Cronfa yw hon i ddarparu cymorth ariannol i fusnesau sy’n wynebu heriau gweithredol ac ariannol a achosir gan y cyfyngiadau lleol a osodwyd yn eu hardal lleol yn sgil COVID-19.
Diben y gronfa yw cefnogi busnesau gyda chymorth llif arian i’w helpu i oresgyn canlyniadau economaidd y cyfyngiadau lleol a roddwyd ar waith yn eu hardal lleol.
Bydd busnesau yn gymwys i wneud cais am y gronfa hon pan fydd eu ardal lleol wedi bod dan gyfyngiadau am leiafswm o 21 diwrnod. Bydd y gronfa ar agor i geisiadau yn eich ardal lleol ar, neu yn fuan ar ol, 28 diwrnod o’r cyfyngiadau yn bod mewn lle.
Mae’n rhaid i fusnesau allu dangos gostyngiad o fwy na 40% mewn trosiant o ganlyniad i’r cyfyngiadau lleol a osodwyd fel canlyniad i COVID-19
Mae’r gronfa yn cynnwys dau grant ar wahân:
Grant Ardrethi Annomestig Cyfyngiadau Lleol
Mae’r grant ar gael i fusnesau sy’n gorfod talu ardrethi busnes.
Grant Dewisol Cyfyngiadau Lleol
Bydd ceisiadau’n derbyn sylw ar sail y cyntaf i’r felin. Gall hyn olygu na fydd rhai ceisiadau sydd wedi eu cyflwyno yn cael eu gwerthuso, os yw’r holl gronfa wedi cael ei defnyddio.
Cliciwch yma i ddarganfod mwy.