Mae pecyn Cymorth Penodol i’r Sector (cost gweithredu) wedi’i dargedu at fusnesau Lletygarwch, Twristiaeth a Hamdden neu gwmnïau cadwyn gyflenwi sy’n cael eu heffeithio’n sylweddol, gyda gostyngiad mewn trosiant o fwy na 60% o ganlyniad i’r cyfyngiadau.
Bydd yn rhaid i fusnesau cymwys gyflogi staff drwy PAYE, a naill ai wedi cofrestru ar gyfer TAW neu (wedi'u heithrio rhag TAW) gyda throsiant o fwy na £85,000, neu gwmnïau cyfyngedig sydd â throsiant o fwy na £50,000.
Gall busnesau sydd wedi defnyddio’r Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau Symud hefyd wneud cais i’r gronfa hon.
Nid yw busnesau sy'n gymwys ar gyfer y gronfa hon yn gymwys i gael grant Dewisol y Gronfa Busnes Cyfyngiadau
Ar gyfer busnesau cymwys, bydd y pecyn cymorth yn darparu’r dyfarniadau grant canlynol:
- Ar gyfer busnes un gweithiwr, isafswm grant o £2,500
- BBaChau (hyd at 249 o weithwyr) – £1,500 fesul cyflogai hyd at uchafswm o 10 cyflogai, sy’n gyfystyr â £15,000, neu ar gyfer y rhai sy’n cyflogi mwy na 10, £1,500 fesul cyflogai neu gostau gweithredu hunan-ddatganedig am y cyfnod cyfyngedig (pa un bynnag yw’r swm is).
- Byddai terfyn uchaf o £100,000 ar gyfer BBaChau gyda chais sy’n seiliedig ar system ddigidol.
- Busnesau mawr (250+ o weithwyr) – £500 y cyflogai ar gyfer busnesau mawr sydd â’u pencadlys yng Nghymru sy’n gwneud cais, hyd at uchafswm o £150,000, ar sail cais unigol â llaw drwy dîm y sector.
Gallwch ddefnyddio'r offeryn hwni wirio eich cymhwysedd ar gyfer Grant Penodol i'r Sector ERF COVID-19
Cadwch lygad am gyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru ynghylch pryd y bydd y ffurflenni ar-lein ar gael a sut y gellir cyflwyno ceisiadau.
Ar hyn o bryd mae disgwyl i bob cais fod yn wythnos agored yn dechrau 11 Ionawr 2021.