?

25 Ionawr, 2024

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

Cysylltiedig

0 Sylwadau

#number# Sylwadau

Mae sylwadau wedi eu hanalluogi ar gyfer y neges hon.