Yn Gaeaf

Hyrwyddo am dâl

Mae’r coed Nadolig a’r addurniadau wedi eu cadw am flwyddyn arall, ac i lawer ohonom mae hynny’n golygu bod rhaid mynd yn ôl i’r gwaith a’r drefn ddyddiol. Mae Dydd Llun y Felan wedi bod ac wedi mynd, ond peidiwch a gadael i'r felan gael y gorau arnoch fis Ionawr yma! Ysbrydolwch eich hun ar gyfer eich gwyliau nesaf yn y gaeaf drwy gael golwg ar rai o’r atyniadau a’r darparwyr llety ffantastig yn Sir Conwy.

Neuadd Bodysgallen

Neuadd Bodysgallen

Llety moethus yn Llandudno! Lleolir Neuadd Bodysgallen mewn 230 erw o erddi preifat ac mae’n cynnig golygfeydd ysblennydd o Gastell Conwy ac Eryri. Beth am fanteisio ar eu cynnig Egwyl Gwych am Hanner Pris a chael gostyngiad o 50% oddi ar eich arhosiad cyn 31 Mawrth 2020. Mae’r cynnig yn cynnwys llety, brecwast wedi’i goginio, cinio nos tri chwrs dan olau cannwyll a defnydd llawn o’r spa. Mae’r bwyty wedi derbyn tair Rhoséd yr AA am giniawa cain ac mae’r Sba yn cynnwys pwll nofio mawr dan do, pum ystafell ar gyfer triniaethau harddwch, bath sba, sawna, ystafell stêm a champfa. Ymgollwch eich hun yn y profiad cartref gwledig nodweddiadol hwn.

Adventure Parc Snowdonia

Mae Gogledd Cymru yn prysur ddod yn adnabyddus fel ‘prif ddinas antur Ewrop’, a gyda datblygiadau fel Adventure Parc Snowdonia, mae’n hawdd gweld pam! Mae’r canolbwynt i weithgareddau a ysbrydolwyd gan natur yn cynnig diwrnod allan perffaith i deuluoedd, cyplau neu grwpiau. O fis Ebrill ymlaen gallwch syrffio tonnau’r pwll syrffio mewndirol cyntaf yn y byd a chael hyfforddiant arbenigol gan yr academi syrffio. Ar gyfer gweithgaredd trwy gydol y flwyddyn nad ydynt yn dibynnu ar y tywydd, cymerwch olwg ar ein cyfleuster Adrenaline Indoors newydd sbon! Gyda chwech gwahanol fath o anturiaethau i ddewis o'u plith, bydd rhywbeth ar gael at ddant pawb! Archwiliwch y cwrs ogofau artiffisial hiraf yn y byd a phrofi gwefr y llithrennau eithafol, y cwrs rhaffau uchel a'r neidiau syrthio rhydd.

Gwely a Brecwast Escape

Gwely a Brecwast Escape

Llety bwtîc, cyfoes yn nhref glan môr hardd Llandudno! Mae’r ystafelloedd steilus a hudol i gyd wedi cael eu dylunio’n unigol i gyfuno swyn Fictoraidd yr adeilad gydag addurniadau a dodrefn modern. Cafodd yr ystafell frecwast ei hadnewyddu’n ddiweddar i greu golwg loyw a chyfoes, tra’n cynnal y gwydr lliw a’r gwaith pren o ganol y ddeunawfed ganrif. Bydd archebion uniongyrchol a gymerir ym mis Ionawr a Chwefror yn derbyn gostyngiad o 20%!

Buster's Cycle Hire

Buster's Cycle Hire

Oes gennych adduned Flwyddyn Newydd i fod yn ffit? Beth am archebu gwyliau beicio o amgylch arfordir prydferth Gogledd Cymru i roi hwb go iawn i’ch hun! Mae gan Buster's Cycle Hire ddigon o feiciau hybrid, dinas, MTB ac e-feiciau, yn ogystal â beics plant 20” a 24” a bygis a thagiau. Gyda chymaint o lwybrau beiciau a thraciau yng Ngogledd Cymru, mae beicio’n ffordd wych o grwydro’r rhan hardd hon o’r byd. Gallwch ddod i nôl y beiciau llog, neu gallwn ddod â nhw i westai, lletyau gwely a brecwast a pharciau gwyliau. Oes angen mwy o esgus arnoch chi?

Hostel Llandudno

Hostel Llandudno

Perffaith ar gyfer unigolion, teuluoedd, ysgolion a grwpiau sy’n chwilio am lety fforddiadwy yn Sir Conwy. Gyda 46 o wlâu ac ystod o becynnau arlwyaeth wedi eu teilwra'n benodol ar gael, gall gwesteion fwynhau gwyliau hamddenol wrth i dîm Hostel Llandudno wneud yr holl drefniadau gwyliau. Mae Hostel Llandudno hyd yn oed yn cynnig gwasanaeth cynllunio amserlen am ddim i helpu grwpiau i fanteisio i’r eithaf ar eu harosiad yng Ngogledd Cymru. Beth am adael iddyn nhw drefnu’r amserlen ar gyfer eich gwyliau gaeafol nesaf?  

RSPB Conwy

RSPB Conwy

Ewch draw i Warchodfa Natur RSPB Conwy ar y 25 a 26 Ionawr 2020 rhwng 1pm a 3pm ar gyfer eu digwyddiad Gwylio Adar yr Ardd. Ewch yn nes at natur a darganfod beth i’w fwydo i’ch cyfeillion pluog gartref drwy wrando ar y cyngor a’r wybodaeth sydd ar gael gan dîm gwybodus y warchodfa. Bydd hefyd gweithgareddau crefftau lle cewch y cyfle i faeddu’ch dwylo yn ogystal â chreu pwdinau blasus i’r adar. Peidiwch ag anghofio am y cynigion arbennig yn y siop ar y safle!

Ystâd Bodnant

Ystâd Bodnant

Lleolir Bodnant mewn ystâd breifat brydferth gyda chefn gwlad fryniog a choediog Dyffryn Conwy yn gefndir. Mae 10 o ffermdai a bythynnod ar gael ar yr ystâd sy’n cynnig lleoliad perffaith i grwydro atyniadau cyfagos yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gan gynnwys Gardd Bodnant a Chanolfan Arddio Bodnant. Neu gallwch fwynhau crwydro’r holl lwybrau o amgylch yr ystâd sy’n cynnig golygfeydd bendigedig o Eryri a Môr Iwerddon. Archebwch eich gwyliau gaeafol i brofi’r golygfeydd gaeafol godidog a’r mynyddoedd ag eira ar eu copaon a boreau gydag awyr iach gaeafol.

Petplace

Petplace

Cyflenwadau i anifeiliaid anwes, parc dan do i gŵn a bar coffi i chi a’ch cyfeillion pedair coes i'w fwynhau, y cyfan o dan yr un to! Mae Petplace yn siop gyfeillgar i gŵn eithriadol o boblogaidd yn Sir Conwy. Mae’r siop yn cadw popeth o fwyd anifeiliaid anwes, cyfarpar cysgu a harneisiau fel y gallwch ddod o hyd i'r holl hanfodion ar gyfer eich anifail anwes. Yn ogystal, gall eich ci fwynhau cael digonedd o ymarfer corff wrth chwarae gyda chyfeillion pedair coes yn y parc cŵn dan do newydd sbon. Cynhelir sesiynau chwarae drwy gydol y dydd i gŵn o bob maint a brîd. Ar ôl eich sesiwn chwarae, cewch ymlacio yn ein bar coffi ar y safle a sbwylio eich anifeiliaid anwes gyda chacennau a bisgedi blasus.  

Bythynnod Gwyliau Gogledd Cymru

Bythynnod Gwyliau Gogledd Cymru

Os ydych yn chwilio am brofiad ‘cartref oddi-cartref’ ar eich gwyliau nesaf, cymerwch olwg ar rai o’r eiddo a restrir gyda ‘North Wales Holiday Cottages’. Mae ganddynt dros 150 o fythynnod, ffermdai a fflatiau yn Llandudno, Conwy, Ynys Môn, Eryri, Betws-y-coed a Phenrhyn Llŷn. Cadwch eich llygaid ar agor am gynigion tymhorol ar rai o’r eiddo a restrir a dechreuwch gynllunio eich dihangfa dros y gaeaf i arfordir a chefn gwlad prydferth Gogledd Cymru. Neu drafodwch eich gofynion gyda’u tîm gwybodus a gadewch iddyn nhw ddod o hyd i’r llety gwyliau hunanddarpar perffaith i chi.  

Gwesty’r Imperial

Gwesty’r Imperial

Gwesty Fictoraidd gwobredig ger y môr! Mae Gwesty’r Imperial yn cynnig golygfeydd hardd dros Fae Llandudno ac mae’n gartref i Fwyty Chantrey’s sydd wedi ennill dwy Roséd yr AA. Beth am fanteisio ar eu cynnig Gaeaf ger y Môr presennol? Mae’r cynnig yn cynnwys gwydr o Brosecco a siocledi a grëwyd â llaw wrth gyrraedd, llety dros nos mewn ystafell ddwbl / ystafell bâr, cinio tri chwrs ym Mwyty Chantrey, brecwast Cymreig llawn a defnydd llawn o’r cyfleusterau ffitrwydd. Mae’r cynnig ar gael tan 29 Chwefror 2020. Archebwch rŵan i fwynhau teithiau cerdded yn yr awyr iach ger y môr cyn ymlacio yng nghyfleusterau moethus y gwesty!

Cysylltiedig

0 Sylwadau

#number# Sylwadau

Nid oes unrhyw un wedi gwneud sylw ar y neges hon eto, beth am anfon eich syniadau a bod yr un cyntaf i wneud?

Gadewch Ymateb