Gwisgwch yn gynnes a chamwch ymlaen: mae’r dyddiau’n mynd yn hirach, sy’n golygu mwy o amser ar gyfer teithiau cerdded gwledig. Arhoswch yn Llandudno, er enghraifft, ac mae’r Gogarth gwyllt a gwyntog ar eich stepen drws. 

Er nad yw Tramffordd y Gogarth yn ail-agor tan fis Mawrth, mae nifer o ffyrdd cyffrous i grwydro ar droed. 

Mae Llwybrau Hanesyddol y Gogarth yn eich tywys yr holl ffordd yn ôl i Oes y Cerrig mewn cyn lleied â dwy awr – neu hirach, am olwg mwy dwys i’r safle archeolegol arwyddocaol hwn – tra bod y Llwybr Natur yn eich tywys drwy faes glaswelltog geifr Kashmir y Gogarth, rydym yn disgwyl rhai bach yr adeg hon o’r flwyddyn. 

Gallwch hefyd weld cadwraethwyr wrth eu gwaith: mae’r rhostir ar y Gogarth yn cael ei dorri bob gaeaf i annog eginblanhigion cynhenid i dyfu.

Tref neu wlad? Eich gwyliau chi, eich ffordd chi

Os ydych yn adnabod Llandudno a Chonwy, byddwch yn gwybod nad oes prinder o lefydd gwych i aros – y dewis mwyaf yng Nghymru. Os ydych eisiau ychydig ddiwrnodau yn y dref, gallwch aros mewn un o’n gwestai moethus, ymlacio mewn tŷ llety cysurus neu blesio eich hunain mewn llety hunanddarpar. 

Trefnwch ddiwrnod disglair allan

Mae ymweld â’n cestyll, gerddi a gwarchodfeydd natur yn y gaeaf yn rhoi cyfle i chi eu gweld mewn goleuni gwahanol, gan fwynhau profiadau sy’n unigryw i’r tymor. 

Mae Castell Conwy, sydd ar agor i’r cyhoedd bron bob dydd y flwyddyn, yn edrych mor hardd ag erioed gydag ysgeintiad o eira. 

Mae Gardd Bodnant yn edrych yn arbennig yn y gaeaf hefyd: cyrhaeddwch am 10am pan mae’n agor, ac efallai bydd rhew yn disgleirio ar y lawntiau a'r ymylon – delfrydol ar gyfer ffotograffwyr botanegol.

RSPB Conwy – hafan ar gyfer bywyd gwyllt gwlyptir, hanner milltir o orsaf Cyffordd Llandudno – mae’n croesawu nifer o rywogaethau ymfudol y cyfnod hwn o’r flwyddyn. 

Mae ymwelwyr pluog y gall wylwyr adar brwd weld o gwmpas yr aber a morlynnoedd yn cynnwys y pibydd mannog, hwyadwyddau, crehyrod ac elyrch y gogledd, sy’n treulio’r misoedd cynnes yng Ngwlad yr Iâ. 

Bwytewch, yfwch, siopwch... ac ymlaciwch 

Gyda pharatoadau’r Nadolig yn hen atgof, beth am ailddarganfod mwynhad mewn taith siopa hamddenol, gyda siocled poeth, cwrw lleol neu wydraid o win i ddilyn o flaen tanllwyth o dân? Mae Llandudno yn leoliad gwych i fwynhau pleserau bywyd.

Gallwch bori trwy nifer o siopau a galerïau annibynnol sy’n gwerthu anrhegion arbennig, digonedd o fwyd blasus yn ein caffis a’n bwytai, neu beth am ymuno â thaith o amgylch Distyllfa Penderyn ar Lloyd Street i ddarganfod mwy am wirodydd poblogaidd Penderyn. Fel eu distyllfa wreiddiol ym Mannau Brycheiniog, mae’r safle newydd yn cynnwys Distyllbair Faradwy: system un grochan copr sy’n rhoi blas, purdeb a chryfder unigryw i chwisgi Penderyn. 

Cysylltiedig

0 Sylwadau

#number# Sylwadau

Mae sylwadau wedi eu hanalluogi ar gyfer y neges hon.