P’run ai a ydych yn chwilio am benwythnos i ffwrdd funud olaf neu wyliau wythnos o hyd, mae gennym ni yr union le i chi gyda llety, gweithgareddau ac atyniadau sy’n rhoi gwerth da am arian a sy’n addas i bob poced.

Arhoswch ger un o’n traethau hyfryd a deffrwch i awyr hallt y môr a golygfeydd o’r môr. Mwynhewch anturiaethau’r haf gyda theulu a ffrindiau. Ac wrth i’r haul fachlud ymlaciwch dros bryd hamddenol yn un o’n tai bwyta neu dafarndai gwych.

Dyma arweiniad byr i'r hyn sydd i’w gael ar hyd ein traethlin, o’r dwyrain i’r gorllewin

Bae Cinmel a Thowyn 

Sut le ydi o? Mae traeth gwyn llydan Bae Cinmel yn boblogaidd ar gyfer gweithgareddau arfordirol cyffrous fel barcudfyrddio, caiacio a bordhwylio, a Thowyn gerllaw yw'r lle i fynd am beiriannau chwarae, arcêds ac adloniant ger y traeth.

Rhy dda i’w golli. Ewch am daith natur drwy dirwedd eang Gwarchodfa Natur Twyni Cinmel, sef ehangder digyffwrdd lle gwelwch chi adar môr di-rif uwch eich pen a morloi llwyd yn nofio oddi ar yr arfordir. Os mai antur sy’n mynd â’ch bryd, ewch i Barc Hamdden Tir Prince, lle gwelwch chi rasys ceffylau harnais Americanaidd a reidiau ffigar-êt cyflym, neu rhowch gynnig ar y gwibgerti a’r reidiau ffair yn Knightley’s Fun Park. 

Abergele a Phensarn

Sut le ydi o? Rydych chi’n cael dau am bris un yn y fan yma. Wedi’i leoli ychydig oddi wrth arfordir, ac yn fan cychwyn gwych ar gyfer teithiau cerdded gwledig, mae tref hanesyddol Abergele yn llawn siopau annibynnol atyniadol, ac mae traeth mawr tywodlyd Pensarn yn cynnig hwyl glan môr fesul bwcedaid.

Rhy dda i’w golli. Ewch i ymweld â Chastell Gwrych, plasty canoloesol a adeiladwyd yn nechrau’r 19egganrif a sy’n cael ei adfer ar hyn o bryd. Efallai y byddwch yn ei adnabod fel cartref cyfres deledu ITV ‘I’m a Celebrity’ yn 2020 a 2021. Mae Parc Fferm Manorafon gerllaw yn darparu ystod o weithgareddau ar gyfer diwrnod allan cyffrous i deuluoedd.

Neu ewch draw i’r traeth. Mae’n aml yn dawelach na’i gymdogion arfordirol mwy adnabyddus, felly bydd digon o le i chi fwynhau’r tywod a’r môr – a’r haul. Os ydych chi’n golffiwr brwd, cofiwch ddod â’ch clybiau gyda chi. Mae yma hefyd gwrs golff 18 twll ardderchog yn Abergele.

Bae Colwyn

Sut le ydi o? Er fod Bae Colwyn wedi bod yn denu ymwelwyr ers oes Fictoria, does arno ddim ofn symud gyda'r oes. Yn y blynyddoedd diweddar, mae glan y môr wedi cael ei drawsnewid, gyda datblygiad Porth Eirias (cartref bistro’r cogydd Bryn Williams, sydd wedi ennill gwobr), a’r traeth a godwyd yn newydd sbon.

Rhy dda i’w golli. Ewch am dro ar hyd y pier ‘newydd’ - Dyma brosiect £1.5 miliwn i adsefydlu fersiwn llai o bier Bae Colwyn, a agorodd yn wreiddiol ym 1900.

Ar dir sych, gallwch ymweld â’r Sŵ Fynydd Gymreig, sy’n gartref i greaduriaid prin ac anifeiliaid sydd mewn perygl, fel y pandas cochion, llewpardiaid yr eira a theigrod Swmatra. Mae Coed Pwllycrochan yn cynnig llwybrau cerdded a llwybrau natur gydag arwyddion.

Llandrillo-yn-Rhos

Sut le ydi o? Mae’r dref harbwr fach hon yn gwasgu personoliaeth enfawr i mewn i becyn bychan. Dyna i chi’r promenâd traddodiadol (delfrydol ar gyfer mynd am dro hamddenol), cychod lliwgar yn dowcio yn yr harbwr, plant yn dal crancod ar fin y dŵr. Rhowch y rhain i gyd at ei gilydd a dyna i chi gyrchfan fach berffaith. (Mae disgwyl i’r gwaith parhaus ar yr amddiffynfeydd arfordirol gael ei orffen erbyn Awst 2023)

Rhy dda i’w golli. Mae dyfroedd clir yr ardal hon yn ferw o bysgod o bob lliw a llun. Ewch i chwilio am un mawr ar drip pysgota môr o’r harbwr. Neu arhoswch ar dir sych i grwydro llu o siopau bach annibynnol Llandrillo-yn-Rhos, sy’n gwerthu hen bethau, dillad o’r oes a fu a gemwaith ac anrhegion a chrefftau gwahanol. 

Llandudno

Sut le ydi o? Yn syml, mae Llandudno’n glasur o’i fath; yn ddihalog a heb ei ddifetha. Ond mae’n llwyddo i osgoi bod yn hen ffasiwn ac ar ôl yr oes. Dyna’r gyfrinach i’w gymeriad. O’i wreiddiau Fictoraidd, mae wedi tyfu’n gyrchfan gyfoes unigryw, y math o le y gallwch chi fynd i godi cestyll tywod neu weld celfyddyd fodern, edmygu pensaernïaeth o’r oes o’r blaen a mwynhau’r adloniant diweddaraf, mynd i siopa neu wylio bywyd gwyllt, teithio ar hen dram neu mewn car cebl alpaidd.

Rhy dda i’w golli. Ar Draeth y Gogledd ewch am dro yn awel yr haf ar hyd pier bendigedig Llandudno, yr hiraf yng Nghymru. Neu neidiwch ar Drên Tir Llandudno i gyrraedd ardal dawelach Penmorfa gyda’i thraeth tywodlyd a golygfeydd gwych.

Conwy a Deganwy

Sut le ydi o? Mae’n debyg eich bod chi wedi clywed am gei hanesyddol Conwy, hen gei go iawn ar fin y dŵr (sydd hefyd yn gartref i’r ‘Tŷ Lleiaf ym Mhrydain’, sef bwthyn pysgotwr anhygoel o fychan) sy’n swatio o dan gastell a muriau canoloesol y dref. Ond mae’n werth archwilio’r foryd gyfan, bob ochr i’r lan. Ar ochr Conwy, fe welwch chi Gei Conwy, sef marina fodern gyda golygfeydd bendigedig ar draws y dŵr o farina chwaethus llawn cychod arall ar yr arglawdd gyferbyn yn Deganwy. Mae’r ddau’n barhad o draddodiadau mordeithiol a morwrol cryf yr ardal.

Rhy dda i’w golli. Gallwch weld y cyfan ar drip cwch o gei Conwy. 

Penmaenmawr

Sut le ydi o? Ffefryn i’r teulu. Ar draeth tywodlyd eang a phromenâd Penmaenmawr mae yna bwll padlo, man chwarae i blant a pharc sglefr-fyrddio – lle perffaith i ddiddanu ymwelwyr iau. Mae yno hefyd deithiau cerdded a chwaraeon dŵr gwych a chlwb hwylio prysur.

Rhy dda i’w golli. I gael y profiad glan môr clasurol hwnnw, llogwch un o gytiau glan môr pren Penmaenmawr. Wedi’u lleoli’n gyfleus wrth ymyl y caffi ar y promenâd, maen nhw’n ganolbwynt delfrydol i ddiwrnod o hwyl ar y traeth. Neu ewch i ymweld ag Amgueddfa Penmaenmawr sy’n mynd â chi ar daith drwy hanes y dirwedd, y dref a’i phobl gan ddefnyddio straeon a gwrthrychau o’r gorffennol hynafol i’r presennol.

Llanfairfechan

Sut le ydi o? Pentref bach tlws gyda thraeth mawr tywodlyd sy’n ddelfrydol ar gyfer chwarae gemau, padlo a chodi cestyll tywod. Mae hefyd yn fan cychwyn da ar gyfer teithiau cerdded i’r bryniau cyfagos. Ewch am y tir uwch ac fe gewch chi’ch gwobrwyo gyda golygfeydd bendigedig dros y Fenai tuag Ynys Môn.

Rhy dda i’w golli. Cofiwch eich sbienddrych! Mae Llanfairfechan yn agos at Warchodfa Natur Traeth Lafan, sy'n gynefin arfordirol cyfoethog i adar môr fel pïod y môr, y wyachfawr gopog a'r hwyaden ddanheddog fronrudd.

Cysylltiedig

0 Sylwadau

#number# Sylwadau

Mae sylwadau wedi eu hanalluogi ar gyfer y neges hon.