Wrth fynd i’r tir mae Sir Conwy yn glytwaith gwyrdd o ddyffrynnoedd glaswelltog, bryniau coediog, gweundiroedd uchel a mynyddoedd garw – sy’n aros am gael eu darganfod.

Mwynhewch brofiadau newydd, archwiliwch ein hoff atyniadau a darganfyddwch ein trysorau cudd.

Pa un ai ydych chi’n chwilio am benwythnos rhamantaidd neu wyliau bach efo’r teulu, mae gennym ni lefydd aros at ddant pawb – o dai gwledig moethus a lletyau bwtîc i westai gwely a brecwast rhesymol, eiddo hunanarlwyo a pharciau carafanau gyda chyfleusterau di-ri.

Dyma ganllaw sydyn o’r hyn sydd gan ein trefi a’n pentrefi gwledig i’w gynnig. Gwnewch yn siŵr nad ydych chi’n colli allan ar unrhyw beth pan fyddwch chi’n dod i Gonwy. Mae ein gwefan yn llawn dop o syniadau ar gyfer pethau i’w gwneud yn ystod eich ymweliad ac mae gennym ni hefyd adnodd gwych i chi gynllunio’ch gweithgareddau. 

Gwaelod Dyffryn Conwy

Sut le ydi o?Mae Dyffryn Conwy yn goridor gwyrdd hyfryd yn arwain o’r môr i fynyddoedd Eryri. Ond camgymeriad yw brysio heibio, gan fod y dyffryn a’r cyffiniau yn llawn pentrefi a threfi hardd yn ogystal ag atyniadau a phethau i chi eu gwneud.

Rhy dda i’w golli! Gardd Bodnant – dyma un o drysorau'r Ymddiriedaeth Genedlaethol sydd ag 80 erw o harddwch garddwriaethol. Ar draws y dyffryn yn Rowen mae Gerddi Dŵr Conwy, canolfan ddyfrol gyda llynnoedd pysgota, tŷ ymlusgiaid a theithiau natur. Os mai gweithgareddau antur sy’n mynd â’ch bryd, beth am fynd am dro i Adventure Parc Snowdonia yn Nolgarrog? Mae lagŵn y Parc Dŵr erbyn hyn yn cynnig sesiynau caiacio a phadl fyrddio a dan do yn y ganolfan Adrenaline Indoors fe allwch chi roi cynnig ar gwrs rhaffau uchel, ogofa, llithrennau eithafol a gwifren wib.

Llanrwst

Sut le ydi o?‘Prif ddinas’ a thref farchnad hanesyddol Dyffryn Conwy. Mae Capel Gwydir yn eglwys hardd Sant Crwst yn cynnwys arch gerfiedig a chywrain Llywelyn Fawr, a fu farw yn Abaty Aberconwy yn 1240. Cofiwch alw heibio i siopau annibynnol y dref, darganfod Llwybr Glanrafon a mwynhau paned a chacen yn un o gaffis cyfeillgar y dref.

Rhy dda i’w golli! Gerllaw mae Castell Gwydir a Chapel Gwydir Uchaf yn datgelu mwy am orffennol cyffrous yr ardal. Ar gyrion Llanrwst fe gewch hyd i Barc Coedwig Gwydir, ardal hardd sy’n llawn llwybrau ar gyfer pob gallu. Tu Hwnt i’r Bont, gyda’i eiddew enwog, yw un o’r ystafelloedd te a dynnir ei lun amlaf yng Nghymru. Felly cofiwch alw i mewn i fwynhau te prynhawn!

Betws y coed

Sut le ydi o? Y cyrchfan mynyddig hwn yw ‘porth’ swyddogol Eryri. Yn ogystal â dewis da o weithgareddau awyr agored ar stepen y drws, mae’r pentref hefyd yn lle poblogaidd oherwydd ei siopau di-ri sy’n gwerthu popeth o grefftau hardd i esgidiau cerdded. Does dim rhyfedd mai hwn yw’r cyrchfan gwyliau gorau yn y DU yn ôl Go Outdoors!

Rhy dda i’w golli! Un o’r llefydd cyntaf y dylech chi fynd iddo yw Canolfan Wybodaeth Parc Cenedlaethol Eryri, sy’n llawn gwybodaeth am bopeth i’w weld a’i wneud yn lleol. Ewch am y coed gyda’ch ffrindiau a’ch teulu yn Zip World Fforest i fynd i’r afael â rhaffau, rhwydi a siglenni sy’n hongian o’r nenfwd o goed. Neu beth am fwynhau tro ar y Fforest Coaster? Neu wrando ar dwrw mawr Rhaeadr Ewynnol? 

Penmachno

Sut le ydi o? Dyma bentref mynyddig yng nghanol cefn gwlad agored a bryniau coediog. Yn sefyll mewn dyffryn cudd ar gyrion Penmachno mae Tŷ Mawr Wybrnant – tŷ fferm o’r unfed ganrif ar bymtheg a man geni William Morgan a gyfieithodd y Beibl i’r Gymraeg a helpu i sicrhau bodolaeth yr iaith heddiw. Mae’r adeiladau a’r toiledau ar gau ar hyn o bryd ond mae’r ystafell arddangos, yr ardd a’r tiroedd ar agor bob dydd.

Rhy dda i’w golli! Mae rhwydwaith o lwybrau Coedwig Penmachno yn ‘drysor cudd’ ar gyfer unrhyw un sy’n hoff o feicio mynydd. Antur Danddaearol Go Below yw’r profiad tanddaearol dramatig eithaf. Mewn hen fwyngloddiau yn nwfn o dan fynyddoedd Eryri, mae yna fyd o lynnoedd glas dwfn, gwifrau gwib, pontydd, ysgolion ac abseiliau. Mae’n gwrs rhwystrau heb ei ail.

Pentrefoelas

Sut le ydi o? Ers talwm byddai’r goets fawr yn stopio yma ar ei ffordd i ogledd Cymru, mewn pentref sydd mewn lle da i ddarganfod Dyffryn Conwy a Hiraethog. Mae teithwyr heddiw – yn enwedig y rheiny syn hoff o siocled, yn stopio yn Nŷ Siocled ac Ystafell De Glanrafon i fwynhau melysion blasus.

Rhy dda i’w golli! Ewch i’r gogledd o’r pentref i weld replica o Garreg Llywelyn – colofn a roddwyd i Llywelyn Fawr gan fynachod Sistersaidd Abaty Aberconwy, sydd ag ysgrifen Cymraeg a Lladin arno (mae’r garreg wreiddiol erbyn hyn yn Amgueddfa Cymru yng Nghaerdydd). 

Cerrigydrudion

Sut le ydi o? Pentref ar gyrion yr A5 sy’n borth i Hiraethog. Mae’n gartref i drac rasio go-certi Glan y Gors, sy’n un o draciau Pencampwriaeth Prydain, ac yn ddiwrnod allan hynod boblogaidd. Nid nepell o’r pentref fe ddowch o hyd i Lyn Brenig a Llyn Alwen – cronfeydd dŵr sy’n gyfle i chi fwynhau llawer o weithgareddau hamdden fel cerdded, beicio, pysgota a gwylio adar.

Rhy dda i’w golli! Ewch i ganolfan ymwelwyr Llyn Brenig yn gyntaf i weld be’ ‘di be a dysgu am y 2500 erw o goed, gweundiroedd a llynnoedd. Ewch i weld yr arddangosfa gweilch i ddysgu mwy am y gweilch sydd wedi ymgartrefu ger Llyn Brennig ers 2013 – ac sydd i’w gweld yno rhwng mis Ebrill a mis Awst. Archebwch eich tocynnau i fynd i mewn i’r cuddfannau i weld yr adar yn agos. Yn ystod misoedd oeraf y flwyddyn mae Mynydd Sleddog Adventures yn cynnig teithiau drwy’r coed ar geir llusg wedi’u tynnu gan gŵn a diwedd y gwanwyn ac yn yr haf, pan fydd hi’n rhy boeth i’r cŵn redeg, fe allwch chi fynd am antur fynydda gyda’r hysgwn.

Llangernwy

Sut le ydi o? Dyma bentref yn harddwch Dyffryn Elwy ar ochr ogleddol Hiraethog.

Rhy dda i’w golli! Mae Amgueddfa Syr Henry Jones, sydd mewn hen fwthyn gweithiwr o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn amgueddfa o fywyd gwledig Cymreig sy’n adrodd hanes diwygiwr addysg enwog.

Trefriw

Sut le ydi o?Mae Trefriw yn fan cychwyn gwych i archwilio’r awyr agored. Ewch o gwmpas y pentref darluniadol drwy ddilyn un o Lwybrau Trefriw.

Rhy dda i’w golli! Mae melin wlân y pentref yn dal yn cynhyrchu tapestrïau a brethyn cartref Cymreig. Mae Llyn Crafnant, sy’n llyn pysgota, a Llyn Geirionydd, sy’n lle poblogaidd iawn i fwynhau chwaraeon dŵr, yn swatio rhwng y bryniau coediog uwchlaw’r pentref. 

Dolwyddelan

Capel Curig

Sut le ydi o? Mae’r pentref yn agos iawn at ucheldir Parc Cenedlaethol Eryri, ac yn fan cyfarwydd i ddringwyr a mynyddwyr gwerth eu halen. Mae’r siopau lleol yn gwerthu offer a dillad mynydda ac awyr agored.

Rhy dda i’w golli! Canolfan Awyr Agored Plas y Brenin – sy’n cynnig cyrsiau a hyfforddiant gweithgareddau awyr agored ar gyfer pob gallu. 

Sut le ydi o? Dyma bentref mynyddig ger Betws-y-coed wedi’i amgylchynu gan dirwedd arw.

Rhy dda i’w golli! Saif Castell Dolwyddelan, a oedd unwaith yn gadarnle i Dywysogion Gwynedd, ar gribyn uwchlaw’r pentref

Cysylltiedig

0 Sylwadau

#number# Sylwadau

Mae sylwadau wedi eu hanalluogi ar gyfer y neges hon.