Yn PasgConwy

Mae’r Pasg bron yma ac  mae ‘na lawer o bethau cyffrous yn digwydd yn Sir Conwy i ddathlu’r achlysur - helfeydd wyau pasg, chwilio am gleddyfau a ras 5k ar Bromenad Llandudno, mae ‘na rywbeth i bawb ei fwynhau.  Dyma ein 10 dewis gorau ni:

  1. Dilyn llwybrau a Helfa Wyau Pasg yn Sŵ Mynydd Cymru

Dyddiadau: 6  Ebrill 2019 – 28 Ebrill 2019

Am dair wythnos dros Wyliau’r Pasg yn Sŵ Mynydd Cymru bydd llwybrau i chi eu dilyn. Ar ôl dilyn llwybr yn llwyddiannus a mynd â’ch taflen i’r siop, byddwch yn cael wy siocled blasus i adref efo chi!

Rhwng 19 Ebrill 2019 a 22 Ebrill 2019, bydd y sw hefyd yn cynnal ei Helfa Wy Pasg Cyntaf erioed! Bydd yr helfa’n digwydd ddwywaith y dydd, am  10.30am a 2.30pm.  Bydd pawb yn cael gwobr ar ddiwedd pob helfa.  Mae’r digwyddiad hwn AM DDIM ond rhaid cadw lle ymlaen llaw oherwydd bod cyfyngiad o 15 plentyn fesul sesiwn.

Cliciwch yma i ddarganfod mwy.

  1. Coedwig y Ddraig yn Zip World

Dyddiadau: 6 Ebrill 2019 – 28 Ebrill 2019

Bydd Zip World yn trawsnewid dros y Pasg i fod yn Goedwig y Ddraig!  Allwch chi weld yr holl drysor yn y goedwig wrth i chi hedfan drwy’r coed ar gefn y ddraig?  Neu allwch chi gasglu’r  holl drysor ar eich taith ar hyd y cwrs antur Hoppity Hoppers?

Os ‘da chi’n meddwl eich bod yn barod i wynebu’r her yna ymunwch yn yr hwyl yn Zip World Betws y Coed.  Fe fydd yna hefyd weithgareddau fel helfeydd trysor, crefftau, addurno bisgedi a peintio wynebau!

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.

  1. Chwilio am wyau yng Ngerddi Bodnant

Dyddiadau: 19 Ebrill 2019 – 22 Ebrill 2019

Bydd yr Helfa Wyau Cadbury flynyddol yn dychwelyd i Fodnant eleni.  Dilynwch y cliwiau o amgylch yr ardd a chrwydrwch o amgylch y caeau, y coedwigoedd, y bryniau a’r nentydd i ddod o hyd i’r siocled sydd wedi’i guddio’n ofalus o amgylch y lle.

Mae’r digwyddiad hwn yn un poblogaidd dros ben felly mae’n bwysig archebu lle ymlaen llaw.  

Cliciwch yma am restr o’r amseroedd a’r dyddiadau sydd ar gael ac i archebu lle.

  1. Chwilio am Gleddyfau yng Nghastell Conwy

© Crown copyright (2019) Cadw

llun: © Crown copyright (2019) Cadw

Dyddiadau: 19 Ebrill 2019 – 22 Ebrill 2019

Chwilio am rywbeth unigryw i’w wneud y Pasg hwn?  Beth am fynd draw i Gastell Conwy i helpu Daf, y gwarchodwr nos, i ddod o hyd i 12 o gleddyfau sydd wedi mynd ar goll. Cyfrifwch y cleddyf o amgylch y Castell a marciwch eu lleoliad ar y map cyn i’r Cwnstabl ddarganfod eu bod nhw wedi mynd!

Byddwch  hefyd yn cael cyfle i ddylunio eich tarian eich hun ar yr un pryd a dysgu am rai o’r symbolau a’r motifau oedd yn cael eu defnyddio’n aml ar arfau canoloesol.

Cliciwch yma i ddarganfod mwy.

  1. Helfa Wyau’r Ddraig yng Nghastell Gwrych

Dyddiadau: 19 Ebrill 2019 – 22 Ebrill 2019

Allwch chi helpu Arglwydd Thomas?  Mae ei ddraig anwes wedi dianc ac wedi dodwy wyau ymhobman o amgylch Castell Gwrych ac mae o angen help i ddod o hyd iddyn nhw i gyd.  Os allwch chi ddod o hyd i’r wyau i gyd, cewch syrpreis yn y gerddi ffurfiol fel gwobr.

CROESO I GŴN:  caniateir cŵn ar yr amod eich bod yn eu cadw ar dennyn byr, felly dewch a’ch cyfeillion pedair coes draw i ymuno yn yr hwyl!

Cliciwch yma  i ddarganfod mwy.

  1. Helfa Wyau Pasg yn Llyn Brenig

Dyddiadau: 19 Ebrill 2019 – 22 Ebrill 2019

Mae Llyn Brenig ynghanol Mynydd Hiraethog ac yn ganolfan gweithgareddau awyr agored sy’n cynnwys cerdded, beicio, pysgota a hwylio.  Y Pasg hwn gallwch fynd ar helfa wyau o amgylch y ganolfan ymwelwyr gan fwynhau’r golygfeydd a harddwch naturiol y lleoliad ar yr un pryd.

Cliciwch yma i ddarganfod mwy.

  1. Ras 5k y Promenâd yn Llandudno

Dyddiad: 20  Ebrill 2019

Eisiau cadw’n ffit y Pasg hwn, cyn mwynhau danteithion siocled blasus? Mae’r ras gyflym hon ar lwybr ‘yn ôl ac ymlaen’ ar y promenâd. Mae’r ras yn addas ar gyfer rhedwyr profiadol a dysgwyr fel ei gilydd. Ar ddiwedd y ras byddwch yn cael wyau pasg ac eitemau tymhorol eraill yn ogystal â medal i nodi eich camp.

Cliciwch yma  i gofrestru ac i gael rhagor o wybodaeth.

  1. Helfa Wyau Pasg a Chrefftau yng Nghanolfan RSPB Conwy

Dyddiad: 21 Ebrill 2019

Mae Bwni’r Pasg wedi cuddio Wyau Pasg blasus o amgylch y ganolfan RSPB yng Nghonwy.  Allwch chi ddilyn y cliwiau i ddod o hyd i’r siocled cudd? Bydd  tair helfa yn ystod y dydd rhwng 10.30am a 2.30pm.  Unwaith y byddwch wedi gorffen yr helfa,  beth am ddefnyddio eich sgiliau creadigol i greu crefftau’r Pasg gwych i fynd adref efo chi?

Byddai’n ddoeth archebu lle cyn gynted a phosibl gan fod hwn yn ddigwyddiad poblogaidd dros ben. Addas ar gyfer plant  o 3 i 8 oed.

Cliciwch yma i ddarganfod mwy.

  1. Llwybr Wyau Pasg ym Mhlas Mawr

Dyddiad: 21  Ebrill 2019

Tŷ Tref a adeiladwyd yn Oes Elisabeth yw Plas Mawr yng Nghonwy a gellir dadlau mai hwn yw’r enghraifft gorau o dŷ o’i fath o’r cyfnod hwnnw ym Mhrydain. Mae  Bwni’r Pasg yn sicr yn cytuno gan y bydd yn cuddio yno’r Sul y Pasg hwn. Allwch chi gwblhau’r llwybr a dod o hyd i guddfan y gwningen er mwyn ennill gwobr? Fe fydd ‘na hefyd weithgareddau crefft i chi gymryd rhan ynddyn nhw.

Cliciwch yma i ddarganfod mwy.

  1. Llwybr Wyau Pasg, Tŷ Mawr Wybrnant

Llun: National Trust Images / Arnhel de Serra

Dyddiad:  22 Ebrill 2019

Mae Tŷ Mawr Wybrnant wedi’i leoli yn Nyffryn Wybrnant ym Mro Machno, ger Betws y Coed yn sir Conwy.  Ar 22 Ebrill rydym yn eich gwahodd i ddod draw  i weld os gallwch ddarganfod arwyddion o’r gwanwyn a dod o hyd i greaduriaid y goedwig sy’n dechrau dod i’r golwg ar ôl gaeaf hir.  Chwiliwch ym mhob cwr a chornel am yr holl anifeiliaid er mwyn ennill eich gwobr siocled Cadbury.

Does dim  angen archebu lle.  Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.

Cysylltiedig

0 Sylwadau

#number# Sylwadau

Nid oes unrhyw un wedi gwneud sylw ar y neges hon eto, beth am anfon eich syniadau a bod yr un cyntaf i wneud?

Gadewch Ymateb