I greueich Amserlen eich hun, cliciwch
i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?

Rydych chi yma: Home > Porth Busnes > Ardoll Ymwelwyr Conwy
Cwestiynau Cyffredin Tudalen Busnes – Gwybodaeth am Ardoll Ymwelwyr i Fusnesau
C1: A yw Conwy wedi penderfynu cyflwyno Ardoll Ymwelwyr?
Na. Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi gwneud unrhyw benderfyniadau eto. Bydd cynnig i gynnal ymgynghoriad i geisio barn y diwydiant twristiaeth, trigolion lleol ac ymwelwyr ynglŷn â’r Ardoll Llety Ymwelwyr, yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn yn fuan yn 2026. Gofynnir i’r Cyngor os dylid dechrau proses ymgynghori yn Sir Conwy, nid a ddylid cyflwyno Ardoll Ymwelwyr. Bydd unrhyw benderfyniad terfynol i gyflwyno Ardoll yn cael ei wneud gan y Cyngor Llawn, yn ddiweddarach.
C2: Sut fyddai’r ardoll yn effeithio ar fy musnes?
Pe bai’n cael ei gyflwyno, byddai’r ardoll yn cael ei ychwanegu at gost aros dros nos a’i gasglu gan Awdurdod Refeniw Cymru. Bydd angen i chi brosesu datganiadau chwarterol neu flynyddol yn dibynnu ar faint o ardollau a gesglir gennych yn flynyddol.
C3: A fydd angen i mi gofrestru fy llety?
Bydd. Bydd angen i holl ddarparwyr llety yng Nghymru gofrestru gydag Awdurdod Refeniw Cymru o hydref 2026, os cyflwynir ardoll ai peidio.
C4: Sut allaf leisio fy marn?
Os ydym yn cyhoeddi ymgynghoriad, bydd busnesau yn cael gwahoddiad i rannu adborth. Bydd eich cyfraniad yn helpu i siapio penderfyniad Conwy.
Am wybodaeth i ymwelwyr, ewch i'r dudalen Cwestiynau Cyffredin i Ymwelwyr
© Conwy County Borough Council. Cedwir Pob Hawl
